The Bible Software
Ail Lyfr y Brenhinoedd · Beibl (1620)

Ail Lyfr y Brenhinoedd 4

1A’r brenin Solomon oedd frenin ar holl Israel.

2A dyma y tywysogion oedd ganddo ef: Asareia mab Sadoc, yr offeiriad;

3Elihoreff ac Ahia, meibion Sisa, oeddi ysgrifenyddion; Jehosaffat mab Ahilud, yn gofiadur;

4Benaia mab Jehoiada oedd ar y llu; a Sadoc ac Abiathar, yn offeiriaid;

5Ac Asareia mab Nathan oedd ar y swyddogion; a Sabud mab Nathan oedd ben-llywydd, ac yn gyfaill i’r brenin;

6Ac Ahisar oedd benteulu; ac Adoniram mab Abda, ar y deyrnged.

7A chan Solomon yr ydoedd deuddeg o swyddogion ar holl Israel, y rhai a baratoent luniaeth i’r brenin a’i dŷ: mis yn y flwyddyn yr oedd ar bob un ddarparu.

8Dyma eu henwau hwynt. Mab Hur, ym mynydd Effraim.

9Mab Decar ym Macas, ac yn Saalbim, a Beth-semes, ac Elon-bethanan.

10Mab Hesed, yn Aruboth: iddo efyr oedd Socho, a holl dir Heffer.

11Mab Abinadab oedd yn holl ardal Dor: Taffath merch Solomon oedd yn wraig iddo ef.

12Baana mab Ahilud oedd yn Taanach, a Megido, a Bethsean oll, yr hon sydd gerllaw Sartana, islaw Jesreel, o Bethsean hyd Abel-mehola, hyd y tu hwnt i Jocneam.

13Mab Geber oedd yn Ramoth-Gilead: iddo ef yr oedd trefydd Jair mab Manasse, y rhai sydd yn Gilead: eiddo ef oedd ardal Argob, yr hon sydd yn Basan; sef trigain o ddinasoedd mawrion, â chaerau a barrau pres.

14Ahinadab mab Ido oedd ym Mahariaim.

15Ahimaas oedd yn Nafftali: yntau a gymerodd Basmath merch Solomon yn wraig.

16Baana mab Husai oedd yn Aser ac yn Aloth.

17Jehosaffat mab Parua oedd yn Issachar.

18Simei mab Ela oedd o fewn Benjamin.

19Geber mab Uri oedd yng ngwlad Gilead, gwlad Sehon brenin yr Amoriaid.y ac Og brenin Basan; a’r unig swyddog oedd yn y wlad ydoedd efe.

20Jwda ac Israel oedd aml, fel y tywod sydd gerllaw y môr o amldra, yn bwyta ac yn yfed, ac yn gwneuthur yn llawen.

21A Solomon oedd yn llywodraethi ar yr holl deyrnasoedd, o’r afon hyd wlad y Philistiaid, ac hyd derfyn yr Aifft: yr oeddynt hwy yn dwyn anrhegion, ac yn gwasanaethu Solomon holl ddyddiau ei einioes ef.

22A bwyd Solomon beunydd oedd ddeg corus ar hugain o beilliaid, a thrigain corus o flawd;

23Deg o ychen pasgedig, ac ugain o ychen porfadwy, a chant o ddefaid, heblaw ceirw, ac iyrchod, a buail, ac ednod breision.

24Canys efe oedd yn llywodraethu ar y tu yma i’r afon oll, o Tiffsa byd Assa, ar yr holl frenhinoedd o’r tu yma i’r afon: ac yr oedd iddo ef heddwch o bob parth iddo o amgylch.

25Ac yr oedd Jwda ac Israel yn preswylio yn ddiogel, bob un dan ei winwydden a than ei ffigysbren, o Dan hyd Beer-seba, holl ddyddiau Solomon.

26Ac yr oedd gan Solomon ddeugain mil o bresebau meirch i’w gerbydau, a deuddeng mil o wŷr meirch.

27A’r swyddogion hynny a baratoent luniaeth i Solomon y brenin, ac i bawb a ddelai i fwrdd y brenin Solomon, pob un yn ei fis: ni adawsant eisiau dim.

28Haidd hefyd a gwellt a ddygasant hwy i’r meirch, ac i’r cyflym gamelod, i’r fan lle y byddai y swyddogion, pob un ar ei ran.

29A Duw a roddodd ddoethineb i Solomon, a deall mawr iawn, a helaethdra calon, fel y tywod sydd ar fin y môr.

30A doethineb Solomon oedd fwy na doethineb holl feibion y dwyrain, ac na holl ddoethineb yr Aifft.

31Ie, doethach oedd efe nag un dyn; nag Ethan yr Esrahiad, na Heman, nai. Chalcol, na Darda, meibion Mahol: a’i enw ef oedd ymhlith yr holl genhedloedd oddi amgylch.

32Ac efe a lefarodd dair mil o ddiarhebion: a’i ganiadau ef oedd fil a phump.

33Llefarodd hefyd am brennau, o’r cedrwydd sydd yn Libanus, hyd yr isop a dyf allan o’r pared: ac efe a lefarodd am anifeiliaid, ac am ehediaid, ac am ymlusgiaid, ac am bysgod.

34Ac o bob pobloedd y daethpwyd i wrando doethineb Solomon, oddi wrth holl frenhinoedd y ddaear, y rhai a glywsent am ei ddoethineb ef.

← Ail Lyfr y Brenhinoedd 3Read In The App, Free →Ail Lyfr y Brenhinoedd 5 →

Study Ail Lyfr y Brenhinoedd 4

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122