Yr Efengyl yn ôl Luc 16
1AZ; efe a ddywedodd llefyd wrth ei ddisgyblion, Yr oedd rhyw wrgoludog, yr hwn oedd ganddo oruchwyliwr; a hwn a gyhuddwyd wrtho, ei fod efe megis yn afradloni ei dda ef.
2Ac efe a’i galwodd ef, ac a ddywedodd wrtho. Pa beth yw hyn yr wyf yn ei glywed amdanat? dyro gyfrif o’th oruchwyliaeth: canys ni elli fod mwy yn oruchwyl¬iwr.
3A’r goruchwyliwr a ddywedodd ynddo ei hun., Pa beth a wnaf? canys y mae fy atglwydd yn dwyn yr oruchwyhaeth oddi arnaf: cloddio nis gallaf, a chardota sydd gywilyddus gennyf.
4Mi a wn beth a wnaf, fel, pan y’m bwrier allan o’r oruchwyliaeth, y derbyniont fi i’w tai.
5Ac wedi iddo alw ato bob un o ddyledwyr ei arglwydd, efe a ddywedodd wrth y cyntaf. Pa faint sydd arnat ti o ddyled i’m harglwydd?
6Ac efe a ddywedodd. Can mesur o olew. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer dy ysgrifen, ac eistedd ar frys, ac ysgrifenna ddeg a deugain.
7Yna y dywedodd wrth un arall, A pha faint o ddyled sydd arnat tithau? Ac efe a ddywedodd. Can mesur o wenith. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymer dy ysgrifen, ac ysgrifenna bedwar ugain.
8A’r arglwydd a ganmolodd y goruch¬wyliwr anghyfiawn, am iddo wneuthur yn gall: oblegid y mae plant y byd hwn yn gallach yn eu cenhedlaeth na phlant y goleuni.
9Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, Gwnewch i chwi gyfeillion o’r mamon anghyfiawn: fel, pan fo eisiau arnoch, y’ch derbyniont i’r tragwyddol bebyll.
10Y neb sydd ffyddlon yn y lleiaf, sydd ffyddlon helyd mewn llawer; a’T neb sydd anghyfiawn yn y lleiaf, sydd anghytiawn hefyd mewn llawcr.
11Am hynny, oni buoch nyddlon yn y mamon anghyfiawn, pwy a ymddiried i chwi am y gwir olud?
12Ac oni buoch ffyddlon yn yr eiddo aRill, pwy a rydd i chwi yr eiddoch eicfa hun?
13Ni ddiclion un gwas wasanaethu dan. arplwydd: canys n.iill ai efe a gasa y naill, ac u gAr y llall; ai efe a lyn wrth y aaill, ac a ddirmyga’r llall. Ni ellwch. wasanaethu Duw a mamon.
14A’r Plmri.sc.iid hefyd, y rhai oedd ariangar, a glywsant y pethau hyn oll, ac a’i gwatwarasant ef.
15Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwychwi yw’r rhai sydd yn eich cyfiawnhau eich hunain gerbron dynion; eithr Duw a w^yr eich calonnau chwi: canys y peth sydd uchel gyda dynion, sydd ffiaidd gerbron Duw.
16Y gyfraith a’r proffwydi oedd hyd loan: er y pryd hwnnw y pregethir ttyrnas Dduw, a phob dyn sydd yn ymwthio iddi.
17A haws yw i nef a daear fyned herbdo, nag i un tipyn o’r gyfraith ballu.
18Pwy bynnag a ollyngo ymaith ei. wraig, ac a briodo un arall, y mae efe yn godinebu; a phwy bynnag a briodo’r hon. a ollyngwyd ymaith oddi wrth ei gŵr, y mae efe yn godinebu.
19Yr oedd rhyw ŵr goludog, ac a wisgid a phorffor a Uiain main, ac yi? oedd yn cymryd byd da yn helaethwych beunydd:
20Yr oedd hefyd ryw gardotyn, a’i enw Lasarus, yr hwn a fwrid wrth ei borth ef yn gornwydlyd,
21Ac yn chwenychu cael ei borthi a.’r briwsion a syrthiai oddi ar fwrdd y gŵr cytocthog; ond y cwn a ddaethant, ac a lyfiisant ei gornwydydd ef.
22A bu, i’r cardotyn farw, a’i ddwyr» gan yr angylion i fynwes Abraham. A’r goludog hefyd a fu farw, ac a gladdwyd;
23Ac yn uffern efe a gododd ei olwg, ac etc mewn poenau, ac a ganfu Abraham a hirbcll, a Lasarus yn ei fynwes.
24Ac efe a lefodd, ac a ddywedodd, O’ dad Abraham, trugarha wrthyf, a danfeaa Lasarus, i drocni pen ei fys mewn; dwfr, ac i oeri fy nhafod:canys fe a’m. poenir yn y fflam hon. ‘
25Ac Abraham a ddywedodd. Ha fab, coffa i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fywyd, ac felly Lasarus ei adfyd: ac yn awr y di-ddenir ef, ac y poenir dithau.
26Ac heblaw hyn oll, rhyngom ni a chwithau y sicrhawyd agendor mawr: fel na allo’r rhai a fynnent, dramwy oddi yma atoch chwi; na’r rhai oddi yna, dramwy atom ni.
27Ac efe a ddywedodd, Yr wyf yn atolwg i ti gan hynny, O dad, ddanfon ohonot ef i dŷ fy nhad;
28Canys y mae i mi bump o frodyr: fel y tystiolaetho iddynt hwy, rhag dyfod ohonynt hwythau hefyd i’r lle poenus hwn.
29Abraham a ddywedodd wrtho, Y mae ganddynt Moses a’r profiwydi; gwrandawant arnynt hwy.
30Yntau a ddywedodd, Nage, y tad Abraham: eithr os a un oddi wrth y meirw atynt, hwy a edifarhant.
31Yna Abraham a ddywedodd wrtho, Oni wrandawant ar Moses a’r proffwydi, ni chredant chwaith pe codai un oddi wrth y meirw.