The Bible Software
Yr Efengyl yn ôl Luc · Beibl (1620)

Yr Efengyl yn ôl Luc 2

1BU hefyd yn y dyddiau hynny, fyned gorchymyn allan oddi wrth Augus¬tus Cesar, i drethu’r holl fyd.

2(Y trethiad yma a wnaethpwyd gyntaf pan oedd Cyrenius yn rhaglaw ar Syria.)

3A phawb a aethant i’w trethu, bob’ mi. i’w ddinas ei hun.

4A Joseff hefyd a aeth i fyny o Galilea», o ddinas Nasareth, i Jwdea, i ddinas Dafydd, yr hon a elwir Bethlehem (am ei &d o dy a thylwyth Dafydd),

5I’w drethu gyda Mair, yr hon a ddyweddiasid yn wraig iddo, yr hon oedd yn feichiog.

6A bu, tra oeddynt hwy yno, cyf— lawnwyd y dyddiau i esgra" ohoni.

7A hi a esgorodd ar ei mab cyntaf-anedig, ac a’i rhwymodd ef mewn cad-achau, ac a’i dododd ef yn y preseb, am nad oedd iddynt le yn y llety.

8Ac yr oedd yn y wlad honno fugeiLiaid yn aros yn y maes, ac yn gwylied eu praidd liw nos.

9Ac wele, angel yr Arglwydd a safodd gerllaw iddynt, a gogoniant yr Arglwydd a ddisgleiriodd o’u hamgylch: ac ofni yn ddirfawr a wnaethant.

10A’r angel a ddywedodd wrthynt Nac ofnwch: canys wele, yr wyf fi yn mynegi i chwi newyddion da o lawenydd mawr, yr hwn a fydd i’r holl bobl:

11Canys ganwyd i chwi heddiw Gc idwad yn ninas Dafydd, yr hwn yw Crisi yr Arglwydd.

12A hyn fydd arwydd i chwi; Chwi a gewch y dyn bach wedi ei rwymo mewit, cadachau, a’i ddodi yn y preseb.

13Ac yn ddisymwth yr oedd gyda’r angel liaws o lu nefol, yn moliannu Duw, ac yn dywedyd,

14Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac S. WQ 2 ar y ddaear tangaefedd, i ddynion ewyllys da.

15A bu, pan aeth yr angylion ymaith oddi wrthynt i’r nef, y bugeiliaid hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd. Awn hyd Fethlehem, a gwelwn y peth hwn a wnaethpwyd, yr hwn a hysbysodd yr Arglwydd i ni.;

16A hwy a ddaethant ar frys; ac ‘a gawsant Mair a Joseff, a’r dyn bach yn gorwedd yn y preseb.

17A phan welsant, hwy a gyhoeddasant y gair a ddywedasid wrthynt am y bach¬gen bwn.

18A phawb a’r a’i clywsant, a ryfeddasant am y pethau a ddywedasid gan y bugeiliaid wrthynt.

19Eithr Mair a gadwodd y pethau hyn oll, gan eu hystyried yn ei chalon.

20A’r bugeiliaid a ddychwelasant, gan ogoneddu a moliannu Duw am yr hpU bethau a glywsent ac a welsent, fel;y dywedasid wrthynt.;

21A phan gyflawnwyd wyth niwl-nod i enwaedu ar y dyn bach, galwyd ei enw ef IESU, yr hwn a enwasid gan yr angel cyn ei ymddwyn ef yn y groth.

22Ac wedi cyflawni dyddiau ei phuredigaeth hi, yn ôl deddf Moses, hwy a’i dygasant ef i Jerwsalem, i’w gyflwyno i’r Arglwydd,

23(Fel yr ysgrifennwyd yn neddf ys Arglwydd, Pob gwryw cyntaf-anedig a elwir yn sanctaidd i’r Arglwydd;)

24Ac i roddi aberth, yn ôl yr hyn.a-ddywedwyd yn neddf yr Arglwydd, P r e durturod, neu ddau gyw colomen.;

25Ac wele, yr oedd gŵr yn JerwsaleHl, a’i enw Simeon; a’r gŵr hwn oedd gyfiawn a duwiol, yn disgwyl am ddi-ddanwch yr Israel: a’r Ysbryd Glân oedd arno.

26Ac yr oedd wedi ei hysbysu iddo gan yr Ysbryd Glân, na welai efe angau, cyn iddo weled Crist yr Arglwydd.

27Ac efe a ddaeth trwy’r ysbryd i’r deml: a phan ddug ei rieni y dyn bach Iesu, i wneuthur drosto yn ôl defod y gyfiaith;

28Yna e& a’i cyxaeitfa sfyn ei freich iau, ac a fendithiodd Dduw, ac a ddy¬wedodd,

29Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi 4y was mewn tangnefedd, yn el dy air:

30Canys fy llygaid a welsant dy iachawdwriaeth,

31Yr hon a baratoaist gerbron wyneb yr holl bobloedd;;

32Goleuni i olcuo y Cenhedloedd, a gogoniant dy bobl Israel...;

33Ac yr oedd Joseff a’i fam ef yn rhyfeddu am y pethau a ddywedwyd?ind»W ef. ‘.

34A Simeon a’u bcndithiodd hwynt, ac a ddywedodd wrth Mair ei fam ef, Wele, hwn a osodwyd yn gwymp ac yn gyfodiad i lawer yn Israel, ac yn arwydd yr hwn y dywedir yn ei erbyn;

35(A thrwy dy enaid di dy hun hefyd yr â cleddyf;) fel y datguddir meddyliau llawer o galonnau.

36Ac yr oedd Anna broffwydes, merch Phanwel, o lwyth Aser: hon oedd oedrannus iawn, ac a fuasai fyw gyda gŵr saith mlynedd o’i morwyndod;

37Ac a fuasai yn weddw ynghylch pedair a phedwar ugain mlynedd, yr hon nid ai allan o’r deml, ond gwasanaethu Duw mewn ymprydiau a gweddïau ddydd a nos.

38A hon hefyd yn yr awr honno, gan sefyll gerllaw, a foliannodd yr Arglwydd, ac a lefarodd amdano ef wrth y rhai oll oedd yn disgwyl ymwared yn Jerwsalem.

39Ac wedi iddynt orffen pob peth yn el deddf yr Arglwydd, hwy a ddychwel¬asant i Galilea, i’w dinas eu hun Nasareth.

40A’r hadigen a gynyddodd, ac a gryfhaodd yn yr ysbryd, yn gyflawn o ddoethineb: a gras Duw oedd arno ef.

41A’i ricni ef a aent i Jerwsalem bob blwyddyn ar ŵyl y pasg.

42A phan oedd efe yn ddeuddeng mlwyild oed, hwynt-hwy a aethant i fyny i Jcrwti.ilem yn ôl defod yr wyl.

43Ac wedi gorffen y dyddiau, a hwy yn dychwelyd, arbosodd y baeligen Iesu yn JcrwsaliBia, ac ni wyddai Joseff a’i fam ef:,

44Eithr gaa’dybied ei fod ef yo y fintai, hwy a aethant daith diwrnod; ac a’i ceisiasant ef ymhlith eu cenedl a’u cydnabod.

45A phryd na chawsant ef, hwy a ddychwelasant i Jerwsalem, gan ei geisio ef.

46A bu, ar ôl tridiau, gael ohonynt hwy ef yn y deml, yn eistedd yng nghanol y doctoriaid, yn gwrando arnynt, ac yn eu holi hwynt.

47A synnu a wnaeth ar bawb a’r’a’i clywsant ef, oherwydd ei ddeall ef a’i atebion.

48A phan welsant ef, bu aruthr ganddynt. A’i fam a ddywedodd wrtho, Fy mab, paham y gwnaethost felly 8 ni? wele, dy dad a minnau yn ofidus a’th geisiasom di.

49Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham y ceisiech fi? oni wyddech fod yn rhaid i mi fod ynghylch y pethau a berthyn i’m Tad?:

50A hwy ni ddeallasant y gair a ddywedasai efe wrthynt.

51Ac efe a aeth i waered gyda hwynt, ac a ddaeth i Nasareth, ac a fu ostyngedig iddynt. A’i fam ef a gadwodd yr holl eiriau hyn yn ei chalon.

52A’r Iesu a gynyddodd mewn doethineb a chorffolaeth, a ffafr gyda Duw a dynion.

← Yr Efengyl yn ôl Luc 1Read In The App, Free →Yr Efengyl yn ôl Luc 3 →

Study Yr Efengyl yn ôl Luc 2

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesThe Fourfold GospelJohn LightfootGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324