The Bible Software
Yr Efengyl yn ôl Luc · Beibl (1620)

Yr Efengyl yn ôl Luc 5

1Bu hefyd, a’r bobl yn pwyso ate i wrando gair Duw, yr oedd yntaw yffi sefyll yn ymyl Ilyn Gennesaret;

2Ac efe a welai ddwy long yn sefyll wrth y Ilyn: a’r pysgodwyr a aethent allaa ohonynt, ac oeddynt yn goletia? e’s rhwydau.

3Ac efe a aeth i mewn i un o’r Hongau yr hon oedd eiddo Sinion, ac a ddy— munodd arno wthio ychydig oddi wrth y tir. Ac efe a eisteddodd, ac a ddysgodkt y bobloedd allan o’r llong.

4A phan beidiodd â llefaru, efe a ddywedodd wrth Simon, Gwthia i’r dwfn, a bwriwch eich rhwydau am helfa.

5A Simon a atebodd ac a ddywedodd wrtho, O Peistr, er i ni boeni ar hyd y nos, ni ddaliasom ni ddim: eto ar dy air di mi a fwriaf y rhwyd.

6Ac wedi iddynt wneuthur hyniiy, hwy a ddaiiasant liaws mawr o bysgad: a’tt rhwyd hwynt a rwygodd.

7A hwy a amneidiasant ar eu cyf-eillion, oedd yn y lloag arall, i ddyfod i’w cynorthwyo hwynt. A hwy a ddaethant, a llanwasant y ddwy loag, onid oeddynt hwy ar soddi.

8A Simon Pedr, pan. welodd hynnyi a syrthiodd wrth liniau’r Iesua gan ddy¬wedyd, Dog- ymaith oddi < wthyf; canys dyn pechadurus wyf fi, O Arglwydd.

9Oblegid braw a ddaethai amo ef, a’r rhai oll oedd gydag ef, oherwydd yr helfa bysgod a ddaliasent hwy;

10A’r un ffunud ar Iago ac loan hefyd, meibion Sebedeus, y rhai oedd gyfranogion & Siltton. A dywedodd yr Iesu wrth Simon, Nac ofna: o hyn allan y deli ddynk a.

11Ac wedi iddynt ddwyn y llongau i dir, hwy a adawsant bob peth, ac a’i dilynasant ef.

12A bu, fel yr oedd efe mewn rhyw ‘ddinas, wele ŵr yn llawn o’r gwahatt- glwyf: a phan welodd efe yr lesru, efe a Syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, O Arglwydd, bs ewyllysi, ti a elli fy nglanhau.

13Yntau a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, Yr wyf yn ewyllysio; bydd lan. Ac yn ebrwydd y gwahanglwyf a aeth ymaith oddi wrtho.

14Ac efe a orchmynnodd iddo na ddywedai i neb: eithr dos ymaith, a dangos dy hun i’r offeiriad, ac offrwm dros dy lanhad, fel y gorchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt.

15A’r gair amdano a aeth yn fwy ar led: a llawer o bobloedd a ddaethant ynghyd i’w wrando ef, ac i’w hiacháu ganddo o’u clefydau.

16Ac yr oedd efe yn cilio o’r neillto yn y dineithwch, ac yn gweddïo.

17A bu ar ryw ddiwrnod, fel yr oedd efe yn athrawiaethu, fod Phariseaid a doctoriaid y gyfraith yn eistedd yno,’"y rhai a ddaethent o bob pentref yng Ngalilea, a Jwdea, a Jerwsalem: ac yr oedd gallu’r Arglwydd i’w hiacháu hwynt.

18Ac wele wŷr yn dwyn mewn gwely ddyn a oedd glaf o’r parlys: a hwy a geisiasant ei ddwyn ef i mewn, a’i ddodi ger ei fron ef.

19A phan na fedrent gael pa ffordd y dygent ef i mewn, o achos y dyrfa, hwy a ddringasant ar nen y tŷ, ac a’i gollyngasant ef i waered yn y gwely trwy’r priddlechau, yn y canol gerbron yr Iesu.

20A phan welodd efe eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd wrtho, Y dyn, maddeuwyd i ti dy bechodau.

21A’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid a ddechreuasant ymresymu, gan ddywedyd, Pwy yw hwn sydd yn dywedydf cabledd? pwy a ddichon faddau pechodau ond Duw yn unig?;

22A’r Iesu, yn gwybod eu hymresymiadau hwynt, a atebodd ac a ddy¬wedodd wrthynt, Pa resymu yn eich calonnau yr ydych?

23Pa un hawsaf, ai dywedyd, Madd-euwyd i ti dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a rhodia?

24Ond fel y gwypoch fod gan Fab y dyn awdurdod ar y ddaear i faddau pechodau, (eb efe wrth y claf o’r partys,), Yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod, a chymer dy wely, a dos i’th dŷ.

25Ac yn y man y cyfododd efe i fyny yn eu gŵydd hwynt; ac efe a gymerth yr hyn y gorweddai arno, ac a aeth ymaith i’w dŷ ei hun, gan ogoneddu Duw.

26A syndod a ddaeth ar bawb, a hwy a ogoneddasant Dduw; a hwy a lanwyd o ofn, gan ddywedyd, Gwelsom bethau anhygoel heddiw.

27II Ac ar ôl y pethau hyn yr aeth efe allan, ac a welodd bublican, a’i enw Lefi, yn eistedd wrth y dollfa; ac efe a ddy¬wedodd wrtho, Dilyn fi.

28Ac efe a adawodd bob peth, ac a gyfododd i fyny, ac a’i dilynodd ef.

29A gwnaeth Lefi iddo wledd fawr yn ei dŷ: ac yr oedd tyrfa fawr o bublicanod ac eraill, yn eistedd gyda hwynt ar y bwrdd.

30Eithr eu hysgrifenyddion a’u Pharis¬eaid hwynt a furmurasant yn erbyn e?» ddisgyblion ef, gan ddywedyd, Paham yr ydych chwi yn bwyta ac yn yfed gyda phublicanod a phechaduriaid?

31A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid i’r rhai iach wrth feddyg; ond i’r rhai cleifion.

32Ni ddeuthum i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid, i edifcirwch.

33A hwy a ddywedasant wrtho, Paham y mae disgyblion loan yn ymprydio yn fynych, ac yn gwneuthur gweddïau, a’r un modd yr eiddo y Phariseaid; ond yr eiddot ti ynbwyta;ac yn yfed?

34Yntau a ddywedodd- wrthynt, A ellwch chwi beri i blant yr ystafell briodas ymprydio, tra fyddo’r priodasfab gyda hwynt?

35Ond y dyddiau a ddaw, pan ddyger y priodasfab oddi arnynt: ac yna yr ymprydiant yn y dyddiau hynny.

36Ac efe a ddywedodd hefyd ddameg wrthynt: Ni rydd neb lain o ddilledyn newydd mewn hen ddilledyn: os amgen, y mae’r newydd yn gwneuthur rhwygiad, a’r llain o’r newydd ni chytuna a’r hen.

37Ac nid yw neb yn bwrw gwin newydd i hen gostrelau: os amgen, y gwin new¬ydd a ddryllia’r costrelau, ac efe a red allan, a’r costrelau a gollir.

38Eithr gwin newydd sydd raid ei fwrw mewn costrelau newyddion; a’r ddau a gedwir.

39Ac nid oes neb, gwedi iddo yfed gwin hen, a chwennych y newydd yn y fan: canys efe a ddywed, Gwell yw’r hen.

← Yr Efengyl yn ôl Luc 4Read In The App, Free →Yr Efengyl yn ôl Luc 6 →

Study Yr Efengyl yn ôl Luc 5

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesThe Fourfold GospelJohn LightfootGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324