Yr Efengyl yn ôl Luc 7
1A wedi iddo orffen ei holl ymadroddion lle y clywai’r bobl, efe a aethi mewn i Gapernaum.
2A gwas rhyw ganwriad, yr hwn oedd annwyl ganddo, oedd yn ddrwg ei hwyl, ymron marw.
3A phan glybu efe son am yr Iesu, efe a ddanfonodd atto henur iaid yr Iddewon’, gan atolwg iddo ddyfod a iacháu ei was ef.
4Y rhai pan ddaethant at yr Iesu, a atolygasant arno yn daer, gan ddywedyd, Oblegid y mae efe yn haeddu cael gwneuthur ohonot hyn iddo;
5Canys y mae yn caru ein cenedl m, ac, efe a adeiladodd i ni synagog.
6A’r Iesu a aeth gyda hwynt. Ac efe weithian heb fod nepell oddi wrth y tŷ, y canwriad a anfonodd gyfeillion ato, gan ddywedyd wrtho, Arglwydd, na phoena; canys nid wyf fi deilwng i ddyfod ohonot dan fy nghronglwyd: i’
7Am hynny ni thybiais fy hun yn deilwng i ddyfod atat: eithr dywed y gair, a iach fydd fy ngwas.
8Canys dyn wyf finnau wedi fy ngosod, dan awdurdod, a chennyf filwyr danaf: ‘ ac meddaf wrth hwn, DOS, ac efe a a; ac wrth arall. Tyred, ac efe a ddaw; ac wrth fy ngwas, Gwna hyn, ac efe a’i gwna.
9Pan glybu’r Iesu y pethau hyn, efe a ryfeddodd wrtho, ac a drodd, ac a ddywedodd wrth y bobl.oedd yn ei ganlyn, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni chefais gymaint ffydd, naddo yn yr Israel.
10A’r rhai a anfonasid, wedi iddynt ddychwelyd i’r tŷ, a gawsant y gwas a fuasai glaf, yn holliach.
11A bu drannoeth, iddo ef fyned i ddinas a elwid Nain; a chydag ef yr aeth llawer o’i ddisgyblion, a thyrfa fawr.
12A phan ddaeth efe yn agos at borth y ddinas, wele, un marw a ddygid allan, yr hwn oedd unig fab ei fam, a honno yn weddw: a bagad o bobl y ddinas oedd gyda hi.
13A’r Arglwydd pan welodd hi, a gymerodd drugaredd arni, ac a ddywedodd wrthi, Nac wyla.
14A phan ddaeth atynt, efe a gyff-yrddodd a’r elor: a’r rhai oedd yn ei dwyn, a safasant. Ac efe a ddywedodd, Y mab ieuanc, yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod.
15A’r marw a gyfododd yn ei eistedd, ac a ddechreuodd lefaru. Ac efe a’i rhoddes i’w fam.
16Ac ofn a ddaeth ar bawb: a hwy a ogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, Proffwyd mawr a gyfododd yn ein plith, ac, Ymwelodd Duw a’i bobl.
17A’r gair hwn a aeth allan amdano trwy holl Jwdea, a thrwy gwbl o’r wlad oddi amgylch.
18A’i ddisgyblion a fynegasant i loan hyn oll.
19Ac loan, wedi ‘galw rhyw ddau oll ddisgyblion ato, a anfonodd at yr Iesu, gan ddywedyd, Ai ti yw’r hwn sydd yn dyfod? ai un arall yr ym yn ei ddisgwyl?
20A’r gwŷr pan ddaethant ato, a ddywedasant, loan Fedyddiwr a’n danfonodd ni atat ti, gan ddywedyd, Ai ti yw’r hwn sydd yn dyfod? ai arall yr ym yn ei ddisgwyl?
21A’r awr honno efe a iachaodd liiwer oddi wrth glefydau, a phlau, ac ysbrydion drwg; ac i lawer o ddcilhon y rhoddes etc eu golwg.
22A’r Iesu a atebodd;IL;i (.Idywedodd wrthynt, Ewch, a mynegwch i loan y pethau a welsoch ac a glywsocli; fod y deillion yn gweled eilwaith, y cloffion yn rhodio, y gwahanglwyfus wedi en glanhau, y byddariaid yn clywed, y meirw yn cyfodi, y tlodion yn derbya yr efengyl.
23A gwyn ei fyd y neb ni rwystrir ynof fi.
24Ac wedi i genhadau loan fyned ymaith, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am loan. Beth yr aethoch allan i’r diffeithwch i’w weled? Ai corsen yn siglo gan wynt?
25Ond pa beth yr aethoch allan i’w weled? Ai dyn wedi ei ddilladu a dillad esmwyth? Wele, y rhai sydd yn arfer dillad anrhydeddus, a moethau, mewn palasau brenhinoedd y maent.
26Eithr beth yr aethoch allan i’w wefed? Ai proffwyd? Yn ddiau meddaf i’chwi, a llawer mwy na phroffwyd.
27Hwn yw efe am yr un yr ysgrifennwyd, Wele, yr wyf fi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a baratoa dy ffordd o’th flaen.
28Canys meddaf i chwi, Ymhlith y rhai a aned o wragedd, nid oes broffwyd mwy nag loan Fedyddiwr: eithr yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas Dduw, sydd fwy nag ef.
29A’r holl bobl a’r oedd yn gwrando, a’r publicanod, a gyfiawnhasant Dduw, gwedi eu bedyddio a bedydd loan.
30Eithr y Phariseaid a’r cyfreithwyr yn eu herbyn eu hunain a ddiystyrasant gyngor Duw, heb eu bedyddio ganddo.
31A dywedodd yr Arglwydd, I bwy gan hynny y cyffclybaf ddynion y genhedlaeth hon? ac i ba beth y maent yn debyg?
32Tebyg ydynt i blant yn eistedd yn y farchnud, ac yn llcfain wrth ei gilydd, ac yn dywedyd, Canasom bibau i chwi, ac ni ddawnsinsoch; cwynfanasom i chwi, ac nid wylasoch.
33Canys daeth loan Fedyddiwr heb na bwyta bara, nac yfed gwin; a chwi a ddywedwch, Y mae cythraul gnnddo.
34Daeth Mab y dyn yn bwyta ac yn yfed; ac yr ydych yn dywedyd, Wele ddyn glwth, ac yfwr Rwm, cyfaill piab-licanod a phechiidiin;iid.
35A doethineb a gyfiawnhawyd gan bawt o’i phlant.
36Ac un o’r Phariseaid a ddymunodd arno fwyta gydag ef: ac yntau a aeth i dy’r pharisead, ac a eisteddodd i fwyta.
37Ac wele, gwraig yn y ddinas, yr hon oedd bechadures, pan wybu hi fod yr Iesu yn eistedd ar y bwrdd yn nhy’r Pharisead, a ddug flwch o ennaint:
38A chan sefyll wrth ei draed ef o’r tu ôl, ac wylo, hi a ddechreuodd olchi ei draed ef a dagrau, ac a’u sychodd a gwalli ei phen: a hi a gusanodd ei draed ef, ac a’u hirodd a’r ennaint.
39A phan welodd y Pharisead, yr hwn a’i gwahoddasai, efe a ddywedodd ynddo ei luin, gan ddywedyd, Pe bai hwn brofiwyd, efe a wybuasai pwy, a pha fath wraig yw’r hon sydd yn cyffwrdd ag ef: canys pechadures yw hi.
40A’r Iesu gan ateb a ddywedodd wrtho, Simon, y mae gennyf beth i’w ddywedyd wrthyt. Yntau a ddywedodd, Athro, dywed.
41Dau ddyledwr oedd i’r un echwynnwr: y naill oedd arno bum can ceiniog o ddyled, a’r llall ddeg a deugain.
42A phryd nad oedd ganddynt ddim i dalu, efe a faddeuodd iddynt ill dau. Dywed gan hynny, pwy o’r rhai hyn a’i car ef yn fwyaf?
43A Simon a atebodd ac a ddywedodd, Yr»yf fi’n tybied mai’r hwn y maddeuodd efe iddo fwyaf. Yntau a ddywedodd wnbo, Uniawn y bernaist.
44Ac efe a drodd at y wraig, ac a ddy¬wedodd wrth Simon, A weli di’r wraig hon? mi a ddeuthum i’th dy di, ac ni roddaist i mi ddwfr i’m traed: ond hon a olcbodd fy nhraed a dagrau, ac a’u sych¬odd a gwallt ei phen.
45Ni roddaist i mi gusan: ond hon, er pan ddeuthum i mewn, ni pheidiodd â chusanu fy nhraed.
46Fy mhen ag olew nid iraist: ond hon a iiodd fy nhraed ag ennaint. 4’; Oherwydd paham y dywedaf wrthyt, Maddeuwyd ei hami bechodau hi; oblegid hi a garodd yn fawr: ond y neb y niaddeuer ychydig iddo, a gar ychydig.
48Ac efe a ddywedodd wrthi, Maddeuwyd i ti dy bechodau.
49A’r rhai oedd yn cydeistedd i fwyta a ddechreuasant ddywedyd ynddynt eu hunain, Pwy yw hwn sydd yn maddau pechodau hefyd?
50Ac efe a ddywedodd wrth y wraig, Dy ffydd a’th gadwodd; dos mewn tangnefedd.