Yr Efengyl yn ôl Luc 8
3Joanna, gwraig Chusa goruchwyliwr Herod, a Susanna, a llawer eraill, y rhai oedd yn gweini iddo o’r pethau oedd ganddynt.
4Ac wedi i lawer o bobl ymgynnull ynghyd, a chyrchu ato o bob dinas, efe a ddywedodd ar ddameg:
5Yr heuwr a aeth allan i hau ei had: ac wrth hau, peth a syrthiodd ar ymyl y ffordd, ac a fathrwyd; ac ehediaid y nef a’i bwytaodd.
6A pheth arall a syrthiodd ar y graig; a phan eginodd, y gwywodd,.am nad oedd iddo wlybwr.
7A pheth arall a syrthiodd ymysg drain; a’r drain a gyd-dyfasant, ac a’i tagasant ef.
8A pheth arall a syrthiodd ar dir da; ac a eginodd, ac a ddug ffrwyth ar ei ganfed. Wrth ddywedyd y pethau hyn, efe a lefodd, Y neb sydd a chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed.
9A’i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd. Pa ddameg oedd hon?
10Yntau a ddywedodd, I chwi y rhoddwyd gwybod dirgeloedd teyrnas Dduw; eithr i eraill ar ddamhegion; fel yn gweled na welant, ac yn clywed na-ddeallant.
11A dyma’r ddameg: Yr had yw gair Duw.
12A’r rhai ar ymyl y ffordd, ydyw’r rhai sydd yn gwrando, wedi hynny y inae’r diafol yn dyfod, ac yn dwyn ymaith y gair o’u calon hwynt, rhag iddynt gredu, a bod yn gadwedig.
13A’r rhai ar y graig, yw’r rhai pan glywant, a dderbyniant y gair yn llawen; a’r rhai hyn nid oes ganddynt wreiddyn, y rhai sydd yn credu dros amser, ac yn amser profedigaeth yn cilio.
14A’r hwn a syrthiodd ymysg drain, yw’r rhai a wrandawsant; ac wedi iddynt fyned ymaith, hwy a dagwyd gan ofalon, J golud, a melyswedd buchedd, ac nid ydynt yn dwyn ffrwyth i berffeithrwydd.
15A’r hwn ar y tir da, yw’r rhai hyn, y rhai a chalon hawddgar a da, ydynt yn gwrando’r gair, ac yn ei gadw, ac yn dwyn ffrwyth trwy amynedd.
16Nid yw neb wedi golau cannwyll, yn ei chuddio hi a llestr, neu yn ei dodi dan wely; eithr yn ei gosod ar ganhwyllbren, fel y caffo’r rhai a ddêl i mewn weled y goleuni.
17Canys nid oes dim dirgel, a’r ni bydd amlwg; na dim cuddiedig, a’r nis gwybyddir, ac na ddaw i’r golau.
18Edrychwch am hynny pa fodd y clywoch: canys pwybynnag y mae ganddo, y rhoddir iddo; a’r neb nid oes ganddo, ie, yr hyn y mae’n tybied ei fod ganddo, a ddygir oddi arno.
19Daeth ato hefyd ei fam a’i frodyr; ac ni allent ddyfod hyd ato gan y dorf.
20A mynegwyd iddo, gan rai, yn dywedyd, Y mae dy fam a’th frodyr yn sefyll allan, yn ewyllysio dy weled.
21Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Fy mam i a’m brodyr i yw’r rhai hyn sydd yn gwrando gair Duw, ac yn ei wneuthur.
22A bu ar ryw ddiwrnod, ac efe a aeth i long, efe a’i ddisgyblion: a dywedodd wrthynt. Awn trosodd i’r tu hwnt i’r llyn. A hwy a gychwynasant.
23Ac fel yr oeddynt yn hwylio, efe a hunodd: a chawod o wynt a ddisgynnodd ar y llyn; ac yr oeddynt yn llawn o ddwfr, ac mewn enbydrwydd.
24A twy a aethant ato, ac a’i denroes- ant ef, gan ddywedyd, O Feistr, Feistr, darfu amdanom. Ac efe a gyfododd, ac a geryddodd y gwynt a’r tonnau dwfr: a hwy a beidiasant, a hi a aeth yn dawel.
25Ac efe a ddywedodd wrthynt. Pa le y mae eich ffydd chwi? A hwy wedi ofni, a ryfeddasant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Pwy yw hwn, gan ei fod yn gorchymyn i’r gwyntoedd ac i’r dwfr hefyd, a hwythau yn ufuddhau iddo?
26A hwy a hwyliasant i wlad y Gadareniaid, yr hon sydd o’r tu arall, ar gyfer Galilea.
27Ac wedi iddo fyned allan i dir, cyf-arfu ag ef ryw ŵr o’r ddinas, yr hwn oedd ganddo gythreuliaid er ys talm o amser; ac ni wisgai ddillad, ac nid arhosai mewn tŷ, ond yn y beddau.
28Hwn, wedi gweled yr Iesu, a dolef-ain, a syrthiodd i lawr ger ei fron ef, ac a ddywedodd â llef uchel, Beth sydd i mi â thi, O Iesu. Fab Duw goruchaf? yr wyf yn atolwg i ti na’m poenech.
29(Canys efe a orchmynasai i’r ysbryd aflan ddyfod allan o’r dyn. Canys llawer o amserau y cipiasai ef: ac efe a gedwid yn rhwym a chadwynau, ac a llyffetheiriau; ac wedi dryllio’r rhwymau, efe a yrrwyd gan y cythraul i’r diffeithwch.)
30A’r Iesu a ofynnodd iddo, gan ddy¬wedyd, Beth yw dy enw di? Yntau a ddywedodd, Lleng: canys llawer o gythreuliaid a aethent iddo ef.
31A hwy a ddeisyfasant arno, na orchmynnai iddynt fyned i’r dyfnder.
32Ac yr oedd yno genfaint o foch lawer yn pori ar y mynydd: a hwynt-hwy a atolygasant iddo adael iddynt fyned i mewn i’r rhai hynny. Ac efe a adawodd iddynt.
33A’r cythreuliaid a aethant allan o’r dyn, ac a aethant i mewn i’r moch: a’r genfaint a ruthrodd oddi ar y dibyn i’r llyn, ac a foddwyd.
34A phan welodd y meichiaid yr hyn a ddarfuasai, hwy a ffoesant, ac a aethant, ac a fynegasant yn y ddinas, ac yn y wlad.
35A hwy a aethant allan i weled y peth a wnaethid; ac a ddaethant at yr Iesu, ac a gawsant y dyn, o’r hwn yr aethai’r s. me 8, 9 cythreiriiaid allan, yn ei ddillad, a’i iawn bwyll, yn eistedd wrth draed yr Iesu: a hwy a ofnasant.;
36A’r rhai a welseat, a fynegasant hefyd iddynt "pa fodd yr iachasid y cythreulig.
37A’r holl liaws o gylch gwlad y Gadareniaid a ddymunasant arno fyned ymaith oddi wrthynt; am eu bod mewn ofn mawr. Ac efe wedi myned i’r llong, a ddychwelodd.
38A’r gŵr o’r hwn yr aethai’r cythreuliaid allan, a ddeisyfodd amo gael bod gydag ef: eithr yr Iesu a’i danfonodd ef ymaith, gan ddywedyd,
39Dychwel i’th dŷ, a dangos faint.’o bethau a wnaeth Duw i,fi. Ac efe a aetti, dan bregethu trwy gwbl-o’r ddinas, faint a wnaethai’r Iesu iddo.
40A bu, pan ddychwelodd yr Iesu, dderbyn o’r bobl ef: canys 1 yr oeddynt ofl yn disgwyl amdano ef.
41Ac wele, daeth gŵr a’i enw Jairus; ac efe oedd lywodraethwr y synagog; ac efe a syrthiodd wrth draed yr Iesu, ac a atolygodd iddo ddyfod i’w dy ef:
42Oherwydd yr oedd iddo ferch unig-anedig, ynghylch deuddeng mlwydd oed, a hon oedd yn marw. Ond fel yr oedd efe yn myned, y bobloedd a’i gwasgent ef.
43A gwraig, yr hon oedd mewn diferlif gwaed er ys deuddeng mlynedd, yr hon a dreuliasai ar ffisigwyr ei hoB fywyd, ac nis gallai gael gan neb ei hiachau,
44A ddaeth o’r tu cefn, ac a gyfryrddodd ag ymyl ei wisg ef: ac yn y fan y safodd diferlif ei gwaed hi.
45A dywedodd yr Iesu, Pwy yw a gyrfyrddoddami? Ac a phawb yn gwadu, y dywedodd Pedr, a’r rhai oedd gydag ef, O Feistr, y mae’r bobloedd yn dy wasgu, ac yn dy flino; ac a ddywedi di, Pwy yw a gyfEyrddodd a mi?
46A’r Iesu a ddywedodd, Rhyw un a gyffyrddodd a mi: canys mi a wn fyned rhinwedd allan ohonof.
47A phan welodd y wraig nad oedd hi guddiedig, hi a ddaeth dan grynu, ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a fynegodd iddo, yng ngwydd yr holl bobl, am ba achos y cyffyrddasai hi ag ef, ac fel yr iachasid hi yn ebrwydd..
48Yntau a ddywedodd wrthi, Cymer gysur, ferch; dy ffydd a’th iachaodd; dos mewn tangnefedd.
49Ac efe eto yn llefaru, daeth un o dy llywodraethwr y synagog, gaa:ddywedyd wrtho, Bu farw dy ferch: na phoena mo’r Athro.
50A’r Iesu pan glybu hyn, a’i hatebodd ef, gan ddywedyd, Nac ofna; cred yn unig, a hi a iacheir.
51Ac wedi ei fyned efi’r tŷ, ni adawodd i neb ddyfod i mewn, ond Pedr,:ac Iago, ac loan, a thad yr eneth a’i mam.
52Ac wylo a wnaethant oll, a chwynfan amdani. Eithr efe a ddywedodd, Nac wylwch: nid marw hi, eithr cysgu y ma’e.
53A hwy a’i gwatwarasant ef, am iddynt wybod ei marw hi.
54Ac efe a’u bwriodd hwynt oll allan, ac a’i cymerth hi erbyn ei llaw, ac a lefodd, gan ddywedyd, Herlodes, cyfod.
55A’i hysbryd hi a ddaeth drachefn, a hi a gyfododd yn ebrwydd: ac efe a orchmynnodd roi bwyd iddi.
56A synnu a wnaeth ar ei rhieni hi: ac efe a orchmynnodd iddynt, na ddywed-enl i neb y peth a wnaethid.