Yr Efengyl yn ôl Luc 6
1A bu ar yr ail prif Saboth, fyned ohono trwy’r yd: a’i ddisgyblion a dynasant y tywys, ac a’u bwytasant, gwedi eu rhwbio a’u dwylo.
2A rhai o’r Phariseaid a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn gwneuthin yr hyn nid yw gyfreithlon ei wneuthur ar y Sabothau?
3A’r Iesu gan ateb iddynt a ddywedodd, Oni ddarllenasoch hyn chwaith, yr hyn a wnaeth Dafydd, pan oedd chwant bwyd arno ef, a’r rhai oedd gydag ef;
4Y modd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw ac y cymerth ac y bwytaodd y bara gosod, ac a’i rhoddes hefyd i’r rhai oedd gydag ef; yr hwn nid yw gyfreithlon ei fwyta, ond i’r offeiriaid yn unig?
5Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae Mab y dyn yn Arglwydd ar y Saboth hefyd.
6A bu hefyd ar Saboth arall, iddo fyned i mewn i’r synagog, ac athrawiaethu: ac yr oedd yno ddyn a’i law ddeau wedi gwywo.
7A’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid a’i gwyliasant ef, a iachai efe ef ar y dydd Saboth; fel y caffent achwyn yn ei erbyn ef.
8Eithr efe a wybu eu meddyliau. hwynt, ac a ddywedodd wrth y dyn oedd a’r llaw wedi gwywo, Cyfod i fyny, a saf yn y canol. Ac efe a gyfododd i fyny, ac a safodd.
9Yr Iesu am hynny a ddywedodd wrthynt, Myfi a ofynnaf i chwi, Beth sydd gyfreithlon ar y Sabothau? gwneuthur da, ynteu gwneuthur drwg? cadw einioes, ai colli?
10Ac wedi edrych arnynt oll oddi amgylch, efe a ddywedodd wrth y dyn, Estyn dy law. Ac efe a wnaeth felly: a’i law ef a wnaed yn iach fel y llall.
11A hwy a lanwyd o ynfydrwydd, ac a ymddiddanasant y naill wrth y llall, pa beth a wnaent i’r Iesu.
12A bu yn y dyddiau hynny, fyned phono ef allan i’r mynydd i weddïo; a pharhau ar hyd y nos yn gweddib Duw.
13A phan aeth hi yn ddydd, efe a alwodd ato ei ddisgyblion: ac ohonynt efe a etholodd ddeuddeg, y rhai hefyd a enwodd efe yn apostolion;
14Simon (yr hwn hefyd a enwodd efe Pedr.) ac Andreas ei frawd; Iago, ac loan; Philip, a Bartholomeus;
15Mathew, a Thomas; Iago mab Alffieus, a Simon a elwir Selotes;
16Jwdas brawd Iago, a Jwdas IscariotJ yr hwn hefyd a aeth yn fradwr.
17Ac efe a aeth i wacred gyda hwynt, ac a safodd mewn gwastatir; a’r dyrfa o’i ddisgyblion, a lliaws mawr o bobl o holl Jwdea a Jerwsalem, ac o duedd mor Tyrus a Sidon, y rhai a ddaeth i wrando arno, ac i’w hiacháu o’u clefydau,
18A’r rhai a flinid gan ysbrydion aflan: a hwy a iachawyd.
19A’r holl dyrfa oedd yn ceisio cyffwrdd ag ef; am fod nerth yn myned ohono aUan, ac yn iacháu pawb.
20Ac efe a ddyrchafodd ei olygon ar ei ddisgyblion, ac a ddywedodd, Gwyn eieh byd y tlodion: canys eidduch chwi yw teyrnas Dduw.
21Gwyn eich byd y rhai ydych yn dwyn newyn yr awr hon: canys chwi a ddigonir. Gwyn eich byd y rhai ydych yn wylo yr awr hon: canys chwi a chwerddwch.
22Gwyn eich byd pan y’ch casao dynion, a phan y’ch didolant oddi wrthynt, ac y’ch gwaradwyddant, ac y bwriant eich enw allan megis drwg, er mwyn Mab y dyn.
23Byddwch lawen y dydd hwnnw, a llemwch; canys wele, eich gwobr sydd fawr yn y nef: oblegid yr un ffunud y gwnaeth eu tadau hwynt i’r proffwydi.
24Eithr gwae chwi’r cyfoethogion! canys derbyniasoch eich diddanwch.
25Gwae chwi’r rhai llawn! canys chwi a ddygwch newyn. Gwae chwi’r rhai a chwerddwch yr awr hon! canys chwi a alerwch ac a wylwch.
26Gwae chwi pan ddywedo pob dyn yn dda amdanoch! canys felly y gwnaeth eu tadau hwynt i’r gau broffwydi.
27Ond yr wyf yn dywedyd wrthych chwi y rhai ydych yn gwrando, Cerwch eich gelynion; gwnewch dda i’r rhai a’ch casant:
28Bendithiwch y rhai a’ch melltithiant, a gweddïwch dros y rhai a’ch drygant.
29Ac i’r hwn a’th darawo ar y naill gern, cynnig y llall hefyd; ac i’r hwn a ddygo ymaith dy gochi, na wahardd dy bais hefyd.
30A dyro i bob un a geisio gennyt; a chan y neb a fyddo’n dwyn yr eiddot, na chais cilchwyl.
31Ac fel y mynnech wneuthur o ddynion i chwi, gwnewch chwithau iddynt yr un ffunud.
32Ac os cerwch y rhai a’ch carant chwithau, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae pechaduriaid hefyd yn caru’r rhai a’u car hwythau.
33Ac os gwnewch dda i’r rhai a wnant dda i chwithau, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae’r pechaduriaid hefyd yn gwneuthur yr un peth.
34Ac os rhoddwch echwyn i’r rhai yr ydych yn gobcithio y cewch chwithau ganddynt, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae’r pechaduriaid hefyd yn rhoddi echwyn i bechaduriaid, fel y derbyniont y cyffelyb.
35Eithr cerwch eich gelynion, a gwnewch dda, a rhoddwch echwyn, heb obeithio dim drachefn; a’ch gwobr a fydd mawr, a phlant fyddwch i’r Goruchaf: eanys daionus yw efe i’r rhai anniolchgar a drwg.
36Byddwch gan hynny drugaroglon, megis ag y mae eich Tad yn drugarog.
37Ac na femwch, ac ni’ch bernir: na chondemniwch, ac ni’ch condemnir; maddeuwch, a maddeuir i chwithau:
38Rhoddwch, a rhoddir i chwi; mesur da, dwysedig, ac wedi ei ysgwyd, ac yn myned trosodd, a roddant yn eich myn-wes: canys a’r un mesur ag y mesuroch, y mesurir i chwi drachefn.
39Ac efe a ddywedodd ddameg wrthynt: a ddichon y dall dywyso’r dall? oai syrthiant ill dau yn y clawdd?
40Nid yw’r disgybl uwchlaw ei athro; eithr pob un perffailh a fydd fel ei athro.
41A phaham yr wyt ti yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun?
42Neu pa fodd y gelli di ddywedyd wrth dy frawd, Fy mrawd, gad i mi dynnu allan y brycheuyn sydd yn dy lygad, â thithau heb weled y trawst sydd yn dy lygad dy hun? O ragrithiwr, bwrw allan y trawst o’th lygad dy hun yn gyntaf, ac yna y gweli yn eglur dynnu allan y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd.
43Canys nid yw pren da yn dwyn ffrwyth drwg; na phren drwg yn dwyn. ffrwyth da.
44Oblegid pob pren a adwaenir wrth ei ffrwyth ei hun: canys nid oddi ar ddrain y casglant ffigys, nac oddi ar berth yr heliant rawnwin.
45Y dyn da, o ddaionus drysor ei galon, a ddwg allan ddaioni; a’r dyn drwg, & ddrygionus drysor ei galoo, a ddwg allan ddrygioni: canys o helaethrwydd y galoti y mae ei enau yn llefaru.
46Paham hefyd yr ydych yn fy ngalw i, Arglwydd, Arglwydd, ac nad ydych yn gwneulhur yr hyn yr wyf yn ôl ddywedyd?
47Pwy bynnag a ddêl ataf fi, ac a wrendy fy ngeiriau, ac a’u gwnelo hwynt, mi a ddangosaf i chwi i bwy y mae efe yn gyffelyb:
48Cyffelyb yw i ddyn yn adeiladu tŷ, yr hwn a gloddiodd, ac a aeth yn ddwfn, ac a osododd ei sail ar y graig: a phan ddaeth llifeiriant, y llifddyfroedd a gurodd ar y tŷ hwnnw, ac ni allai ei siglo; canys yr oedd wedi ei seilio ar y graig.
49Ond yr hwn a wrendy, ac ni wna, cyffelyb yw i ddyn a adeiladai dy ar y ddaear, heb sail; ar yr hwn y curodd y llifddyfroedd, ac yn y fan y syrthiodd: a chwymp y tŷ hwnnw oedd fawr.