Yr Efengyl yn ôl Luc 3
1YN y bymthegfed flwyddyn o ymerodraeth Tiberius Cesar, a Phontius Peilat yn rhaglaw Jwdea, a Herod yn detrarch Galilea, a’i frawd Philip yn detrarch Iturea a gwlad Trachonitis, a Lysanias yn detrarch Abilene,
2Dan yr archoffeiriaid Annas a Chaiaffas, y daeth gair Duw at loan, mab Sachareias, yn y diffeithwch.
3Ac efe a ddaeth i bob goror ynghylch yr Iorddonen, gan bregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau;
4Fel y mae yn ysgrifcnedig yn llyfr ymadroddion Eseias y proffwyd, yr hwn sydd yn dywedyd, Llef un yn llcfain yn y diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch ei lwybrau ef yn union.
5Fob pant a lenwir, a phob mynydd a bryn a ostyngir, a’r gwyrgeimion a wneir yn union, a’r geirwon yn ffyrdd gwastad;
6A phob cnawd a wêl iachawdwriaeth Duw.
7Am hynny efe a ddywedodd wrth y bobl oedd yn dyfod i’w bedyddio ganddo’i 0 genhedlaeth gwiberod, pwy a’ch rhagry" buddiodd chwi i ffoi oddi wrth y digofaint sydd ar ddyfod?
8Dygwch gan hynny ffrwythau addas ‘i edifeirwch; ac na ddechreuwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae gennym ni Abraham yn dad: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw o’r cerrig hyn godi plant i Abraham.
9Ac yr awr hon y mae’r fwyell wedi ei gosod ar wreiddyn y prennau: pob pren gan hynny a’r nid yw yn dwyn ffrwyth da, a gymynir i lawr, ac a fwrir yn tân.
10A’r bobloedd a ofynasant iddo, gan ddywedyd. Pa beth gan hynny a wnawn ni?
11Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Y neb sydd ganddo ddwy bais, rhodded i’r neb sydd heb yr un; a’r neb sydd ganddo fwyd, gwnaed yr un modd.
12A’r publicanod hefyd a ddaethant i’w bedyddio, ac a ddywedasant wrtho, Athro, beth a wnawn ni?
13Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na cheisiwch ddim mwy nag sydd wedi ei osod i chwi.
14A’r milwyr hefyd a ofynasant iddo, gan ddywedyd, A pha beth a wnawn ninnau? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na fyddwch draws wrth neb, ac na chamachwynwch ar neb; a byddwch fodlon i’ch cyflogau.
15Ac fel yr oedd y bobl yn disgwyl, a phawb yn meddylied yn eu calonnau am loan, ai efe oedd y Crist;
16loan a atebodd, gan ddywedyd wrthynt oll, Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi a dwfr: ond y mae un cryfach na myfi yn dyfod, yr hwn nid wyf fi deilwng i ddatod carrai ei esgidiau: efe a’ch bedyddia chwi a’r Ysbryd Glân, ac a than.
17Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr lanha ei lawr dyrnu, ac a gasgl y gwenith i’w ysgubor; ond yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy.
18A llawer o bethau eraill a gynghorodd efe, ac a bregethodd i’r bobl.
19Ond Herod y tetrarch, pan geryddwyd ef ganddo am Herodias gwraig Philip ei frawd, ac am yr holl ddrygioni a wnaethai Herod,
20A chwanegodd hyn hefyd heblaw’r cwbl, ac a gaeodd ar loan yn y carchar.
21Sj A bu, pan oeddid yn bedyddio’r holl bobl, a’r Iesu yn ei fedyddio hefyd, ac yn gweddïo, agoryd y nef,
22A disgyn o’r Ysbryd Glân mewn rhith corfforol, megis colomen, arno ef; a dyfod llef o’r nef yn dywedyd, Ti yw fy annwyl Fab; ynot ti y’m bodlonwyd.
23A’r Iesu ei hun oedd ynghylch dechrau ei ddengmlwydd ar hugain oed, mab (fel y tybid) i Joseff, fab Eli,
24Fab Mathat, fab Lefi, fab Melchi, fab Janna, fab Joseff,
25Fab Matathias, fab Amos, fab Naum, fab Esli, fab Naggai,
26Fab Manth, fab Matathias, fab Semei, fab Joseff, fab Jwda,
27Fab Joanna, fab Rhesa, fab Sorobabel, fab Salathiel, fab Neri,
28Fab Melchi, fab Adi, fab Cosam, fab Elmodam, fab Er,
29Fab Jose, fab Elieser, fab Jorim, fab Mathat, fab Lefi,
30Fab Simeon, fab Jwda, fab Joseff, fab Jonan, fab Eliacim,,
31Fab Melea, fab Mainan, fab Mat-atha, fab Nathan, fab Dafydd,
32Fab Jesse, fab Obed, fab Boos, fab Salmon, fab Naason, - ‘
33Fab Aminadab, fab Aram, fab Bsrom, fab Phares, fab Jwda,
34Fab Jacob, fab Isaac, fab Abraham, lab Thara, fab Nachor,
35Fab Saruch, fab Ragau, fab Phalec, fab Heber, fab Sala,
36Fab Cainan, fab Arffacsad, fab Sem, fab Noe, fab Lamech,...
37Fab Mathwsala, fab Enoch, fab Jared, fao Maleleel, fab Cainan,
38Fab Enos, fab Seth, fab Adda, fab Duw.