The Bible Software
Yr Efengyl yn ôl Luc · Beibl (1620)

Yr Efengyl yn ôl Luc 21

1AC wedi iddo edrych i fyny, efe a ganfu Ax y rhai goludog yn bwrw eu rhoddiori i’r drysorfa.

2Ac efe a ganfu hefyd ryw wraig weddw dlawd yn bwrw yno ddwy hatling.

3Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddafi Chwi, fwrw o’r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na hwynt oll:

4Canys y rhai hyn oll o’r hyn oedd weddill ganddynt a fwriasant at offrymau Duw: eithr hon o’i phrinder a fwriodd i inewn yr holl fywyd a oedd ganddi.

5Ac fel yr oedd rhai yn dywedyd aril y deml, ei bod hi wedi ei harddu a meini teg a rhoddion, efe a ddywedodd,

6Y pethau hyn yr ydych yn edrych arnynt, daw’r dyddiau yn y rhai ni adewir maen ar faen, a’r nis datodir.

7A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Athro, pa bryd gan hynny y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd pan fo’r pethau hyn ar ddyfod?

8Ac efe a ddywedodd, Edrychwch na thwyller chwi: canys llawer a ddeuant yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Cristj a’r amser a nesaodd: nac ewch gan hynny ar eu hoi hwynt.

9A phan glywoch son am ryfeloedd a therfysgoedd, na chymerwch fraw: canys rhaid i’r pethau hyn fod yn gyntaf: end ni ddaw y diwedd yn y man.

10Yna y dywedodd efe. wrthynt, Cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas:

11A daeargrynfau mawrion a fyddanit yn amryw leoedd, a newyn, a heintiau, a phethau ofnadwy, ac arwyddion mawrioft a fydd o’r nef.

12Eithr o flaen hyn oll, hwy a roddant eu dwylo arnoch, ac a’ch erlidiant, gafl eich traddodi i’r synagogau, ac i garch" arau, wedi eich dwyn gerbron brenhinoedd a llywodraethwyr o achos fy enw i.,r...

13Eithr fe a ddigwydd i chwi yn dystr iolaeth...

14Am hynny rhoddwch eich bryd at na ragfyfyrioeh beth a ateboch:

15Canys myfi a roddaf i chwi enau a doethineb, yr hon nis gall eich holl wrthwynebwyr na dywedyd yn ei herbyn na’i gwrthsefyll.,.;

16A chwi a fradychir, ie, gan rieni) a brodyr, a cheraint, a chyfeillioa., ac i r-ai ohonoch y parant farwolaeth..,..

17A chas fyddwch gan bawb oherwydd fy enw i.

18Ond ni chyll blewyn o’ch pen chwi.

19Yn eich amynedd meddiennwch eich eneidiau.

20A phan weloch Jerwsalem wedi ei hamgylchu gan luoedd, yna gwybyddwch fod ei hanghyfanhedd-dra hi wedi nesau.

21Yna y rhai fyddant yn Jwdea, ffoanti i’r mynyddoedd; a’r rhai a fyddant yn ei ebanol hi, ymadawant; a’r rhai a fyddant yn y meysydd, nac elont i mewn iddi.

22Canys dyddiau dial yw’r rhai hyn, i gyflawni’r holl bethau a ysgrifennwyd.

23Eithr gwae’r rhai beichiogioa, a’r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny! canys bydd angen mawr yn y tir, a digofaint ar y bobl hyn.

24A hwy a syrthiant (rvy fin y cleddyf, a chaethgludir hwynt at bob cenhedlaeth: a Jerwsalem a fydd wedi ei mathru gan y Cenhedloedd, hyd oni chyflawner aaoser y Cenhedloedd..,

25A bydd arwyddion yn yr rt.a’ttl,’a’t lleuad, a’r scr; ac ar y ddaear ing cenhedloedd, gan gyfyng gyngor; a’r môr,a’r tonnau yn rhuo;

26A dynion yn llewygu gan ofn, a disgwyl am y pethau sydd yn dyfod ar y ddaear: oblegid nerthoedd y nefoedd a, ysgydwir. ‘

27Ac yna y gwelant Fab y dyn yn dyfed mewn cwmwl, gyda gallu a gogoniant mawr.

28A phan ddechreuo’r pethau hyn ddyfod, edrychwch i fyny, a chodwch eich pennau: canys y mae eich ymwared. yn nesau.

29Ac efe a ddywedodd ddameg iddynt; Edrychwch ar y ffigysbren, a’r holl brennau;

30Pan ddeiliant hwy weithian, fSxwi. a welwch ac a wyddodtt ohonoch eich hnni fod yr haf yn agos.

31Felly chwithau, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch fod teyrnas Dduw yn agos.

32Yn wir meddaf i chwi, Nid a’r oes hon heibio, hyd oni ddêl y cwbl i ben.

33Y nef a’r ddaear a ânt heibio; ond fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.

34Ac edrychwch arnoch eich hun-ain, rhag i’ch calonnau un amser drymhau trwy lythineb, a meddwdod, a gofalon y bywyd hwn, a dyfod y dydd hwnnw nrnoch yn ddisymwth;

35Canys efe a ddaw, fel magi, ic wartliaf pawb oll a’r sydd yn trigo ar wynch yr holl ddaear.

36Gwyliwch gan hynny a gwedd’iwch bob amser, ar gael eich cyfrif yn deilwng i ddiunc rhag y pethau hyn oll sydd ar ddyfod, ac i sefyll gerbron Mab y dyn.

37A’r dydd yr ydoedd efe yn athrawiaethu yn y deml; a’r nos yr oedd efe yn myned ac yn aros yn y mynydd a elwid yr Olewydd.

38A’r holl bobl a foregyrchent ato ef yn y deml, i’w glywed ef.

← Yr Efengyl yn ôl Luc 20Read In The App, Free →Yr Efengyl yn ôl Luc 22 →

Study Yr Efengyl yn ôl Luc 21

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesThe Fourfold GospelJohn LightfootGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324