Yr Efengyl yn ôl Luc 24
1AR dydd cyntaf o’r wythnos, ar y" cynddydd, hwy a ddaethant at y’ bedd, gan ddwyn y peraroglau a baraloesent, a rhai gyda hwynt..
2A hwy a gawsant y maen wedi tii. dreiglo ymaith oddi wrth y bedd.;;;
3Ac wedi iddynt fyned i mewn," nt chawsant gorff yr Arglwydd Iesu.
4A bu, a hwy yn petruso am y peth hwn, wele, dau ŵr a safodd yn eu hymyt mewn gwisgoedd disglair.
5Ac wedi iddynt ofni, a gostwng eu hwynebau tua’r ddacar, hwy a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn ceisio-y byw ymysg y meirw?
6Nill yw etc yma, ond efe a gyfododd, Coliwch pa fodd y dywedodd wrthych, iic L-lc eto yng Ngalilea,
7C;an ddywedyd, Rhaid yw rhoi Mate. y dyn yn nwylo dynion pechadurus, a’i groeshoelio, a’r trydydd dydd atgyfodi.
8A hwy a gofiasant ei eiriau ef;
9Ac a ddychwelasant oddi wrth y bedd, ac a fynegasant hyn oll i’r un ar ddeg, ac i’r lleill oll.
10A Mair Magdalea, a Joanna, a Mair i mam Iago, a’r lleill gyda hwynt, oedd y rhai a ddywedasant y pethau hyn wrth yr apostolion.
11A’u geiriau a welid yn eu golwg hwynt fel gwegi, ac ni chredasant iddynt.
12Eithr Pedr a gododd i fyny, ac a redodd at y bedd; ac wedi ymgrymu, efe a ganfu’r llieiniau wedi eu gosod o’r neilitu; ac a aeth ymaith, gan ryfeddu, rhyngddo ac ef ei hun am y peth a ddarfuasai.
13Ac wele, dau ohonynt oedd yn myned y dydd hwnnw i dref a’i henw Emaus, yr hon oedd ynghylch tri ugain ystad oddi wrth Jerwsalem.
14Ac yr oeddynt hwy yn ymddiddan a’i gilydd am yr holl bethau hyn a ddi-gwyddasent.
15A bu, fel yr oeddynt yn ymddiddan, ac yn ymofyn a’i gilydd, yr Iesu ei hun hefyd a nesaodd, ac a aeth gyda hwynt.
16Eithr eu llygaid hwynt a ataliwyd, fel nas adwaenent ef.
17Ac efe a ddywedodd wrthynt. Pa ryw ymadroddion yw’r rhai hyn yr ydych yn eu bwrw at ei gilydd, dan rodio, ac yn wyneptrist?
18Ac un ohonynt, a’i enw Cleopas, gan ateb a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn unig yn ymdeithydd yn Jerwsalem, ac ni wybuost y pethau a wnaethpwyd ynddi hi yn y dyddiau hyn?
19Ac efe a ddywedodd wrthynt. Pa bethau? Hwythau a ddywedasant wrtho, Y pethau ynghylch Iesu o Nasareth, yr hwn oedd ŵr o broffwyd, galluog mewn gweithred a gair gerbron Duw a’r holl bobl;
20A’r modd y traddododd yr archoffeiriaid a’n llywodraethwyr ni ef i farn marwolaeth, ac a’i croeshoeliasant ef.
21Ond yr oeddem ni yn gobeithio mai efe oedd yr hwn a waredai’r Israel. Ac heblaw hyn oll, heddiw yw’r trydydd < dydd er pan wnaethpwyd y pethau hyn.
22A hefyd rhai gwragedd ohonom ni a’n dychrynasant ni, gwedi iddynt fod yn fore wrth y bedd:
23A phan na chawsant ei gorff ef, hwy a ddaethant, gan ddywedyd weled ohonynt weledigaeth o angylion, y rhai a ddy wedent ei fod ef yn fyw. ‘
24A rhai o’r rhai oedd gyda nyni a aethant at y bedd, ac a gawsarit felly, fel y dywedasai’r gwragedd: ond ef nis gwel-sant.
25Ac efe a ddywedodd wrthynt, O ynfydion, a hwyrfrydig o galon i gredu’r holl bethau a ddywedodd y proft’wydi!
26Onid oedd raid i Grist ddioddef y pethau hyn, a myned i mewn i’w ogoniant?
27A chan ddechrau ar Moses, a’r holl broffwydi, efe a esboniodd iddynt yn yr holl ysgrythurau y pethau amdano ei hun.
28Ac yr oeddynt yn nesau i’r dref lle yr oeddynt yn myned: ac yntau a gymerth arno ei fod yn myned ymhellach.
29A hwy a’i cymellasant ef, gan ddy¬wedyd, Aros gyda ni; canys y mae hi yn hwyrhau, a’r dydd yn darfod. Ac efe a aeth i mewn i aros gyda hwynt.
30A darfu, ac efe yn eistedd gyda hwynt, efe a gymerodd fara, ac a’i bendithiodd, ac a’i torrodd, ac a’i rhoddes iddynt.
31A’u llygaid hwynt a agorwyd, a hwy a’i hadnabuant ef: ac efe a ddiflannodd allan o’u golwg hwynt.
32A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Onid oedd ein calon ni yn llosgi ynom tra ydoedd efe yn ymddiddan a ni ar y ffordd, a thra ydoedd efe yn agoryd i ni yr ysgrythurau?
33A hwy a godasant yr awr honno, ac a ddychwelasant i Jerwsalem, ac a gawsant yr un ar ddeg wedi ymgasglu ynghyd, a’r’ sawl oedd gyda hwynt,
34Yn dywedyd, Yr Arglwydd a gyf— ododd yn wir, ac a ymddangosodd i i Simon.,
35A hwythau a adroddasant y pethau ‘ a wnaethid ar y ffordd, a pha fodd yr adnabuwyd ef ganddynt wrth doriad y bara.
36Ac a hwy yn dywedyd y pethau hyn, yr Iesu ei hun a safodd yn eu canol hwynt, ac a ddywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi.
37Hwythau, wedi brawychu ac ofni, a - dybiasant weled ohonynt ysbryd. 4
38Ac efe a ddywedodd wrthynt. Paham y’ch trallodir? a phaham y mae meddyliau yn codi yn eich calonnau?
39Edrychwch fy nwylo a’m traed, mai myfi fy hun ydyw: teimlwch fi, a gwel wch: canys nid oes gan ysbryd gnawd ac esgyrn, fel y gwelwch fod gennyf fi.
40Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo a’i draed.
41Ac a hwy cto heb gredu gan lawenydd, ac yn rhyfeddu, efe a ddywedodd wrthynt, A oes gennych chwi yma ddup bwyd? A
42A hwy a roesant iddo ddarn o bysgodyn wedi ei rostio, ac o ddil mêl.
43Yntau a’i cymerodd, ac a’i bwytaodd yn eu gŵydd hwynt.
44Ac efe a ddywedodd wrthynt, Dyina’r geiriau a ddywedais i wrthych, pan oeddwn eto gyda chwi, bod yn rhaid cyflawni pob peth a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses, a’r proffwydi, a’r salmau, amdanaf fi.
45Yna yr agorodd efe eu deall hwynt, fel y deallent yr ysgrythurau.
46Ac efe a ddywedodd wrthynt. Felly yr ysgrifennwyd, ac felly yr oedd raid i Grist ddioddef, a chyfodi o feirw y trydydd dydd:
47A phregethu edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef ymhlith yr holl genhedloedd, gan ddechrau yn Jerw¬salem.
48Ac yr ydych chwi yn dystion o’r pethau hyn.
49Ac wele, yr ydwyf fi yn anfoni addewid fy Nhad arnoch: eithr arhoswch chwi yn ninas Jerwsalem, hyd oni wisger chwi a nerth o’r uchelder.
50Ac cfc a’u dug hwynt allan hyd ym Methania; ac a gododd ei ddwylo, ac a’u bendithiodd hwynt.
51Ac fe a ddarfu, tra oedd efe yn eu bendithio hwynt, ymadael ohono ef oddt wrthynt, ac efe a ddygwyd i fyny i’r nef.
52Ac wedi iddynt ei addoli ef, hwy a ddychwelasant i Jerwsalem, gyda llawenydd mawr: -"‘.
53Ac yr oeddynt yn wastadol yn y deml, yn moli ac yn bendithio Duw.. Amen.