The Bible Software
Yr Efengyl yn ôl Luc · Beibl (1620)

Yr Efengyl yn ôl Luc 17

1Ac efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Ni all na ddêl rhwystrau: ond gwae efe trwy’r hwn y deuant!

2Gwell fyddai iddo pe rhoddid maen melin o amgylch ei wddf ef, a’i daflu i’r môr, nag iddo rwystro un o’r rhai bychain hyn.

3Edrychwch arnoch eich hunain. Os pecha dy frawd yn dy erbyn, cerydda ef; ac os edifarha efe, maddau iddo.

4Ac os pecha yn dy erbyn seithwaith yn y dydd, a seithwaith yn y dydd droi atat, gan ddywedyd, Y mae yn edifar gennyf; maddau iddo.

5A’r apostolion a ddywedasant wrth yr Arglwydd, Anghwanega ein flydd ni.

6A’r Arglwydd a ddywedodd, Pe bydd-ai gennych ffydd gymaint â gronyn o had mwstard, chwi a allech ddywedyd wrth y sycamorwydden hon, Ymddadwreiddia, a phlanner di yn y môr; a hi a ufuddhai i chwi.

7Eithr pwy ohonoch chwi ac iddo was yn aredig, neu’n bugeilio, a ddywed wrtho yn y man pan ddêl o’r maes, DOS ac eistedd i lawr i fwyta?

8Ond yn hytrach a ddywed wrtho, Ariwya i mi i swperu, ac ymwregysa, a gwasanaetha arnaf fi, nes i mi fwyta ac yfed: ac wedi hynny y bwytei ac yr yfi dithau?

9Oes ganddo ddiolch i’r gwas hwnnw, am wneuthur ohono y pethau a orchmynasid iddo? Nid wyf yn tybied.

10Felly chwithau hefyd, gwedi i chwi wneuthur y cwbl oll ag a orchmynnwyd i chwi, dywedwch, Gweision anfuddiol ydym: oblegid yr hyn a ddylasem ei wneuthur, a wnaethom.

11Bu hefyd, ac efe yn myned i Jerwsalem, fyned ohono ef trwy ganol Samaria a Galilea.

12A phan oedd efe yn myned t mewn i ryw dref, cyfarfu ag ef ddeg o wŷr gwahangleifion, y rhai a safasant o hirbell:

13A hwy a godasant eu llef, gan ddy¬wedyd, Iesu Feistr, trugarha wrthym.

14A phan welodd efe hwynt, efe a ddy¬wedodd wrthynt, Ewch a dangoswch eich hunain i’r offeiriaid. A bu, fel yr oeddynt yn myned, fe a’u glanhawyd hwynt.

15Ac un ohonynt, pan welodd ddarfod ei iachau, a ddychwelodd, gan foliannu Duw â llef uchel.

16Ac efe a syrthiodd ar ei wyneb wrth ei draed ef, gan ddiolch iddo. A Samariad oedd efe.

17A’r Iesu gan ateb a ddywedodd, Oni lanhawyd y deg? ond pa le y mae y naw?

18Ni chaed a ddychwelasant i roi gogoniant i Dduw, ond yr estron hwn.

19Ac efe a ddywedodd wrtho, Cyfod, ac dos ymaith: dy ifydd a’th iachaodd.

20A phan ofynnodd y Phariseaid iddo, pa bryd y deuai teyrnas Dduw, efe a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Ni ddaw teyrnas Dduw wrth ddisgwyl.

21Ac ni ddywedant, Wele yma; neu, Wele cw: canys wele, teyriias Dduw, o’ch mewn chwi y mae.:

22Ac efe a ddywedodd wrthy disgyblion, Y dyddiau a ddaw pan chwenychoch weled un o ddyddiau Mab y dyn, ac nis gwelwch.

23A hwy a ddywedant wrthych, Wele yma; heu, Wele acw: nac ewch, ac na chanlynwch hwynt.

24Canys megis y mae’r fellten a fellt-enna o’r naill ran dan y nef, yn disgleirio hyd y rhan arall dan y nef; felly y bydd Mab y dyn hefyd yn ei ddydd ef.

25Eithr yn gyntaf rhaid iddo ddioddef llawer, a’i wrthod gan y genhedlaeth hon.

26Ac megis y bu yn nyddiau Noe, felly y bydd hefyd yn nyddiau Mab y dyn.

27Yr oeddynt yn bwyta, yn yfed, yn gwreit;a, yn gwra hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i’r arch; a daeth y dilyw, ac a’u difethodd hwynt oll.

28Yr un modd hefyd ag y bu yn nydd¬iau Lot: yr oeddynt yn bwyta, yn yfed, yn prynu, yn gwerthu, yn plannu, yn adeiladu,

29Eithr y dydd yr aeth Lot allan o Sodoin, y glawiodd tân a brwmstan o’r nef, ac a’u difethodd hwynt oll:

30Tel hyn y bydd yn y dydd y datguddir Mab y dyn.

31n y dydd hwnnw y neb a fyddo ar ben y tŷ, a’i ddodrefn o fewn y tŷ, na ddisgynned i’w cymryd hwynt; a’r hwn a fyddo yn y maes, yr un ffunud na ddychweled yn ei ôl.

32Cofiwch wraig Lot.

33Pwy bynnag a geisio gadw ei einioes, a’i cyll; a phwy bynnag a’i cyll, a’i bywha hi.

34Yr wyf yn dywedyd i chwi, Y nos honno y bydd dau yn yr un gwely; y naill a gymerir, a’r llall a adewir.

35t)wy a fydd yn malu yn yr un lle; y naill a gymerir, a’r llall a adewir.

36t)au a fyddant yn y maes; y naill a gymea-ir, a’r llall a adewir.

37A hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Pa le, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd wrthynt. Pa le bynnag y byddo y corff) yno yr ymgasgl yr cry rod.

← Yr Efengyl yn ôl Luc 16Read In The App, Free →Yr Efengyl yn ôl Luc 18 →

Study Yr Efengyl yn ôl Luc 17

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesThe Fourfold GospelJohn LightfootGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324