Yr Efengyl yn ôl Luc 4
1AR Iesu yn llawn o’r Ysbryd Glân, a ddychwelodd oddi wrth yr Iordd¬onen, ac a arweiniwyd gan yr ysbryd i’r anialwch,
2Yn cael ei demtio gan ddiafol ddeu-gain niwrnod. Ac ni fwytaodd efe ddim o fewn y dyddiau hynny: ac wedi eu diweddu hwynt, ar ôl hynny y daeth arno chwant bwyd.
3A dywedodd diafol wrtho, Os mab ‘ Duw ydwyt ti, dywed wrth y garreg faon fel y gwneler hi yn fara.
4A’r Iesu a atebodd iddo, gan ddy¬wedyd, Ysgrifenedig yw, Nad ar fara yn unig y bydd dyn fyw, ond ar bob gair Duw.
5A diafol, wedi ei gymryd ef i fyny i fynydd uchel, a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y ddaear mewn munud awr.
6A diafol a ddywedodd wrtho, I ti y rhoddaf yr awdurdod hon oll, a’u gogoniant hwynt: canys i mi y rhoddwyd; ac i bwy bynnag y mynnwyf y rhoddaf finnau hi.
7Os tydi gan hynny a addoli o’m.blaen, eiddot ti fyddant oll.
8A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, DOS ymaith, Satan, yn fy ôl i; canys ysgrifenedig yw, Addoli yr Arglwydd dŷ Dduw, ac ef yn unig a wasanaethi.
9Ac efe a’i dug ef i Jerwsalem, ac a’i gosododd ar binacl y deml, ac a ddy¬wedodd wrtho, Os mab Duw ydwyt, bwrw dy hun i lawr oddi yma:
10Canys ysgrifenedig yw, Y gorchy-myn efe i’w angylion o’th achos di, ar dy gadw di;
11Ac y cyfodant di yn eu dwylo, rhag i ti un amser daro dy droed wrth garreg.
12A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Dywedwyd, Na themtia yr Arglwydd dŷ Dduw.
13Ac wedi i ddiafol orffen yr holl demtasiwn, efe a ymadawodd ag ef dros amser.
14A’r Iesu a ddychwelodd trwy nerth yr ysbryd i Galilea: a sôna. aelh amdano ef trwy’r holl fro oddi amgylch.
15Ac yr oedd efe yn athrawiaethu yn eu synagogau hwynt, ac yn cael anrhydedd gan bawb.
16Ac efe a ddaeth i Nasareth, lle y magesid ef: ac yn ôl ei arfer, efe a aeth i’r synagog ar y Saboth, ac a gyfododd i fyny i ddarilen.
17A rhodded ato lyfr y proffwyd Eseias. Ac wedi iddo agoryd y llyfr» efe a gafodd y lle yr oedd yn ysgrifenedig,
18Ysbryd yr Arglwydd sydd arnaf fi, oherwydd iddo fy eneinio i; i bregethu-i’r tlodion yr anfonodd fi, i iachau’r drylliedig o galon, i bregethu gollyngdod i’r caethion, a cfaaffaeliad golwg i’r deillion, i ollwng y rhai ysig mewn rhydddeb,
19I bregethu blwyddyn gymeradwy yr Arglwydd.
20Ac wedi iddo gau’r llyfr, a’i roddi i’r gweinidog, efe a eisteddodd. A llygaid pawb oll yn y synagog oedd yn craffu arno.
21Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt, Heddiw y cyflawnwyd yr ysgrythur hon yn eich clustiau chwi.
22Ac yr oedd pawb yn dwyn tystiolaeth iddo, ac yr oeddynt yn rhyfeddu am y geiriau grasusol a ddeuai allan o’i enau ef. A hwy a ddywedasant, Onid hwn yw mab Joseff?
23Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn hollol y dywedwch y ddihareb hon wrthyf, Y meddyg, iacha di dy him: y pethau a glywsom ni eu gwneuthur yng Nghapernaum, gwna yraa hefyd yn dy wlad dy hun.
24Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nad yw un proffwyd yn gymer¬adwy yn ei wlad ei hun.
25Eithr mewn gwirionedd meddaf i chwi, Llawer o wragedd gweddwon oedd yn Israel yn nyddiau Eleias, pan gaewyd y nef dair blynedd a chwe mis, fel y bu newyn mawr trwy’r holl dir,
26Ac nid at yr un ohonynt yr anfonwyd Eleias, ond i Sarepta yn Sidon, at wraig Weddw.
27A llawer o wcafaangleifion oe4d yn Israel yn arnser Elisfcus y proffwyda.ac ni lanhawyd yr un ononynt, OJnd Naaman y Syriad.
28A’r rhai oll yn y synagog, wrth glywed y pethau hyn, a lanwyd o ddigofaint,
29Ac a godasant i fyny, ac a’i bwriasant ef allan o’r ddinas, ac a’i dygasant ef hyd ar ael y bryn yr hwn yr oedd eu dinas wedi ei hadeiladu arno, ar fedr ei fwrw ef bendramwnwgl i lawr.
30Ond efe, gan fyned trwy eu cano) hwynt, a aeth ymaith,
31Ac a ddaeth i waered i Gapernaum, dinas yng Ngalilea: ac yr oedd yn eu,,dysgu hwynt ar y dyddiau Saboth.
32A bu aruthr ganddynt wrth ei athrawiaeth ef: canys ei ymadrodd ef oedd gydag awdurdod.
33Ac yn y synagog yr.oedd dyn & chanddo ysbryd cythraul aflan, ac efe a waeddodd â llef uchel,
34Gan ddywedyd, Och, beth sydd i ni a wnelom â thi, Iesu o Nasareth? a ddaethost ti i’n difetha ni? Myfi a’th adwaen pwy ydwyt; Sanct Duw.
35A’r Iesu a’i ceryddodd ef, gan ddy¬wedyd, Distawa, a dos allan ohono. A’r cythraul, wedi ei daflu ef i’r canol, a aeth allan ohono, heb wneuthur dim niwed iddo.;
36A daeth braw arnynt oll: a chyd-ymddiddanasant a’i gilydd, gan ddy¬wedyd, Pa ymadrodd yw hwn! gan ei fod ef trwy awdurdod a nerth yn gorchymyn yr ysbrydion aflan, a hwythau yn myned allan.
37A son amdano a aeth allan i bob man o’r wlad oddi amgylch,
38A phan gyfododd yr ‘Iesu o’r synagog, efe a aeth i mewn i. dŷ Simon. Ac yr oedd chwegr Simon yn glaf o gryd blin: a bwy a atolygasant.arno drosti hi. ‘
39Ac efe a safodd uwch ei phen hi, ac 3 geryddodd y cryd; a’r cryd a’i gadawodd hi: ac yn y fan hi a gyfododd, ac.a wasanactliudd arnynt hwy.
40A phan fachludodd yr haul, pawl) a’t ucJd ganddynt.rai cleifion o airO’yw glefydau, a’u dygasant hwy ato ef; ac efe a roddes el ddwylo ar bob t(fi oUonynt, ac,i’u hiachaodd hwynt.
41A’r cythreuliaid hefyd a aethant.illan o lawer dan lefain a dywedyd, Ti yw Crist, Mab Duw. Ac efe a’u ceryddod hwynt, ac ni adawai iddynt ddywedyd y gwyddent mai efe oedd y Crist.
42Ac wedi ei myned hi yn’ ddydd, efe’ a aeth allan, ac a gychwynnodd i Ie’. diffaith: a’r bobloedd a’i ceisiasant ef, a hwy a ddafithant hyd ato, ac a’i hataliasant ef rhag myned ymaith oddiwrthynt.
43Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ytt wir y mae yn rhaid i mi bregethu teymas Dduw i ddinasoedd eraill hefyd: canyss is hyn y’m danfonwyd.
44Ac yr oedd efe yn pregethu yn syaa gogau Galilea.