The Bible Software
2 Chronicles · Beibl (1620)

2 Chronicles 11

1A phan ddaeth Rehoboam i Jerwsalem, efe a gasglodd o holl dŷ Jwda, ac o Benjamin, gant a phedwar ugain mil o wŷr dewisol, cymwys i ryfel, i ymladd ag Israel, ac i ddwyn drachefn y frenhiniaeth i Rehoboam.

2Ond gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Semaia gŵr Duw, gan ddywedyd,

3Dywed wrth Rehoboam mab Solomon brenin Jwda, ac wrth holl Israel yn Jwda a Benjamin, gan ddywedyd,

4Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Nac ewch i fyny, ac nac ymleddwch yn erbyn eich brodyr; dychwelwch bob un i’w dŷ ei hun: canys trwof fi y gwnaethpwyd y peth hyn. A hwy a wrandawsant ar eiriau yr ARGLWYDD, ac a ddychwelasant, heb fyned yn erbyn Jeroboam.

5A Rehoboam a drigodd yn Jerw¬salem, ac a adeiladodd ddinasoedd cedyrn yn Jwda.

6Ac efe a adeiladodd Bethlehem, ac Etam, a Thecoa,

7A Bethsur, a Socho, ac Adulam,

8A Gath, a Maresa, a Siff,

9Ac Adoraim, a Lachis, ac Aseca,

10A Sora, ac Ajalon, a Hebron, y rhai oedd yn Jwda, ac yn Benjamin; dinasoedd o gadernid.

11Ac efe a gadarnhaodd yr amddiffynfaoedd, ac a osododd flaenoriaid ynddynt hwy, a chellau bwyd, ac olew, a gwin.

12Ac ym mhob dinas y gosododd efe darianau, a gwaywffyn, ac a’u cadarnhaodd hwynt yn gadarn iawn, ac eiddo ef oedd Jwda a Benjamin.

13A’r offeiriaid a’r Lefiaid, y rhai oedd yn holl Israel, a gyrchasant ato ef o’u holl derfynau.

14Canys y Lefiaid a adawsant eu meysydd pentrefol, a’u meddiant, ac a ddaethant i Jwda, ac i Jerwsalem: canys Jeroboam a’i feibion a’u bwriasai hwynt ymaith o fod yn offeiriaid i’r ARGLWYDD.

15Ac efe a osododd iddo offeiriaid i’r uchelfeydd, ac i’r cythreuliaid, ac i’r lloi a wnaethai efe.

16Ac ar eu hôl hwynt, o holl lwythau Israel, y rhai oedd yn rhoddi eu calon i geisio ARGLWYDD DDUW Israel, a ddaeth¬ant i Jerwsalem, i aberthu i ARGLWYDD DDUW eu tadau.

17Felly hwy a gadarnhasant frenhin¬iaeth Jwda, ac a gryfhasant Rehoboam mab Solomon, dros dair blynedd: canys hwy a rodiasant yn ffordd Dafydd a Solomon dair blynedd.

18A Rehoboam a gymerth Mahalath, merch Jerimoth mab Dafydd, yn wraig iddo, ac Abihail merch Eliab mab Jesse:

19A hi a ymddug iddo ef feibion, sef Jeus, a Samareia, a Saham.

20Ac ar ei hôl hi efe a gymerth Maacha merch Absalom: a hi a ymddug iddo ef Abeia, ac Attai, a Sisa, a Selomith.

21A Rehoboam a garodd Maacha merch Absalom yn fwy na’i holl wragedd a’i ordderchadon: canys deunaw o wragedd a gymerth efe, a thrigain o ordderchadon; ac efe a genhedlodd wyth ar hugain o feibion, a thrigain o ferched.

22A Rehoboam a osododd Abeia mab Maacha yn ben, yn flaenor ar ei frodyr; canys yr oedd yn ei fryd ei urddo ef yn frenin.

23Ac efe a fu gall, ac a wasgarodd rai o’i feibion i holl wledydd Jwda a Ben¬jamin, i bob dinas gadarn, ac a roddes iddynt hwy luniaeth yn helaeth: ac efe a geisiodd liaws o wragedd.

← 2 Chronicles 10Read In The App, Free →2 Chronicles 12 →

Study 2 Chronicles 11

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536