The Bible Software
2 Chronicles · Beibl (1620)

2 Chronicles 8

1Ac ymhen yr ugain mlynedd, yn y rhai yr adeiladodd Solomon dŷ yr ARGLWYDD, a’i dŷ ei hun,

2Solomon a adeiladodd y dinasoedd a roddasai Hiram i Solomon, ac a wnaeth i feibion Israel drigo yno.

3A Solomon a aeth i Hamath-soba, ac a’i gorchfygodd hi.

4Ac efe a adeiladodd Tadmor yn yr anialwch, a holl ddinasoedd y trysorau, y rhai a adeiladodd efe yn Hamath.

5Efe hefyd a adeiladodd Beth-horon uchaf, a Beth-horon isaf, dinasoedd wedi eu cadarnhau â muriau, pyrth, a barrau;

6Baalath hefyd, a holl ddinasoedd y trysorau oedd gan Solomon, a holl ddinas¬oedd y cerbydau, a dinasoedd y marchogion, a’r hyn oll oedd ewyllys gan Solomon ei adeiladu yn Jerwsalem, ac yn Libanus, ac yn holl dir ei arglwyddiaeth ef.

7Yr holl bobl y rhai a adawyd o’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Pherestaid, a’r Hefiaid, a’r Jebusiaid, y rhai nid oeddynt o Israel;

8Ond o’u meibion hwynt, y rhai a drigasant ar eu hôl hwynt yn y wlad, y rhai ni ddifethasai meibion Israel, Sol¬omon a’u gwnaeth hwynt yn drethol hyd y dydd hwn.

9Ond o feibion Israel ni roddodd Solomon neb yn weision yn ei waith: canys hwynt-hwy oeddynt ryfelwyr, a thywysogion ei gapteiniaid ef, a thywysogion ei gerbydau a’i wŷr meirch ef.

10A dyma y rhai pennaf o swyddogion y brenin Solomon, sef dau cant a deg a deugain, yn arglwyddiaethu ar y pobl.

11A Solomon a ddug ferch Pharo i fyny o ddinas Dafydd i’r tŷ a adeiladasai efe iddi hi: canys efe a ddywedodd, Ni thrig fy ngwraig i yn nhŷ Dafydd brenin Israel, oherwydd sanctaidd yw, oblegid i arch yr ARGLWYDD ddyfod i mewn iddo.

12Yna Solomon a offrymodd boethoffrymau i’r ARGLWYDD ar allor yr ARGLWYDD, yr hon a adeiladasai efe o flaen y porth;

13I boethoffrymu dogn dydd yn ei ddydd, yn ôl gorchymyn Moses, ar y Sabothau, ac ar y newyddloerau, ac ar y gwyliau arbennig, dair gwaith yn y flwyddyn; sef ar ŵyl y bara croyw, ac ar ŵyl yr wythnosau, ac ar ŵyl y pebyll.

14Ac efe a osododd, yn ôl trefn Dafydd ei dad, ddosbarthiadau yr offeiriaid yn eu gwasanaeth, a’r Lefiaid yn eu goruchwyliaeth, i foliannu ac i weini gerbron yr offeiriaid, fel yr oedd ddyledus bob dydd yn ei ddydd, a’r porthorion yn eu dosbarthiadau, wrth bob porth: canys felly yr oedd gorchymyn Dafydd gŵr Duw.

15Ac ni throesant hwy oddi wrth orchymyn y brenin i’r offeiriaid a’r Lefiaid, am un peth, nac am y trysorau.

16A holl waith Solomon oedd wedi ei baratoi hyd y dydd y seiliwyd tŷ yr ARGLWYDD, a hyd oni orffennwyd ef. Felly y gorffennwyd tŷ yr ARGLWYDD.

17Yna yr aeth Solomon i Esion-gaber, ac i Eloth, ar fin y môr, yng ngwlad Edom.

18A Hiram a anfonodd gyda’i weision longau, a gweision cyfarwydd ar y môr; a hwy a aethant gyda gweision Solomon i Offir, ac a gymerasant oddi yno bedwar cant a deg a deugain talent o aur, ac a’u dygasant i’r brenin Solomon.:

← 2 Chronicles 7Read In The App, Free →2 Chronicles 9 →

Study 2 Chronicles 8

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536