The Bible Software
2 Chronicles · Beibl (1620)

2 Chronicles 27

1Mab pum mlwydd ar hugain oedd Jotham pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un mlynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem, ac enw ei fam ef oedd Jerwsa merch Sadoc.

2Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Usseia ei dad: eithr nid aeth efe i deml yr ARGLWYDD. A’r bobl oedd eto yn ymlygru.

3Efe a adeiladodd y porth uchaf i dŷ yr ARGLWYDD, ac ar fur y twr yr adeilad¬odd efe lawer.

4Dinasoedd hefyd a adeiladodd efe ym mynyddoedd Jwda, ac yn y coedydd yr adeiladodd efe balasau a thyrau.

5Ac efe a ryfelodd yn erbyn brenin meibion Ammon, ac a aeth yn drech na hwynt. A meibion Ammon a roddasant iddo ef gan talent o arian y flwyddyn honno, a deng mil corus o wenith, a deng mil corus o haidd. Hyn a roddodd meib¬ion Ammon iddo ef yr ail flwyddyn a’r drydedd.

6Felly Jotham a aeth yn gadarn, oblegid efe a baratodd ei ffyrdd gerbron yr ARGLWYDD ei DDUW.

7A’r rhan arall o hanes Jotham, a’i holl ryfeloedd ef, a’i ffyrdd, wele y maent yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda.

8Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu, ac un flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerw¬salem.

9A Jotham a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef yn ninas.Dafydd. Ac Ahas ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

← 2 Chronicles 26Read In The App, Free →2 Chronicles 28 →

Study 2 Chronicles 27

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536