The Bible Software
2 Chronicles · Beibl (1620)

2 Chronicles 2

1A Solomon a roes ei fryd ar adeiladu tŷ i enw yr ARGLWYDD, a brenhindy iddo ei hun.

2A Solomon a rifodd ddeng mil a thrigain o gludwyr, a phedwar ugain mil o gymynwyr yn y mynydd, ac yn oruchwylwyr arnynt hwy dair mil a chwe chant.

3A Solomon a anfonodd at Hiram brenin Tyrus, gan ddywedyd, Megis y gwnaethost a Dafydd fy nhad, ac yr anfonaist iddo gedrwydd i adeiladu iddo dŷ i drigo ynddo, felly gwna a minnau.

4Wele fi yn adeiladu tŷ i enw yr AR¬GLWYDD fy Nuw, i’w gysegru iddo, ac i arogldarthu arogldarth llysieuog ger ei fron ef, ac i’r gwastadol osodiad bara, a’r poethoffrymau bore a hwyr, ar y Sabothau, ac ar y newyddloerau, ac ar osodedig wyliau yr ARGLWYDD ein Duw ni. Hyd byth y mae hyn ar Israel.

5A’r tŷ a adeiladaf fi fydd mawr: canys mwy yw ein Duw ni na’r holl dduwiau.

6A phwy sydd abl i adeiladu iddo ef dŷ, gan na all y nefoedd, ie, nefoedd y nefoedd ei amgyffred? a phwy ydwyf fi, fel yr adeiladwn iddo ef dŷ, ond yn unig i arogldarthu ger ei fron ef?

7Felly yn awr anfon i mi ŵr cywraint, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres, ac mewn haearn, ac mewn porffor, ac ysgarlad, a glas, ac yn medru cerfio cerfiadau gyda’r rhai celfydd sydd gyda mi yn Jwda ac yn Jerwsalem, y rhai a ddarparodd fy nhad Dafydd.

8Anfon hefyd i mi goed cedr, a ffynidwydd, ac algumimwydd, o Libanus: canys myfi a wn y medr dy weision di naddu coed Libanus; ac wele, fy ngweision innau a fyddant gyda’th weision dithau;

9A hynny i ddarparu i mi lawer o goed: canys y tŷ yr ydwyf fi ar ei adeiladu fydd mawr a rhyfeddol.

10Ac wele, i’th weision, i’r seiri a naddant y coed, y rhoddaf ugain mil corus o wenith wedi ei guro, ac ugain mil o haidd, ac ugain mil bath o win, ac ugain mil bath o olew.

11A Hiram brenin Tyrus a atebodd mewn ysgrifen, ac a’i hanfonodd at Solomon, O gariad yr ARGLWYDD ar ei bobl, y rhoddes efe dydi yn frenin arnynt hwy.

12Dywedodd Hiram hefyd, Ben digedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a wnaeth nef a daear, yr hwn a roddes i’r brenin Dafydd fab doeth, gwybodus o synnwyr a deall, i adeiladu tŷ i’r AR¬GLWYDD, a brenhindy iddo ei hun.

13Ac yn awr mi a anfonais ŵr celfydd, cywraint, a deallus, o’r eiddo fy nhad Hiram:

14Mab gwraig o ferched Dan, a’i dad yn ŵr o Tyrus, yn medru gweithio mewn aur, ac mewn arian, mewn pres, mewn haearn, mewn cerrig, ac mewn coed, mewn porffor, ac mewn glas, ac mewn lliain main, ac mewn ysgarlad; ac i gerfio pob cerfiad, ac i ddychmygu pob dychymyg a roddir ato ef, gyda’th rai cywraint di, a rhai cywraint fy arglwydd Dafydd dy dad.

15Ac yn awr, y gwenith, a’r haidd, yr olew, a’r gwin, y rhai a ddywedodd fy arglwydd, anfoned hwynt i’w weision:

16A ni a gymynwn goed o Libanus, yn ôl dy holl raid, ac a’u dygwn hwynt i ti yn gludeiriau ar hyd y môr i Jopa: dwg dithau hwynt i fyny i Jerwsalem.

17A Solomon a rifodd yr holl wŷr dieithr oedd yn nhir Israel, wedi y rhifiad â’r hon y rhifasai Dafydd ei dad ef hwynt: a chaed tair ar ddeg a saith ugain o filoedd a chwe chant.

18Ac efe a wnaeth ohonynt hwy ddeng mil a thrigain yn gludwyr, a phedwar again mil yn naddwyr yn y mynydd, a thair mil a chwe chant yn oruchwylwyr i roi y bobl ar waith.

← 2 Chronicles 1Read In The App, Free →2 Chronicles 3 →

Study 2 Chronicles 2

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536