The Bible Software
Ail Lyfr y Cronicl · Beibl (1620)

Ail Lyfr y Cronicl 10

1AR Philistiaid a ryfelasant yn erbyn Israel, a ffodd gwŷr Israel o flaen y Philistiaid, ac a gwympasant yn archolledig ym mynydd Gilboa. º

2A’r Philistiaid a erlidiasant ar ôl Saul, ac ar ôl ei feibion: a’r Philistiaid a laddasant Jonathan, ac Abinadab, a Malcisua, meibion Saul. º

3A’r rhyfel a drymhaodd yn erbyn Saul, a’r perchen Bwâu a’i cawsant ef, ac efe a archollwyd gan y saethyddion. º

4Yna y dywedodd Saul wrth yr hwn oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyn dy gleddyf, a gwan fi ag ef, rhag dyfod y rhai dien-waededig hyn a’m gwatwar i. Ond arweinydd ei arfau ef nis gwnai, cany ofnodd yn ddirfawr. Yna y cymerth Saul gleddyf, ac a syrthiodd arno. º

5A phan welodd arweinydd ei arfau ef farw o Saul, syrthiodd yntau hefyd ar y cleddyf, ac a fu farw. º

6Felly y bu farw Saul, a’i dri mab ef, a’i holl dylwyth a fuant feirw ynghyd. º

7A phan welodd holl wŷr Israel, y rhaixxx edd yn y dyffryn, ffoi ohonynt hwy, a marw Saul a’i feibion; hwy a ymadawsant a’u dinasoedd, ac a ffoesant; a’r Philist¬iaid a ddaethant, ac a drigasant ynddynt. º

8A thrannoeth, pan ddaeth y Philist¬iaid i ddiosg y lladdedigion, hwy a gawsant Saul a’i feibion yn feirw ym toynydd Gilboa. º

9Ac wedi iddynt ei ddiosg, hwy a gymerasant ei ben ef, a’i arfau, ac a anfonasant i wlad y Philistiaid o amgylch, i ittdangos i’w delwau, ac i’r bobl. º

10A hwy a osodasant ei arfau ef yn nhŷ Su duwiau, a’i benglog a grogasant hwy yn nhŷ Dagon. º

11A phan glybu holl Jabes Gilead yr hyn oll a wnaethai y Philistiaid i Saul, º

12Pob gŵr nerthol a godasant, ac. a jSymerasant ymaith gorff Saul, a chyrff ei feibion ef, ac a’u dygasant i Jabes, ac a gladdasant eu hesgyrn hwynt dan y dderwen yn Jabes, ac a ymprydiasant saith niwmod. º

13Felly y bu farw Saul, am ei gamwedd a wnaethai efe yn erbyn yr AR¬GLWYDD, sef yn erbyn gair yr ARGLWYDD yr hwn ni chadwasai efe, ac am iddo ymgynghori a dewines, i ymofyn & hi; º

14Ac heb ymgynghori a’r ARGLWYDD: am hynny y lladdodd efe ef, ac y trodd y ftenhmiaeth i Dafydd mab Jesse.

← Ail Lyfr y Cronicl 9Read In The App, Free →Ail Lyfr y Cronicl 11 →

Study Ail Lyfr y Cronicl 10

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829