Ail Lyfr y Cronicl 9
1Aholl Israel a rifwyd with eu hachau, ac wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda; a hwy a gaethgludwyd i Babilon am eu camwedd. º
2Y trigolion cyntaf hefyd y rhai oedd yn eu hetifeddiaeth yn eu dinasoedd oedd, yr Israeliaid, yr offeiriaid, y Lefiaid, a’r Nethiniaid. º
3Ac yn Jerwsalem y trigodd rhai o feibion Jwda, ac o feibion Benjamin, ac o feibion Effraim, a Manasse: º
4Uthai mab Ammihud, fab Omri, fab Imri, fab Bani, o feibion Phares fab Jwda. º
5Ac o’r Siloniaid; Asaia y cyntaf-anedig, a’i feibion. º
6Ac o feibion Sera; Jeuel, a’u brodyr, chwe chant a deg a phedwar ugain. º
7Ac o feibion Benjamin, Salu mab Mesulam, fab Hodafia, fab Hasenua, º
8Ibneia hefyd mab Jerohana, ac Ela mab Ussi, fab Michri, a Mesulam mab Seffatia, fab Reuel, fab Ibnija; º
9A’u brodyr yn ôl eu cenhedl aethau, naw cant a deg a deugain a chwech. Y dynion hyn oll oedd bennau-cenedl ar dy eu tadau. º
10Ac o’r offeiriaid; Jedaia, a Je-hoiarib, a Jachin, º
11Asareia hefyd mab Hiloeia, fab Mesulam, fab Sadoc, fab Meraioth, fab Ahitub, tywysog t DDUW; º
12Adaia hefyd mab Jeroham, fab Passur, fab Maloeia; a Maasia, mab Adiel, fab Jasera, fab Mesulam, fab Mesilemith, fab Immer. º
13A’u brodyr, pennaf ar dy eu tadau, yn fil a saith gant a thrigain; yn wŷr galluog o nerth i waith gwasanaeth tŷ DDUW. º
14Ac o’r Lefiaid; Semaia mab Hassub, fab Asricam, fab Hasabeia, o feibion Merari, º
15Bacbaccar hefyd, Heres, a Galal, a Mataneia mab Micha, fab Sichri, fab Asaff; º
16Obadeia hefyd mab Semaia, fab Galal, fab Jeduthun; a Berecheia mab Asa, fab Elcana, yr hwn a drigodd yn nhrefydd y Netoffathiaid. º
17Y porthorion hefyd oedd, Salum, ac Accub, a Thalmon, ac Ahiman, a’u brodyr; Salum ydoedd bennaf; º
18A hyd yn hyn ym mhorth y brenin o du y dwyrain. Y rhai hyn o finteioedd meibion Left oedd borthorion. º
19Salum hefyd mab Core, fab Ebiasaff, fab Cora, a’r Corahiaid ei frodyr ef o dylwyth ei dad, oedd ar waith y weinidogaeth, yn cadw pyrth y babell: a’u tadau hwynt ar lu yr ARGLWYDD, oedd yn cadw y ddyfodfa i mewn. º
20Phinees hefyd mab Eleasar a fuasai dywysog arnynt hwy o’r blaen: a’r AR¬GLWYDD ydoedd gydag ef. º
21Sechareia mab Meselemia ydoedd borthor drws pabell y cyfarfod. º
22Hwynt oll y rhai a etholasid yn, I borthorion with y rhiniogau, oedd ddau cant a deuddeg. Hwynt-hwy yn eu trefydd a rifwyd wrth eu hachau; gosodasai Dafydd a Samuel y gweledydd y rhai hynny yn eu swydd. º
23Felly hwynt a’u meibion a safent wrth byrth tŷ yr ARGLWYDD, sef tŷ y babell, i wylied wrth wyliadwriaethau. º
24Y porthorion oedd ar bedwar o fannau, dwyrain, gorllewin, gogledd, a deau. º
25A’u brodyr, y rhai oedd yn eu tref¬ydd, oedd i ddyfod ar y seithfed dydd, o amser i amser, gyda hwynt. º
26Canys dan lywodraeth y Lefiaid hyn, y pedwar pen porthor, yr oedd yr ystafelloedd a thrysorau tŷ DDUW. º
27Ac o amgylch tŷ DDUW y lletyent hwy, canys arnynt hwy yr oedd yr oruch-wyliaeth, ac arnynt hwy hefyd yr oedd ei agoryd o fore i fore. º
28Ac ohonynt hwy yr oedd golygwyr ar lestri y weinidogaeth, ac mewn rhif y dygent hwynt i mewn, ac mewn rhif y dygent hwynt allan. º
29A rhai ohonynt hefyd oedd wedi eu gosod ar y llestri, ac ar holl ddodrefn y cysegr, ac ar y peilliaid, a’r gwin, a’r olew, a’r thus, a’r aroglau peraidd. º
30Rhai hefyd o feibion yr offeiriaid oedd yn gwneuthur ennaint o’r aroglau peraidd. º
31A Matitheia, un o’r Lefiaid, yr hwn oedd gyntaf-anedig Salum y Corahiad, ydoedd mewn swydd ar waith y radell. º
32Ac eraill o feibion y Cohathiaid eu brodyr hwynt, oedd ar y bara gosod, i’w ddarparu bob Saboth. º
33A dyma y cantorion, pennau-cenedl y Lefiaid, y rhai oedd mewn ystafelloedd yn ysgyfala; oherwydd arnynt yr oedd y gwaith hwnnw ddydd a nos. º
34Dyma bennau-cenedl y Lefiaid, pennau trwy eu cenedlaethau: hwy a drigent yn Jerwsalem. º
35Ac yn Gibeon y trigodd tad Gibeon, Jehiel; ac enw ei wraig ef oedd Maacha: º
36A’i fab cyntaf-anedig efoedd Abdon, yna Sur, a Chis, a Baal, a Ner, a Nadab, º
37A Gedor, ac Ahio, a Sechareia a Micloth. º
38A Micloth a genhedlodd Simeam: a hwythau hefyd, ar gyfer eu brodyr, a drigasant yn Jerwsalem gyda’u brodyr. º
39Ner hefyd a genhedlodd Cis, a Chis a genhedlodd Saul, a Saul a genhedlodd Jonathan, a Malcisua, ac Abinadab, ac Esbaal. º
40A mab Jonathan oedd Meribbaal; a Meribaal a genhedlodd Micha. º
41A meibion Micha oedd, Pithon, a Melech, a Tharea, ac Ahas. º
42Ac Ahas a genhedlodd Jara, a Jara a genhedlodd Alemeth, ac Azmafeth, a Simri; a Simri hefyd a genhedlodd Mosa: º
43A Mosa a genhedlodd Binea; a Reffaia oedd ei fab ef, Elasa ei fab yntau, Asel ei fab yntau. º
44Ac i Asel yr ydoedd chwech o feibion, a dyma eu henwau hwynt; Asricam, Bocheru, ac Ismael, a Seareia, ac Obadeia, a Hanan. Dyma feibion Asel.