Ail Lyfr y Cronicl 21
1Asatan a safodd i fyny yn erbyn Ax Israel, ac a anogodd Dafydd i gyfrif Israel. º
2A dywedodd Dafydd with Joab, ac wrth benaethiaid y bobl, Ewch, cyfrifwch. Israel o Beerseba hyd Dan; a dygwch ataf fi, fel y gwypwyf eu rhifedi hwynt. º
3A dywedodd Joab, Chwaneged yr ARGLWYDD ei bobl yn gan cymaint ag ydynt: O fy arglwydd frenin, onid gweis* ion i’m harglwydd ydynt hwy oll? paham y cais fy arglwydd hyn? paham y bydd efe yn achos camwedd i Israel? º
4Ond gair y brenin a fu drech na Joab:. a Joab a aeth allan, ac a dramwyodd trwy holl Israel, ac a ddaeth i Jerwsalem. º
5A rhoddes Joab nifer rhifedi y bobl i Dafydd. A holl Israel oedd fil o filoedd a chan mil o wŷr yn tynnu cleddyf, a Jwda oedd bedwar can mil a deng mil’ a thrigain o wŷr yn tynnu cleddyf. º
6Ond Lefi a Benjamin ni chyfrifasai efe yn eu mysg hwynt; canys ffiaidd oedd gan Joab air y brenin. º
7A bu ddrwg y peth hyn yng ngolwg Duw, ac efe a drawodd Israel. º
8A Dafydd a ddywedodd wrth DDUW, Pechais yn ddirfawr, oherwydd i mi wneuthur y peth hyn: ac yr awr hon, dilea, atolwg, anwiredd dy was, canys gwneuthum yn ynfyd iawn. º
9A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Gad, gweledydd Dafydd, gan ddywedyd, º
10DOS, a llefara wrth Dafydd, gan ddywedyd. Fel hyn y dywed yr AR-(SLWYDD, Tri pheth yr ydwyf fi yn eu gosod o’th flaen di; dewis i ti un ohonynt, a mi a’i gwnaf i ti. º
11Yna Gad a ddaeth at Dafydd, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Cymer i ti º
12Naill ai tair blynedd o newyn; ai dy ddifetha dri mis o flaen dy wrthwynebwyr, a chleddyf dy elynion yn dy oddi-weddyd; ai ynteu cleddyf yr ARGLWYDD, sef haint y nodau, yn y tir dri diwrnod, ac angel yr ARGLWYDD yn dinistrio trwy holl derfynau Israel. Ac yr awr hon edrych pa air a ddygaf drachefn i’r hwn a’m hanfonodd. º
13A Dafydd a ddywedodd wrth Gad, Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi; syrthiwyf, atolwg, yn llaw yr ARGLWYDD, canys ei drugareddau ef ydynt arni iawn, ac na syrthiwyf yn llaw dyn. º
14Yna y rhoddes yr ARGLWYDD haint y nodau ar Israel: a syrthiodd o Israel ddeng mil a thrigain mil o wŷr. º
15A Duw a anfonodd angel i Jerwsalem i’w dinistrio hi: ac fel yr oedd yn ei dinistrio, yr ARGLWYDD a edrychodd, ac a edifarhaodd am y drwg, ac a ddywed-i odd wrth yr angel oedd yn dinistrio, Digon, bellach, atal dy law. Ac angel yr ARGLWYDD oedd yn sefyll wrth lawr dyrnu Oman y Jebusiad.; º
16A Dafydd a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu angel yr ARGLWYDD yn sefylli rhwng y ddaear a’r nefoedd, a’i gleddyf noeth yn ei law wedi ei estyn tua Jerw¬salem. A syrthiodd Dafydd a’r henuriaid, y rhai oedd wedi ymwisgo mewn sachliain, ar eu hwynebau. º
17A Dafydd a ddywedodd wrth DDUW, Onid myfi a ddywedais am gyfrif y bobl? a mi yw yr hwn a bechais, ac a wneuthum fawr ddrwg; ond y defaid hyn, beth a wnaethant hwy? O AR¬GLWYDD fy Nuw, bydded, atolwg, dy law arnaf fi, ac ar dy fy nhad, ac nid yn bla ar dy bobl. º
18Yna tfngel yr ARGLWYDD a archodd i Gad ddywedyd wrth Dafydd, am fyned o Dafydd i fyny i gyfodi allor i’r AR¬GLWYDD yn llawr dyrnu Oman y Je¬busiad. º
19A Dafydd a aeth i fynu, yn ol gair Gad, yr hwn a lefarasai efe yn enw yr ARGLWYDD. º
20Yna y trodd Oman, ac a ganfu y? angel, a’i bedwar mab gydag efa ymguddiasant; ac Oman oedd yn dyrnu gwenith. º
21A Dafydd a ddaeth at Oman; ac edrychodd Oman, ac a ganfu Dafydd, ac a aeth allan o’r llawr dyrnu, ac a ymgrymodd i Dafydd, â’i xxx wyneb tua’r ddaear. º
22A dywedodd Dafydd wrth Oman Moes i mi le y llawr dymu, fel yr adeilad-wyf ynddo allor i’r ARGLWYDD: dyro ef i mi am ei lawn werth; fel yr atalier y pla oddi wrth y bobl. º
23Ac Oman a ddywedodd wrth Dafydd) Cymer i ti, a gwnaed fy arglwydd frenin yr hyn fyddo da yn ei olwg. Wele, rhoddaf yr ychen yn boethoffrwm, a’r offer dyrnu yn gynnud, a’r gwenith yn fwyd-offrwm: hyn oll a roddaf. º
24A’r brenin Dafydd a ddywedodd wrth Oman, Nid felly, ond gan brynu y prynaf ef am ei lawn werth: canys ni chymeraf i’r ARGLWYDD yr eiddot ti, ac nid offrymaf boethoffrwm yn rhad. º
25Felly y rhoddes Dafydd i Oman am y lle chwe chan sicl o aur wrth bwys. º
26Ac yno yr adeiladodd Dafydd allor i’r ARGLWYDD, ac a offrymodd boethoffrymau, ac ebyrth hedd, ac a alwodd ar yr ARGLWYDD; ac efe a’i hatebodd ef o’r nefoedd trwy dân ar allor y poethoffrwm. º
27A dywedodd yr ARGLWYDD wrth yr angel; ac yntau a roes ei gleddyf yn ei wain drachefn. º
28Y pryd hwnnw, pan ganfu Dafydd ddarfod i’r ARGLWYDD wrando arno ef yn llawr dyrnu Oman y Jebusiad, efe- a aberthodd yno. º
29Ond tabernacl yr ARGLWYDD, yr hon a wnaethai Moses yn yr anialwch, ac allor y poethoffrwm, oedd y pryd hwnnw yn yr uchelfa yn Gibeon: º
30Ac ni allai Dafydd fyned o’i blaen hi i ymofyn a Duw; canys ofnasai rhag cleddyf angel yr ARGLWYDD.