The Bible Software
Ail Lyfr y Cronicl · Beibl (1620)

Ail Lyfr y Cronicl 20

1TT ARFU hefyd wedi gorffen y flwydd- yn, yn amser myned o’r bren¬hinoedd allan i ryfela, arwain o Joab gadernid y llu, ac anrheithio gwlad meib¬ion Ammon, ac efe a ddaeth ac a war-chaeodd ar Rabba: ond Dafydd a arhosodd yn Jerwsalem: a Joab a drawodd Rabba; ac a’i dinistriodd hi. º

2A chymerth Dafydd goron eu brenin hwynt oddi am ei ben, a chafodd hi o bwys talent o aur, ac ynddi feini gwerthfawr, a hi a roed am ben Dafydd: ac ef& a ddug anrhaith fawr iawn o’r ddinas. º

3A’r bobl oedd ynddi a ddug efe allan, ac a’u torrodd hwynt a llifiau, ac ag ogau heyrn, ac a bwyeill: ac fel hyn y gwnaeth Dafydd a holl ddinasoedd meibion Ammon. A dychwelodd Dafydd a’r holl bobl i Jerwsalem. º

4Ac at ôl hyn y cyfododd rhyfel yn Geser yn erbyn y Philistiaid: yna Sib-bechai yr Husathiad a laddodd Sippai yr hwn oedd o feibion y cawr, felly y darostyngwyd hwynt. º

5A bu drachefn ryfel yn erbyn y Philistiaid, ac Elhanan mab Jair a ladd-<?dd Lahmi, brawd Goleiath y Gethiad, a phaladr ei waywffon ef oedd fel carfan gwehydd. º

6Bu hefyd drachefn ryfel yn Gath, ac yr oedd gŵr hir, a’i fysedd oeddynt bob yn chwech a chwech, sef pedwar ar hugain; yntau hefyd a anesid i’r cawr. º

7Ond pan ddifenwodd efe Israel, Jonathan mab Simea brawd Dafydd a’i lladdodd ef. º

8Y rhai hyn a anwyd i’r eawr yn Gath, ac a laddwyd trwy law Dafydd, a fhrwy law iweision ef.

← Ail Lyfr y Cronicl 19Read In The App, Free →Ail Lyfr y Cronicl 21 →

Study Ail Lyfr y Cronicl 20

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829