The Bible Software
Ail Lyfr y Cronicl · Beibl (1620)

Ail Lyfr y Cronicl 24

1a'r Merariaid wrth goelbren. DYMA ddosparthiadau meibion Aaron. Meibion Aaron oedd, Nadab, ac Abihu, Eleazar, ac Ithamar.

2A bu farw Nadab ac Abihu o flaen eu tad, ac nid oedd meibion iddynt: am hynny Eleazar ac Ithamar a offeiriadasant. º

3A Dafydd a’u dosbarthodd hwynt, Sadoc o feibion Eleazar, ac Ahimelech o feibion Ithamar, yn ol eu swyddau, yn eu gwasanaeth. º

4A chafwyd mwy o feibion Eleazar yn llywodraethwyr nag o feibion Ithamar; ac fel hyn y rhannwyd hwynt. Yr ydoedd o feibion Eleazar yn bennau ar dŷ eu tadau un ar bymtheg; ac o feibion Ithamar, yn ol tŷ eu tadau, wyth. º

5Felly y dosparthwyd hwynt wrth goelbrennau, y naill gyd â’r llall; canys tywysogion y cyssegr, a thywysogion tŷ Dduw, oedd o feibion Eleazar, ac o feibion Ithamar. º

6A Semaiah mab Nethaneel yr ysgrifennydd, o lwyth Lefi, a’u hysgrifennodd hwynt ger bron y brenhin, a’r tywysogion, a Sadoc yr offeiriad, ac Ahimelech mab Abïathar, a phen-cenedl yr offeiriaid, a’r Lefiaid; un teulu a ddaliwyd i Eleazar, ac un arall a ddaliwyd i Ithamar. º

7A’r coelbren cyntaf a ddaeth i Jehoiarib, a’r ail i Jedaiah, º

8Y trydydd i Harim, y pedwerydd i Seorim, º

9Y pummed i Malchïah, y chweched i Mijamin, º

10Y seithfed i Haccos, yr wythfed i Abïah, º

11Y nawfed i Jesua, y degfed i Sechanïah, º

12Yr unfed ar ddeg i Elïasib, y deuddegfed i Jacim, º

13Y trydydd ar ddeg i Huppah, y pedwerydd ar ddeg i Jesebeab, º

14Y pymthegfed i Bilgah, yr unfed ar bymtheg i Immer, º

15Y ddeufed ar bymtheg i Hezir, y deunawfed i Aphses, º

16Y pedwerydd ar bymtheg i Pethahïah, yr ugeinfed i Jehesecel, º

17Yr unfed ar hugain i Jachin, y ddeufed ar hugain i Gamul, º

18Y trydydd ar hugain i Delaiah, y pedwerydd ar hugain i Maazïah. º

19Dyma eu dosparthiadau hwynt yn eu gwasanaeth, i fyned i dŷ yr Arglwydd yn ol eu defod, dan law Aaron eu tad, fel y gorchymynasai Arglwydd Dduw Israel iddo ef. º

20A’r lleill o feibion Lefi oedd y rhai hyn. O feibion Amram; Subael: o feibion Subael; Jehdeiah. º

21Am Rehabïah; Isïah oedd ben ar feibion Rehabïah. º

22O’r Ishariaid; Selomoth: o feibion Selomoth; Jahath. º

23A meibion Hebron oedd, Jerïah y cyntaf, Amarïah yr ail, Jahaziel y trydydd, a Jecameam y pedwerydd. º

24O feibion Uzziel; Michah: o feibion Michah; Samir. º

25Brawd Michah oedd Isïah; o feibion Isïah; Zecharïah. º

26Meibion Merari oedd, Mahli, a Musi: meibion Jaazïah; Beno. º

27Meibion Merari o Jaaseia; Beno, a;;Soham, a Saccur, ac Ibri. º

28O Mahli y daeth Eleasar, ac ni bu iddo ef feibion. º

29Am Cis: mab Cis oedd Jerahmeel. º

30A meibion Musi oedd, Mahli, ac Eder, a Jerimoth. Dyma feibion y Lefiaid yn ôl tŷ eu tadau. º

31A hwy a fwriasant goelbrennau ar gyfer eu brodyr meibion Aaron, gerbron Dafydd y brenin, a Sadoc, ac Ahimelech, a phennau-cenedl yr offeiriaid a’r Lefiaid; ie, y pencenedl ar gyfer y brawd ieuaagaf.

← Ail Lyfr y Cronicl 23Read In The App, Free →Ail Lyfr y Cronicl 25 →

Study Ail Lyfr y Cronicl 24

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829