The Bible Software
Ail Lyfr y Cronicl · Beibl (1620)

Ail Lyfr y Cronicl 29

1YNA y dywedodd Dafydd y brenhin wrth yr holl dyrfa, Duw a ddewisodd yn unig fy mab Solomon, ac y mae efe yn ieuanc, ac yn dyner, a’r gwaith sydd fawr; canys nid i ddyn y mae y llys, ond i’r ARGLWYDD DDUW. º

2Ac â’m holl gryfder y parottoais i dŷ fy NUW, aur i’r gwaith aur, ac arian i’r arian, a phres i’r pres, a haiarn i’r haiarn, a choed i’r gwaith coed; meini onix, a meini gosod, meini carbunculus, ac o amryw liw, a phob maen gwerthfawr, a meini marmor yn aml. º

3Ac etto am fod fy ewyllys tu a thŷ fy NUW, y mae gennyf o’m heiddo fy hun, aur ac arian, yr hwn a roddaf tu ag at dŷ fy NUW; heb law yr hyn oll a barottoais tu a’r tŷ sanctaidd: º

4Tair mil o dalentau aur, o aur Ophir a saith mil o dalentau arian puredig, i oreuro parwydydd y tai: º

5Yr aur i’r gwaith aur, a’r arian i’r arian; a thu ag at yr holl waith, trwy law y rhai celfydd. Pwy hefyd a ymrŷdd yn ewyllysgar i ymgyssegru heddyw i’r ARGLWYDD? º

6Yna tywysogion y teuluoedd, a thywysogion llwythau Israel, a thywysogion y miloedd a’r cannoedd, a swyddogion gwaith y brenhin, a offrymmasant yn ewyllysgar, º

7Ac a roddasant tu ag at wasanaeth tŷ DDUW, bùm mil o dalentau aur, a deng mil o sylltau, a deng mil o dalentau arian, a deunaw mil o dalentau pres, a chàn mil o dalentau haiarn. º

8A chyd â’r hwn y ceid meini, hwy a’u rhoddasant i drysor tŷ yr ARGLWYDD, trwy law Jehiel y Gersoniad. º

9A’r bobl a lawenhasant pan offrymment o’u gwirfodd; am eu bod â chalon berffaith yn ewyllysgar yn offrymmu i’r ARGLWYDD: a Dafydd y brenhin hefyd a lawenychodd â llawenydd mawr. º

10Yna y bendithiodd Dafydd yr ARGLWYDD y'ngŵydd yr holl dyrfa, a dywedodd Dafydd, Bendigedig wyt ti, ARGLWYDD DDUW Israel, ein tad ni, o dragwyddoldeb hyd dragywyddoldeb. º

11I ti, ARGLWYDD, y mae mawredd, a gallu, a gogoniant, a goruchafiaeth, a harddwch: canys y cwbl yn y nefoedd ac yn y ddaear sydd eiddot ti; y deyrnas sydd eiddot ti, ARGLWYDD, yr hwn hefyd a ymddyrchefaist yn ben ar bob peth. º

12Cyfoeth hefyd ac anrhydedd a ddeuant oddi wrthyt ti, a thi sydd yn arglwyddiaethu ar bob peth, ac yn dy law di y mae nerth a chadernid; yn dy law di hefyd y mae mawrhâu, a nerthu pob dim. º

13Ac yn awr, ein DUW ni, yr ydym ni yn dy foliannu, ac yn clodfori dy enw gogoneddus. º

14Eithr pwy ydwyf fi, a phwy yw fy mhobl i, fel y caem ni rym i offrymmu yn ewyllysgar fel hyn? canys oddi wrthyt ti y mae pob peth, ac o’th law dy hun y rhoisom i ti. º

15O herwydd dïeithriaid ydym ni ger dy fron di, ac alltudion fel ein holl dadauː fel cysgod yw ein dyddiau ni ar y ddaear, ac nid oes ymaros. º

16Oarglwydd ein DUW, yr holl amlder hyn a barottoisom ni i adeiladu i ti dŷ i’th enw sanctaidd, o’th law di y mae, ac eiddot ti ydyw oll. º

17Gwn hefyd, O fy Nuw, mai ti sydd yn profi y galon, ac yn yrnfodloni mewa cyfiawnder. Myfi yn uniondeb fy nghalon, o wirfodd a offrymais hyn oll; ac yn awr y gwelais dy bobl a gafwyd yma yn offryma yn ewyllysgar i ti, a hynny mewn llawenydd. º

18ARGLWYDD DDUW Abraham, Isaac, ac Israel, ein tadau, cadw hyn yn dragy¬wydd ym mryd meddyliau calon dy bobl; a pharatoa eu calon hwynt atat ti. º

19A dyro i Solomon fy mab galon berffaith, i gadw dy orchmynion, dy dystiolaethau, a’th ddeddfau, ac i’w gwneuthur hwynt oll, ac i adeiladu y llys yr hwn y darperais iddo. º

20y Dywedodd Dafydd hefyd wrth yr holl dyrfa, Bendithiwch, atolwg, yr AR¬GLWYDD eich Duw. A’r holl dyrfa a fendithiasant ARGLWYDD DDUW eu tadau, a blygasant eu pennau, ac a ymgrymasant i’r ARGLWYDD, ac i’r brenin. º

21Aberthasant hefyd ebyrth i’r AR-GLWYDD, a thrannoeth ar ôl y dydd hwnnw yr abenhasant yn boethoffrymmau i’r ARGLWYDD, fil o fustych, mil o hyrddod, a mil o wyn, a’u diod-offrymau, ac ebyrth yn lluosog, dros holl Israel: º

22Ac a fwytasant ac a yfasant gerbron yr ARGLWYDD y diwrnod hwnnw mewn llawenydd mawr. A gosodasant Solomon mab Dafydd yn frenin yr ail waith; ac eneiniasant ef i’r ARGLWYDD yn flaenor, a Sadoc yn offeiriad. º

23Felly yr eisteddodd Solomon ar orseddfa yr ARGLWYDD yn frenin, yn lle Dafydd ei dad, ac a lwyddodd; a holl Israel a wrandawsant arno. º

24Yr holl dywysogion hefyd a’r cedyrn, a chyda hynny holl feibion y brenin Dafydd, a roddasant eu dwylo ar fod dan Solomon y brenin. º

25A’r ARGLWYDD a fawrygodd Solomon yn rhagorol yng ngŵydd holl Israel, ac a roddes iddo ogomant brenhinol, math yr hwn ni bu i un brenin o’i flaen ef yn Israel. º

26Felly Dafydd mab Jesse a deyrn-i asodd ar holl Israel. º

27A’r dyddiau y tcyrnasodd efe a Israel oedd ddeugam mlynedd: saith, mlynedd y teyrnasodd efe yn Hebron, a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem. º

28Ac efe a fu farw mewn oedran teg, yn gyflawn o ddyddiau, cyfoeth, ac anrhydedd: a Solomon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. º

29Ac am weithredoedd cyntafa diwethaf y brenin Dafydd, wele, y maent yn ysgrifenedig yng ngeiriau Samuel y gweledydd, ac yng ngeiriau Nathan y proffwyd, ac yng ngeiriau Gad y gweled¬ydd, º

30Gyda’i holl frenhiniaeth ef, a’i gadernid, a’r amserau a aethant drosto ef, a thros Israel, a thros holl deyrnasoedd y gwledydd.

← Ail Lyfr y Cronicl 28Read In The App, Free →2 Chronicles 1 →

Study Ail Lyfr y Cronicl 29

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829