The Bible Software
Ail Lyfr y Cronicl · Beibl (1620)

Ail Lyfr y Cronicl 2

1DYMA feibion Israel; Reuben, Simeon, Lefi, a Jwda, Issachar, a Sabulon,

2Dan, Joseff, a Benjamin, Nafftali, Gad, ac Aser.

3Meibion Jwda; Er, ac Onan, a Sela. Y tri hyn a anwyd iddo ef o ferch Sua y Ganaanees. Ond Er, cyntaf-anedig Jwda, ydoedd ddrygionus yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac efe a'i lladdodd ef.

4A Thamar ei waudd ef a ymddûg iddo Phares a Sera. Holl feibion Jwda oedd bump.

5Meibion Phares; Hesron a Hamul.

6A meibion Sera; Simri, ac Ethan, a Heman, a Chalcol, a Dara; hwynt oll oedd bump.

7A meibion Carmi; Achar, yr hwn a flinodd Israel, ac a wnaeth gamwedd oblegid y diofryd-beth.

8A meibion Ethan; Asareia.

9A meibion Hesron, y rhai a anwyd iddo ef; Jerahmeel, a Ram, a Chelubai.

10A Ram a genhedlodd Amminadab; ac Amminadab a genhedlodd Nahson, pennaeth meibion Jwda;

11A Nahson a genhedlodd Salma; a Salma a genhedlodd Boas;

12A Boas a genhedlodd Obed; ac Obed a genhedlodd Jesse;

13A Jesse a genhedlodd ei gyntaf-anedig Eliab, ac Abinadab yn ail, a Simma yn drydydd,

14Nethaneel yn bedwerydd, Radai yn bumed,

15Osem yn chweched, Dafydd yn seithfed:

16A'u chwiorydd hwynt oedd Serfia ac Abigail. A meibion Serfia; Abisai, a Joab, ac Asahel, tri.

17Ac Abigail a ymddûg Amasa. A thad Amasa oedd Jether yr Ismaeliad.

18A Chaleb mab Hesron a enillodd blant o Asuba ei wraig, ac o Jerioth: a dyma ei meibion hi; Jeser, Sobab, ac Ardon.

19A phan fu farw Asuba, Caleb a gymerth iddo Effrath, a hi a ymddûg iddo Hur.

20A Hur a genhedlodd Uri, ac Uri a genhedlodd Besaleel.

21Ac wedi hynny yr aeth Hesron i mewn at ferch Machir, tad Gilead, ac efe a’i priododd hi pan ydoedd fab trigain mlwydd; a hi a ddug iddo Segub.

22A Segub a genhedlodd Jair: ac yr oedd iddo ef dair ar hugain o ddinasoedd yng ngwlad Gilead.

23Ac efe a enillodd Gesur, ac Aram, a threfydd Jair oddi arnynt, a Chenath a’i phentrefydd, sef trigain o ddinasoedd. Y rhai hyn oll oedd eiddo meibion Machir tad Gilead.

24Ac ar ôl marw Hesron o fewn Caleb-effrata, Abeia gwraig Hesron a ymddûg iddo Asur, tad Tecoa.

25A meibion Jerahmeel cyntaf-anedig Hesron oedd, Ram yr hynaf, Buna, ac Oren, ac Osem, ac Ahïa.

26A gwraig arall ydoedd i Jerahmeel, a’i henw Atara: hon oedd fam Onam.

27A meibion Ram cyntaf-anedig Jerah¬meel oedd, Maas, a Jaimn, ac Ecer.

28A meibion Onam oedd Sammai, a Jada. A meibion Sammai; Nadab, ac Abisur.

29Ac enw gwraig Abisur oedd Abihail: a hi a ymddûg iddo Aban, a Molid.

30A meibion Nadab; Seled, ac Appaim. A bu farw Seled yn ddi-blant.

31A meibion Appaim; Isi. A meibion Isi; Sesan. A meibion Sesan; Alai.

32A meibion Jada brawd Sammai; Jether, a Jonathan. A bu farw Jether yn ddi-blant.

33A meibion Jonathan; Peleth, a Sasa. Y rhai hyn oedd feibion Jerahmeel.

34Ac nid oedd i Sesan feibion, ond merched: ac i Sesan yr oedd gwas o Eifftiad, a’i enw Jarha.

35A Sesan a roddodd ei ferch yn wraig i Jarha ei was. A hi a ymddûg iddo Altai.

36Ac Attai a genhedlodd Nathan, a Nathan a genhedlodd Sabad.

37A Sabad a genhedlodd Efflal, ac Efflal a genhedlodd Obed,

38Ac Obed a genhedlodd Jehu, a Jehu a genhedlodd Asareia,

39Ac Asareia a genhedlodd Heles, a Heles a genhedlodd Eleasa,

40Ac Eleasa a genhedlodd Sisamai, a Sisamai a genhedlodd Salum,

41A Salum a genhedlodd Jecameia, a Jecameia a genhedlodd Elisama.

42Hefyd meibion Caleb brawd Jerah¬meel oedd. Mesa ei gyntaf-anedig, hwn oedd dad Siff: a meibion Maresa tad Hebron.

43A meibion Hebron; Cora, a Thappua, a Recem, a Sema.

44A Sema a genhedlodd Raham, tad Jorcoam: a Recem a genhedlodd Sammai.

45A mab Sammai oedd Maon: a Maon oedd dad Bethsur.

46Ac Effa gordderchwraig Caleb a ymddûg Haran, a Mosa, a Gases: a Haran a genhedlodd Gases.

47A meibion Jahdai; Regem, a Jotham, a Gesan, a Phelet, ac Effa, a Saaff.

48Gordderchwraig Caleb, sef Maacha, a ymddûg Seber a Thirhana.

49Hefyd hi a ymddûg Saaff tad Madmanna, Sefa tad Machbena, a thad Gibea: a merch Caleb oedd Achsa.

50Y rhai hyn oedd feibion Caleb S mab Hur, cyntaf-anedig Effrata; Sobal tad Ciriath-jearim,

51Salma tad Bethlehem, Hateff tad Bethgader.

52A meibion oedd i Sobal, tad Ciriath-jearim: Haroe, a hanner y Manahethiaid,

53A theuluoedd Ciriath-jearim oedd yr Ithriaid, a’r Puhiaid, a’r Sumathiaid, a’r Misraiaid: o’r rhai hyn y daeth y Sareathiaid a’r Esthauliaid.

54Meibion Salma; Bethlehem, a’r Netoffathiaid, Ataroth tŷ Joab, a hanner y Manahethiaid, y Soriaid.

55A thylwyth yr ysgrifenyddion, y rhai a breswylient yn Jabes; y Tirathiaid, y Simeathiaid, y Suchathiaid. Dyma y Ceniaid, y rhai a ddaethani o Hemath, tad tylwyth Rechab.

← Ail Lyfr y Cronicl 1Read In The App, Free →Ail Lyfr y Cronicl 3 →

Study Ail Lyfr y Cronicl 2

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829