Ail Lyfr y Cronicl 27
1PEDAIR mil ar hugain oedd pob dos-barthiad o feibion Israel dan eu rhif, yn bennau-cenedl, ac yn dywysogion miloedd a channoedd, a’u swyddogion yn gwasanaethu y brenin ym mhob achos o’r dosbarthiadau, yn dyfod i mewn, ac yn myned allan, o fis i fis, trwy holl fisoedd y flwyddyn. º
2Ar y dosbarthiad cyntaf, dros y mis cyntaf, yr oedd Jasobeam mab Sabdiel; ac yn ei ddosbarthiad ef yr oedd pedair mil ar hugain. º
3O feibion Peres yr oedd y pennaf o holl dywysogion y llu dros y mis cyntaf. º
4Ac ar ddosbarthiad yr ail fis yr oedd Dodai yr Ahohiad, ac o’i ddosbarthiad ef yr oedd Micloth hefyd yn gapten; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. º
5Trydydd tywysog y llu dros y trydydd mis oedd Benaia mab Jehoiada yr offeiriad pennaf; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. º
6Y Benaia hwn oedd gadarn ymhlith y deg ar hugain, ac oddi ar y deg ar hugain; ac yn ei ddosbarthiad ef yr oedd Amisabad ei fab ef. º
7Y pedwerydd dros y pedwerydd mis oedd Asahel brawd Joab, a Sebadeia ei fab ar ei ôl ef; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. º
8Y pumed dros y pumed mis oedd dywysog, Samhuth yr Israhiad; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. º
9Y chweched dros y chweched mis oedd Ira mab Icces y Tecoad; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. º
10Y seithfed dros y seithfed mis oedd Heles y Feloniad, o feibion Effraim; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. º
11Yr wythfed dros yr wythfed mis oedd Sibbechai yr Husathiad, o’r Sarhiaid; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. º
12Y nawfed dros y nawfed mis oedd Abieser yr Anathothiad, o’r Benjaminiaid; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. º
13Y degfed dros y degfed mis oedd Maharai y Netoffathiad, o’r Sarhiaid; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. º
14Yr unfed ar ddeg dros yr unfed mis ar ddeg oedd Benaia y Pirathoniad, o feibion Enraim; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. º
15Y deuddegfed dros y deuddegfed mis oedd Heldai y Netoffathiad, o Othniel; ac yn ei ddosbarthiad ef bedair mil ar hugain. º
16Ac ar lwythau Israel: ar y Reuben¬iaid, Elieser mab Sichri oedd dywysog: ar y Simeoniaid, Seffatia mab Maacha: º
17Ar y Lefiaid, Hasabeia mab Cemuel: ar yr Aaroniaid, Sadoc: º
18Ar Jwda, Elihu, un o frodyr Dafydd: ar Issachar, Omri mab Michael: º
19Ar Sabulon, Ismaia mab Obadeia: ar Nafftali, Jerimoth mab Asriel: º
20Ar feibion Effraim, Hosea mab Asaseia: ar hanner llwyth Manasse, Joel mab Pedaia: º
21Ar hanner llwyth Manasse yn Gilead, Ido mab Sechareia: ar Benjamin, Jaasiel mab Abner: º
22Ar Dan, Asarel mab Jeroham. Dyma dywysogion llwythau Israel. º
23Ond ni chymerth Dafydd eu rhifedi hwynt o fab ugain mlwydd ac isod; canys dywedasai yr ARGLWYDD yr amlhai efe Israel megis sêr y nefoedd. º
24Joab mab Serfia a ddechreuodd gyfrif, ond ni orffennodd efe, am fod o achos hyn lidiowgrwydd yn erbyn Israel, ac nid aeth y cyfrif hwn ymysg cyfrifon cronicl y brenin Dafydd. º
25Ac ar drysorau y brenin yr oedd Asmafeth mab Adiel: ac ar y trysordai yn y meysydd, yn y dinasoedd, yn y pentrefi befyd, ac yn y tyrau, yr oedd Jehonathan mab Usseia. º
26Ac ar weithwyr y maes, y rbai oedd yn llafurio y ddaear, yr oedd Esri mab Celub. º
27Ac ar y gwinllannoedd yr oedd Simei y Ramathiad: ac ar yr hyn oedd yn dyfod o’r gwinllannoedd i’r selerau gwin, yr oedd Sabdi y Siffmiad. º
28Ac ar yr olewydd, a’r sycamorwydd, y rhai oedd yn y dyffrynnoedd, yr oedd Baalhanan y Gederiad: ac ar y selerau olew yr oedd Joas. º
29Ac ar yr ychen pasgedig yn Saron, yr oedd Sitrai y Saroniad: ac ar yr ychen yn y dyffrynnoedd, yr oedd Saffat mab Adiai. º
30Ac ar y camelod yr oedd Obil yr Ismaeliad: ac ar yr asynnod Jehdeia y Meronothiad. º
31Ac ar y defaid yr oedd Jasis yr Hageriad. Y rhai hyn oll oedd dywys¬ogion y golud eiddo y brenin Dafydd. º
32A Jehonathan ewythr Dafydd frawd ei dad oedd gynghorwr, gŵr doeth, ac ysgrifennydd: Jehiel hefyd roab Hach-mom oedd gyda meibion y brenin. º
33Ac Ahitoffel oedd gynghorwr y brenin; a Husai yr Arciad oedd gyfaill y brenin. º
34Ac ar ôl Ahitoffel yr oedd Jehoiada mab Benaia, ac Abiathar: a thywysog llu y brenin oedd Joab.