The Bible Software
Ail Lyfr y Cronicl · Beibl (1620)

Ail Lyfr y Cronicl 19

1A ar ôl hyn y bu i Nahas brenin meib¬ion Ammon farw; a’i fab a deyrnas¬odd yn ei le ef. º

2A Dafydd a ddywedodd, Gwnaf garedigrwydd a Hanun mab Nahas, oherwydd gwnaeth ei dad a myfi gar¬edigrwydd. Ac anfonodd Dafydd genhadau i’w gysuro ef am ei dad. A gweision Dafydd a ddaethant i wlad meib¬ion Ammon, at Hanun, i’w gysuro ef. º

3A thywysogion meibion Ammon a ddywedasant wrth Hanun, Ai anrhydeddu dy dad di y mae Dafydd yn dy dyb di, am iddo anfon cysurwyr atat ti? onid i chwilio, ac i ddifetha, ac i droedio y wlad, y daeth ei weision ef atat ti? º

4Yna y cymerth Hanun weision Da¬fydd, ac a’u heilliodd hwynt, ac a dorrodd eu dillad hwynt yn eu hanner, wrth en cluniau, ac a’u gyrrodd hwynt ymaith. º

5A hwy a aethant, ac a fynegasant i Dafydd am y gwŷr. Ac efe a anfonodd i’w cyfarfod hwynt: canys y gwŷr oedd wedi cywilyddio yn fawr. A dywedodd y brenin, Trigwch yn Jericho hyd oni thyfo eich barfau; yna dychwelwch. º

6Yna meibion Ammon a welsant ddarfod iddynt eu gwneuthur eu hunain yn gas gan Dafydd; ac anfonodd Hanun a meibion Ammon fil o dalentau arian, i gyflogi iddynt gerbydau a marchogion o Mesopotamia, ac o Syria-maacha ac o Soba. º

7A chyflogasant iddynt ddeuddeng mil ar hugain o gerbydau, a brenin Maacha a’i bobl; y rhai a ddaethant, ac a wersyllasant o flaen Medeba. A meibion Ammon hefyd a ymgasglasant o’u dinas¬oedd, ac a ddaethant i ryfel. º

8A phan glybu Dafydd, efe a anfonodd Joab, a holl lu y cedyrn. º

9A meibion Ammon a aethant allan, ac a ymfyddinasant wrth borth y ddinas: a’r brenhinoedd y rhai a ddaethai oedd o’r neilitu yn y maes. º

10A phan ganfu Joab fod wyneb y rhyfel yn ei erbyn ef ymlaen ac yn ôl, efe a etholodd o holl etholedigion Israel, ac a’u byddinodd hwynt yn erbyn y Syriaid. º

11A gweddill y bobl a roddes efe dan law Abisai ei frawd; a hwy a ymfyddinas¬ant yn erbyn meibion Ammon. º

12Ac efe a ddywedodd, Os trech fydd y Syriaid na mi, yna bydd di yn gyn-horthwy i mi: ond os meibion Ammon a fyddant drech na thi, yna mi a’th gyn-orthwyaf dithau. º

13Bydd rymus, ac ymwrolwn dros ein pobl, a thros ddinasoedd ein Duw; a gwnaed yr ARGLWYDD yr hyn fyddo da yn ei olwg ef. º

14Yna y nesaodd Joab a’r bobl oedd gydag ef, yn erbyn y Syriaid i’r rhyfel; a hwy a ffoesant o’i flaen ef. º

15A phan welodd meibion Ammon ffoi o’r Syriaid, hwythau hefyd a ffoesant o flaen Abisai ei frawd ef, ac a aethant i’r ddinas; a Joab a ddaeth i Jerwsalem. º

16A phan welodd y Syriaid eu lladd o flaen Israel, hwy a anfonasant genhadau, ac a ddygasant allan y Syriaid y rhai oedd o’r tu hwnt i’r afon; a Soffach capten llu Hadareser oedd o’u blaen hwynt. º

17A mynegwyd i Dafydd; ac efe a gasglodd holl Israel, ac a aeth dros yr Iorddonen, ac a ddaeth arnynt hwy, ac a ymfyddinodd yn eu herbyn hwynt. A phan ymfyddinodd Dafydd yn erbyn y Syriaid, hwy a ryfelasant ag ef. º

18Ond y Syriaid a ffoesant o flaen Israel; a lladdodd Dafydd o’r Syriaid saith mil o wŷr yn ymladd mewn cerbydau, a deugain mil o wŷr traed, ac a laddodd Soffach capten y llu. º

19A phan welodd gweision Hadareser eu lladd o flaen Israel, hwy a heddychasant a Dafydd, a gwasanaethasant ef: ac ni fynnai y Syriaid gynorthwyo meib* ion Ammon mwyach.

← Ail Lyfr y Cronicl 18Read In The App, Free →Ail Lyfr y Cronicl 20 →

Study Ail Lyfr y Cronicl 19

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829