Ail Lyfr y Cronicl 17
1Aphan oedd Dafydd yn trigo yn ei dŷ, Dafydd a ddywededd wrth Nathan y proffwyd, Wele fi yn trigo mewn tŷ o gedrwydd, ac arch cyfamod yr ARGLWYDD dan gortynnau. º
2Yna Nathan a ddywedodd wrth Dafydd, Gwna yr hyn oll sydd yn dy galon; canys y mae Duw gyda thi. º
3A’r noson honno y daeth gair DUW at Nathan, gan ddywedyd, º
4DOS, a dywed wrth Dafydd fy ngwas, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Nid-adeiledi di i mi dŷ i breswylio ynddo. º
5Canys ni phreswyliais i mewn tŷ e« y dydd y dygais i fyny Israel hyd y dydd hwn, ond bûm o babell i babell, ac Q dabernacl bwygilydd..; º
6Ym mha le bynnag y rhodiais gyda holl Israel, a yngenais i air wrth un o farnwyr Israel, i’r rhai y gorchmynaswn borthi fy mhobl, gan ddywedyd, Paham nad adeiladasoch i mi dŷ o gedrwydd? º
7Ac yr awr hon fel hyn y dywedi wrth Dafydd fy ngwas, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Myfi a’th gymerais di o’r gorlan, oddi ar ôl y praidd, i fod yrt dywysog ar fy mhobl Israel. º
8A bûm gyda thi, i ba le bynnag y rhodiaist, torrais ymaith hefyd dy holl elynion o’th flaen, a gwneuthum enw i ti megis enw y gwŷr mawr sydd ar y ddaear. º
9Gosodaf hefyd i’m pobl Israel le, ac a’u plannaf, a hwy a drigant yn eu lle, ac ni symudir hwynt mwyach; a meibion anwiredd ni chwanegant eu cystuddio, megis yn y cyntaf, º
10Ac er y dyddiau y gorchmynnais i farnwyr fod ar fy mhobl Israel; darostyng-af hefyd dy holl elynion di, a mynegaf i ti yr adeilada yr ARGLWYDD i ti dŷ. º
11A bydd pan gyflawner dy ddyddiau di i fyned at dy dadau, y cyfodaf dy had ar dy ôl di, yr hwn a fydd o’th feibien di, a mi a sicrhaf ei deyrnas ef. º
12Efe a adeilada i mi dŷ, a minnau a sicrhaf ei deyrngadair ef byth. º
13Myfi a fyddaf iddo ef yn dad, ac yntau fydd i mi yn fab, a’m trugaredd ni thynnaf oddi wrtho ef, megis y tynnais oddi wrth yr hwn a fu o’th flaen di. º
14Ond mi a’i gosodaf ef yn fy nhŷ, ac yn fy nheyrnas byth; a’i deyrngadair efa sicrheir byth,..!.. º
15Yn ôl yr holl eiriau hyiii,:ac yn ôl yr holl weledigaeth hon, felly y llefarodd Nathan wrth Dafydd. º
16A daeth Dafydd y brenin, ac a eisteddodd gerbron yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd, Pwy ydwyf fi, O ARGLWYDO) DDUW, a pheth yw fy nhŷ, pan ddygit fi hyd yma? º
17Eto bychan yw hyn yn dy olwg di,’ O DDUW; canys dywedaist am dŷ dy was dros hir o amser, a thi a edrychaist arnaf, O ARGLWYDD DDUW, fel ar gyflwr dyn uchelradd. º
18Pa beth a chwanega Dafydd ei ddy¬wedyd wrthyt mwyach am anrhydedd dy was? canys ti a adwaenost dy was. º
19ARGLWYDD, er mwyn dy was, ac yn ôl dy feddwl dy hun, y gwnaethost yr holl fawredd hyn, i ddangos pob mawredd. º
20Oarglwydd, nid oes neb fel tydi, ac nid oes Duw ond tydi, yn ôl yr hyn oll a glywsom a’n clustiau. º
21A pha un genedl ar y ddaear sydd megis dy bobl Israel, yr hon yr aeth Duw i’w gwaredu yn bobl iddo ei hun, i osod i ti enw mawr ac ofnadwy, gan fwrw allan genhedloedd o flaen dy bobl, y rhai a waredaist ti o’r Aifft? º
22Ti hefyd a wnaethost dy bobl Israel yn bobl i ti byth: a thi, ARGLWYDD, a aethost yn DDUW iddynt hwy.. º
23Am hynny yr awr hon, ARGLWYDD, y gair a leferaist am dy was, ac am ei dy ef, poed sicr fyddo byth: gwna fel y lleferaist. º
24A phoed sicr fyddo, fel y mawrhaer dy enw yn dragywydd, gan ddywedyd* ARGLWYDD y lluoedd, Duw Israel, sydd DDUW i Israel: a bydded tŷ Dafydd dy was yn sicr ger dy fron di. º
25Canys ti, O fy Nuw, a ddywedaist i’th was, yr adeiladit ti dy iddo ef: am hyrmy y cafodd dy was weddïo ger dy fron di. º
26Ac yr awr hon, ARGLWYDD, ti ydwyt DDUW, a thi a leferaist am dŷ dy was, y daioni hwn; º
27Yn awr gan hynny bid wiw gennyt fendigo tŷ dy was, i fod ger dy fron yn dragywydd: am i ti, O ARGLWYDD, ei fendigo, bendigedig fydd yn dragywydd.