The Bible Software
Ail Lyfr y Cronicl · Beibl (1620)

Ail Lyfr y Cronicl 18

1Adarfu wedi hyn, i Dafydd daro’r Philistiaid, a’u darostwng hwynt, a dwyn Gath a’i phentrefi o law y Philist¬iaid. º

2Hefyd efe a drawodd Moab; a’r Moabiaid a fuant weision i Dafydd, yn dwyn treth. º

3Trawodd Dafydd hefyd Hadareser brenin Soba hyd Hamath, pan oedd efe yn myned i sicrhau ei lywodraeth wrth afon Ewffrates. º

4A Dafydd a ddug oddi arno ef fil o gerbydau, a saith mil o wŷr meirch, ac ugain mil o wŷr traed; a thorrodd Dafydd linynnau gar meirch yr holl gerbydau, ond efe a adawodd ohonynt gan cerbyd. º

5A phan ddaeth y Syriaid o Damascus i gynorthwyo Hadareser brenin Soba, Dafydd a laddodd o’r Syriaid ddwy fil ar hugain o wŷr. º

6A gosododd Dafydd amddiffynfeydd yn Syria Damascus: a bu y Syriaid yn weision i Dafydd, yn dwyn treth. A’r ARGLWYDD a waredodd Dafydd i ba le bynnag yr aeth. º

7A Dafydd a gymerodd y tarianau aur oedd gan weision Hadareser, ac a’u dug hwynt i Jerwsalem. º

8Dug Dafydd hefyd o Tibhath, ac o Chun, dinasoedd Hadareser, lawer iawn o bres, a’r hwn y gwnaeth Solomon y môr pres, a’r colofnau, a’r llestri pres. º

9A phan glybu Tou brenin Hamath daro o Dafydd holl lu Hadareser brenin Soba; º

10Efe a anfonodd at y brenin Dafydd Hadoram ei fab, a phob llestri aur, ac arian a phres, gydag ef, i ymofyn am ei iechyd ef, ac i’w fendithio ef, am iddo ryfela yn erbyn Hadareser, a’i daro ef: canys rhyfela yr oedd Hadareser yn erbyn Tou. º

11Y rhai hynny hefyd a gysegrodd y brenin Dafydd i’r ARGLWYDD, gyda’r arian a’r aur a ddygasai efe oddi ar yr holl genhedloedd, sef oddi ar Edom, ac oddi ar Moab, ac oddi ar feibion Ammon, ac oddi ar y Philistiaid, ac oddi ar Amalec. º

12Ac Abisai mab Setfia a laddodd o Edom, yn nyffryn yr halen, dair mil ar bymtheg. º

13Ac efe a osododd amddiffynfeydd yn Edom; a’r holl Edomiaid a fuant weision i Dafydd. A’r ARGLWYDD a gadwodd Dafydd i ba le bynnag yr aeth efe. º

14A Dafydd a deyrnasodd ar holl Israel, ac yr oedd efe yn gwneuthur barn a chyfiawnder i’w holl bobl. º

15A Joab mab Serfia oedd ar y llu; a Jehosaffat mab Ahilud yn gofiadur; º

16A Sadoc mab Ahitub, ac Abi-melech mab Abiathar, oedd offeiriaid; a Safsa yn ysgrifennydd; º

17Benaia hefyd mab Jehoiada oedd ar y Cerethiaid a’r Felethiaid; a meibion Dafydd oedd y rhai pennaf wrth law y brenin.

← Ail Lyfr y Cronicl 17Read In The App, Free →Ail Lyfr y Cronicl 19 →

Study Ail Lyfr y Cronicl 18

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829