The Bible Software
Ail Lyfr y Cronicl · Beibl (1620)

Ail Lyfr y Cronicl 22

1Adywedodd Dafydd, Hwn yw*iJL tŷ yr ARGLWYDD DDUW, a dyma allor y poethoffrwm i Israel. º

2Dywedodd Dafydd hefyd am gasglu.y dieithriaid oedd yn nhir Israel; ac efe*a osododd seiri meini i naddu cerrig; *nadd, i adeiladu tŷ DDUW. º

3A pharat6dd Dafydd haearn yn helaeth, tuag at hoelion drysau y pyrthj. ac i’r cysylltiadau, a phres mor helaethag nad oedd arno bwys; º

4Coed cedr hefyd allan o rif: canys y Sidoniaid a’r Tyriaid a ddygent gedrwydd lawer i Dafydd. º

5A dywedodd Dafydd, Solomon fy mab sydd ieuanc a thyner, a’r tŷ a adeiledir i’r ARGLWYDD, rhaid iddo fod mewn mawredd, mewn rhagoriaeth, mewn enw, ac mewn gogoniant, trwy yr holl wiedydd: paratoaf yn awr tuag ato ef. Felly y paratodd Dafydd yn helaeth cyn ei farwolaeth. º

6Ac efe a alwodd ar Solomon ei fab, ac a orchmynnodd iddo adeiladu tŷ i ARGLWYDD DDUW Israel. º

7Dywedodd Dafydd hefyd wrth Solo¬mon, Fy mab, yr oedd yn fy mryd i adeiladu tŷ i enw yr ARGLWYDD fy Nuw. º

8Eithr gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf fi, gan ddywedyd, Gwaed lawer a dywelltaist ti, a rhyfeloedd mawrion a wnaethost ti: nid adeiledi di dy i’m henw i, eanys gwaed lawer a dywelltaist ar y ddaear yn fy ngŵydd i. º

9Wele, mab a enir i ti, efe a fydd ŵr Bbnydd, a mi a roddaf lonyddwch iddo ef gan ei holl elynion o amgylch: canys Solomon fydd ei enw ef, heddwch hefyd a thangnefedd a roddaf i Israel yn ei fldyddiau ef. º

10Efe a adeilada dy i’m hcnw, ac efe a fydd i mi yn fab, a minnau yn dad iddo yntau: sicrhaf hefyd orseddfa ei frenhiniaeth ef ar Israel byth.! º

11Yn awr fy mab, yr ARGLWYDD fyddo. xxx gyda thi, a ffynna dithau, gc adeilada dŷ yr ARGLWYDD dy DDUW, megis ag y llefarodd efe amdanat ti. º

12Yn unig rhodded yr ARGLWYDD i ti ddoethineb, a deall, a rhodded i ti orch-inynion am Israel, fel y cadwech gyfraith yr ARGLWYDD dy DDUW. º

13Yna y flynni, os gwyli ar wneuthur y deddfau a’r barnedigaethau a orchmynnodd yr ARGLWYDD i Moses am Israel* ymgryfha, ac ymwrola; nac ofna, ac nac arswyda. º

14Ac wele, yn fy nhlodi y paratoais i dŷ yr ARGLWYDD gan mil o dalentau aur, a mil o filoedd o dalentau arian; ar bres hefyd, ac ar haearn, nid oes bwys; canys y mae yn helaeth: coed hefyd a meini a baratoais i, ychwanega dithau atynt hwy. º

15Hefyd y mae yn aml gyda thi weithwyr gwaith, sef cymynwyr, a seiri maen a phren, a phob rhai celfydd ym mhob gwaith. º

16Ar aur, ar arian, ar bres, ac ar haearn, nid oes rifedi. Cyfod dithau, a gweithia, a’r ARGLWYDD a fydd gyda thi. º

17A Dafydd a orchmynnodd i holl dywysogion Israel gynorthwyo Solomon ei fab, gan ddywedyd, º

18Onid yw yr ARGLWYDD eich Duw gyda chwi? ac oni roddes efe lonyddwch i chwi oddi amgylch? canys rhoddes yn fy llaw i drigolion y tir; a’r tir a ddaros-tyngwyd o flaen yr ARGLWYDD, ac o flaen ei bobl ef. º

19Yn awr rhoddwch eich calon a’ch.enaid i geisio yr ARGLWYDD eich Duw; lyfodwch hefyd, ac adeiledwch gysegr yr ARGLWYDD DDUW, i ddwyn arch cyfamod yr ARGLWYDD, a sanctaidd lestri Duw, i’r tŷ a adeiledir i enw yr AR¬GLWYDD.

← Ail Lyfr y Cronicl 21Read In The App, Free →Ail Lyfr y Cronicl 23 →

Study Ail Lyfr y Cronicl 22

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829