Ail Lyfr y Cronicl 13
1Adafydd a ymgynghorodd â chap¬teiniaid y miloedd a’r cannoedd, ac a’r holl dywysogion. º
2A Dafydd a ddywedodd wrth holl gynulleidfa Israel, Os da gennych chwi, a hod hyn o’r ARGLWYDD ein Duw, dantonwn ar led at ein brodyr y rhai a weddillwyd trwy holl diroedd Israel, a chyda hwynt at yr offeiriaid a’r Lefiaid o fewn eu dinasoedd a’u meysydd pen-trefol, i’w cynnull hwynt atom ni. º
3A dygwn drachefn arch ein DRW atom ni; canys nid ymofynasom a hi yn nyddiau Saul. º
4A’r holl dyrfa a ddywedasant am wneuthur felly: canys uniawn oedd y peth yng ngolwg yr holl bobl. º
5Felly y casglodd Dafydd holl Israel ynghyd, o Sihor yr Aifft, hyd y ffordd-y delir i Hamath, i ddwyn arch Duw o Ciriathj earim. º
6A Dafydd a aeth i fyny, a holl Israel i Baala, sef Ciriath-jearim, yr hon sydd yn Jwda, i ddwyn oddi yno arch yr AR¬GLWYDD DDUW, yr hwn sydd yn pres-wylio rhwng y ceriwbiaid, ar yr hon y gelwir ei enw ef.. º
7A hwy a ddygasant arch Duw ar fea newydd o dŷ Abinadab: ac Ussa ac Ahi’o oedd yn gyrru y fen. º
8A Dafydd a holl Israel oedd yn chwarae gerbron Duw, a’u holl nertha ac a chaniadau, ac a thelynau, ac a nablau, ac a thympanau, ac a symbalau, ac ag utgyrn. º
9A phan ddaethant hyd lawr dyrnu Cidon, Ussa a estynnodd ei law i ddala yr arch, canys yr ychen oedd yn ei hy-gwyd hi. º
10Ac enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Ussa, ac efe a’i lladdodd ef, oblegid iddo estyn ei law at yr arch; ac yno y bu efe farw gerbron Duw.: º
11A bu ddrwg gan Dafydd am i’y ARGLWYDD rwygo rhwygiad yn Ussa; ac efe a alwodd y lle hwnnw Peresussa, hyd y dydd hwn.;. º
12A Dafydd a ofnodd DDUW y dydd hwnnw, gan ddywedyd. Pa fodd y dygaf arch Duw i mewn ataf fi? º
13Ac ni ddug Dafydd yr arch ato ei hun i ddinas Dafydd, ond efe a’i dudodd hi i dŷ Obededom y Gethiad. º
14Ac arch Duw a arhosodd gyda theulu Obededom, yn ei dy ef, dri mis, A’r ARGLWYDD a fendithiodd dy Obededom, a’r hyn oll ydoedd eiddo.