The Bible Software
Ail Lyfr y Cronicl · Beibl (1620)

Ail Lyfr y Cronicl 16

1FELLY y dygasant hwy arch Duw i mewn, ac a’i gosodasant hi yng nghanol y babell a osodasai Dafydd iddi hi: a hwy a offrymasant offrymau poeth ac ebyrth hedd gerbron Duw. º

2Ac wedi i Dafydd orffen aberthu offrymau poeth ac ebyrth hedd; efe a fendithiodd y bobl yn enw yr ARGLWYDD. º

3Ac efe a rannodd i bob un o Israel, yn ŵr ac yn wraig, dorth o fara, a dryll o gig, a chosttelaid o win. º

4Ac efe a osododd gerbron arch yr ARGLWYDD weimdogion o’r Lefiaid; i gofio, ac i foliannu, ac i glodfori AR¬GLWYDD DDUW Israel. º

5Asaff oedd bennaf, ac yn ail iddo ef Sechareia, Jeiel, a Semiramoth, a Jehiel, a Matitheia, ac Eliab, a Benaia, ac Obededom: a Jeiel ag offer nablau, a thelynau; ac Asaff oedd yn lleisio a symbalau. º

6Benaia hefyd a Jahasiel yr offeiriaid oedd ag utgyrn yn wastadol o flaen arch cyfamod Duw. º

7Yna y dydd hwnnw y rhoddes Dafydd y salm hon yn gyntaf i foliannu yr ARGLWYDD, yn llaw Asaff a’i frodyr. º

8Moliennwch yr ARGLWYDD, gerwch ar ei enw ef, hysbyswch ei weithredoedd ef ymhlith y bobloedd. º

9Cehwch iddo, clodforwch ef, ymadroddwch am ei holl ryfeddodau.. º

10Ymlawenychwch yn ei enw sanct-aidd ef; ymhyfryded calon y sawl a geisiant yr ARGLWYDD. º

11Ceiswch yr ARGLWYDD a’i nerth ef, ceisiwch ei wyneb ef yn wastadol. º

12Cofiwch ei wyrthiau y rhai a wnaet& efe, ei ryfeddodau, a barnedigaethau ei enau; º

13Chwi had Israel ei was ef, chwi feibion Jacob ei etholedigion ef. º

14Efe yw yr ARGLWYDD ein Duw ni, farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear. º

15Cofiwch yn dragywydd ei gyfamod; y gair a orchmynnodd efe i fit ogenedlaethau; º

16Yr hwn a gyfamododd efe ag Abraham, a’i lw i Isaac: º

17Ac a osododd efe yn ddeddf ‘i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol - i Israel, º

18Gan ddywedyd, I ti y rhoddaf <dir Canaan, rhandir eich etifeddiaeth. "

19Pan nad oeddech ond ychydig, ie, ychydig, a dieithriaid ynddi; ‘ º

20A phan rodient o genhedlaeth -i genhedlaeth, ac o un frenhiniaeth at batil ‘eraill;

21Ni adawodd efe i neb eu gorthrymui ond efe a geryddodd frenhinoedd o’u plegid hwy, gan ddywedyd,: º

22Na chyffyrddwch a’m heneiniog, ac na ddrygwch fy mhroffwydi. º

23Cenwch i’r ARGLWYDD yr holl ddaear: mynegwch o ddydd i ddydd eii iachawdwriaeth ef. º

24Adroddwch ei ogoniant ef ymhlith y cenhedloedd; a’i wyrthiau ymhlith yr holl bobloedd. - º

25Canys mawr yw yr ARGLWYDD, a chanmoladwy iawn: ofnadwy hefyd yw efe goruwch yr holl dduwiau. º

26Oherwydd holl dduwiau y bot)-toedd ydynt eilunod; ond yr ARGLWYB 6 a wnaeth y nefoedd. º

27Gogoniant a harddwch sydd ger ei fron ef: nerth a gorfoledd yn ei fangre ef. º

28Moeswch i’r ARGLWYDD, chwi deu- luoedd y ‘bobloedd, moeswch i’r ARGLWYDD ogoniant a nerth., º

29Moeswch i’r ARGLWYDD ogoniant ei enw: dygwch aberth, a deuwch gerei fron ef; ymgrymwch i’r ARGLWYDD mewn prydferthwch sancteiddrwydd. " º

30Ofnwch rhagddo ef yr holl ddaear: y fcyd hefyd a sicrheir, fel na syflo. º

31Ymlawenyched y nefoedd, ac ymfay*. fryded y ddaear, a dywedant ymhlith y cenhedloedd, Yr ARGLWYDD sydd yn teyrnasu. º

32Rhued y môr a’i gyflawnder; llawen-fcaed y maes, a’r hyn oll y sydd ynddo. º

33Yna prennau y coed a ganant o jBaen yr ARGLWYDD, am ei fod yn dyfod i Marnu y ddaear. º

34Clodforwch yr ARGLWYDD;. canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd. º

35A dywedwch, Achub ni, O DDUW ein hiachawdwriaeth, casgl ni hefyd, a gwared ni oddi wrth y cenhedloedd, i feliannu dy enw sanctaidd di, ac i ymo-goneddu yn dy foliant. º

36Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. A dywedodd yr holl bobl, Amen, gan foliannu yr ARGLWYDD. º

37Ac efe a adawodd yno, o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD, Asaff a’i frodyr, i weini gerbron yr arch yn wastadol, gwaith dydd yn ei ddydd: º

38Ac Obededom a’u brodyr, wyth a thrigain; Obededom hefyd mab Jedu-thun, a Hosa, i fod yn borthorion: º

39Sadoc yr offeiriad, a’i frodyr yr offeiriaid, o flaen tabernad yr AR¬GLWYDD, yn yr uchelfa oedd yn Gib’eon, º

40I offrymu poethoffrymau i’r AR¬GLWYDD ar allor y poethoffrwm yn was¬tadol fore a hwyr, yu ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig yng nghyfraith yr ARGLWYDD, yr hon a orchmynnodd efe i Israel: º

41A chyda hwynt Heman, a Jedwthwn, a’r etholedigion eraill, y rhai a hysbysasid wrth eu henwau, i foliannu yr ARGLWYDD, am fod ei drugaredd ef yn dragywydd: º

42A chyda hwynt Heman, a Jedwthwn, r yn lleisio ag utgyrn, ac a symbalau i’r cerddorion, ac offer cerdd Duw: a meibion Jedwthwn oedd wrth y porth. º

43A’r holl bobl a aethant bob un i’w dŷ ei hun: a Dafydd a ddychwelodd i fendigo ei dy yntau.

← Ail Lyfr y Cronicl 15Read In The App, Free →Ail Lyfr y Cronicl 17 →

Study Ail Lyfr y Cronicl 16

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829