Ail Lyfr Samuel 10
1YNA Samuel a gymerodd ffiolaid o olew, ac a’i tywalltodd ar ei ben ef, ac a’i cusanodd ef; ac a ddywedodd, Onid yr ARGLWYDD a’th eneiniodd di yn flaenor ar ei etifeddiaeth? º
2Pan elych di heddiw oddi wrthyf, yna y cei ddau ŵr wrth fedd Rahel, yn nherfyn Benjamin, yn Selsa: a hwy a ddywedant wrthyt, Cafwyd yr asynnod yr aethost i’w ceisio: ac wele, dy dad a ollyngodd heibio chwedl yr asynnod, a gofalu y mae amdanoch chwi, gan ddy¬wedyd, Beth a wnaf am fy mab? º
3Yna yr ei di ymhellach oddi yno, ac y deui hyd wastadedd Tabor: ac yno y’th gyferfydd tri wŷr yn myned i fyny at DDUW i Bethel; un yn dwyn tri o fynnod, ac un yn dwyn tair torth o fara, ac un yn dwyn costrelaid o win. º
4A hwy a gyfarchant well i ti, ac a roddant i ti ddwy dorth o fara; y rhai a gymeri o’u llaw hwynt. º
5Ar ôl hynny y deui i fryn Duw, yn yr hwn y mae sefyllfa y Philistiaid: a phan ddelych yno i’r ddinas, ti a gyfarfyddi a thyrfa o broffwydi yn disgyn o’r uchelfa, ac o’u blaen hwynt nabi, a thympan, a phibell, a thelyn; a hwythau yn proffwydo. º
6Ac ysbryd yr ARGLWYDD a ddaw arnat ti; a thi a broffwydi gyda hwynt, ac a droir yn ŵr arall. º
7A phan ddelo yr argoelion hyn i ti, gwna fel y byddo yr achos: canys Duw sydd gyda thi.." º
8A dos i waered o’m blaen i Gilgal: ac wele, mi a ddeuaf i waered atat ti, i offrymu oifrymau poeth, ac i aberthu ebyrth hedd: aros amdanaf saith niwmod, hyd oni ddelwyf atat, a mi a hysbysaf i ti yr hyn a wnelych. º
9A phan drodd efe ei gefn i fyned oddi wrth Samuel, Duw a roddodd iddo galon arall: a’r holl argoelion hynny a ddaethant y dydd hwnnw i ben. º
10A phan ddaethant yno i’r bryn, wele fintai o broffwydi yn ei gyfarfbd ef: ac ysbryd Duw a ddaeth arno yntau, ac efe a broffwydodd yn eu mysg hwynt. º
11A phawb a’r a’i hadwaenai ef o’r blaen a edrychasant; ac wele efe gyda’r proffwydi yn proffwydo. Yna y bobl a ddywedasant bawb wrth ei gilydd, Beth yw hyn a ddaeth i fab Cis? A ydyw Saul hefyd ymysg y proffwydi? º
12Ac un oddi yno a atebodd, ac a ddywedodd, Eto pwy yw eu tad hwy? Am hynny yr aeth yn ddihareb, A ydyw’ Saul hefyd ymysg y proffwydi? º
13Ac wedi darfod iddo broffwydo, efe a ddaeth i’r uchelfa. º
14Ac ewythr Saul a ddywedodd wrtho ef, ac wrth ei lane ef, I ba le yr aethoch? Ac efe a ddywedodd, I geisio’r asymiod: a phan welsom nas ceid, ni a ddaethom at Samuel. º
15Ac ewythr Saul a ddywedodd, Mynega, atolwg, i mi, beth a ddywedodd Samuel wrthych chwi. º
16A Saul a ddywedodd wrth ei ewythr, Gan fynegi mynegodd i ni fod yr asynnod wedi eu cael. Ond am chwedl y frenhiniaeth, yr hwn a ddywedasai Samuel, nid ynganodd efe wrtho. º
17A Samuel a alwodd y bobl ynghyd at yr ARGLWYDD i Mispa; º
18Ac a ddywedodd wrth feibion Israel, Fel hyn y dywedodd ARGLWYDD DDUW Israel; Myfi a ddygais i fyny Israel o’r Ain’t, ac a’ch gwaredais chwi o law yr Eifftiaid, ac o law yr holl deyrnasoedd, a’r rhai a’ch gorthryment chwi. º
19A chwi heddiw a wrthodasoch eich Duw, yr hwn sydd yn eich gwared chwi oddi wrth eich holl ddrygfyd, a’ch helbul; ac a ddywedasoch wrtho ef, Nid felly; eithr gosod arnom ni frenin. Am hynny sefwch yr awr hon gerbron yr ARGLWYDD wrth eich llwythau, ac wrth eich miloedd. º
20A Samuel a barodd i holl lwythau Israel nesau: a daliwyd llwyth Benjamin. º
21Ac wedi iddo beri i lwyth Benjamin nesau yn ôl eu teuluoedd, daliwyd teulu Matri; a Saul mab Cis a ddaliwyd: a phan geisiasant ef, nis ceid ef. º
22Am hynny y gofynasant eto i’r ARGLWYDD, a ddeuai y gŵr yno eto. A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Wele efe yn ymguddio ymhiith y dodrefn. º
23A hwy a redasant, ac a’i cyrchasant ef oddi yno. A phan safodd yng nghanol y bobl, yr oedd efe o’i ysgwydd i fyny yn uwch na’r holl bobl. º
24A dywedodd Samuel wrth yr holl bobl. A welwch chwi yr hwn a ddewisodd yr ARGLWYDD, nad oes neb tebyg iddo ymysg yr holl bobl? A’r holl bobl a floeddiasant, ac a ddywedasant, Byw fyddo’r brenin º
25Yna Samuel a draethodd gyfraith y deyrnas wrth y bobl, ac a’i hysgrifennodd mewn llyfr, ac a’i gosododd gerbron yr ARGLWYDD. A Samuel a ollyngodd ymaith yr holl bobl, bob un i’w dŷ. º
26A Saul hefyd a aeth i’w dy ei hun i Gibea; a byddin o’r rhai y cyffyrddasai Duw a’u calon, a aeth gydag ef. º
27Ond meibion Belial a ddywedasant, Pa fodd y gwared hwn ni? A hwy a’i dirmygasant ef, ac ni ddygasant anrheg iddo ef. Eithr ni chymerodd efe arno glywed hyn.