The Bible Software
Ail Lyfr Samuel · Beibl (1620)

Ail Lyfr Samuel 27

1lioll derfynau Israel. Felly y dihangaf i’i l.iw ef. º

2A Dafydd a gyfododd, ac a dramwyoild, efe a’r chwe channwr oedd gydag ef, lit Ailiis mab Maoch, brenin Gath. º

3A D.ifydd a arhosodd gydag Achis yn G.iili, etc u’l wŷr, pob un gyda’i deulu; Datydd a’i ddwy wraig, Ahinoam y Jesreeles, ac Abigail gwraig NabaT, y Garmeles. º

4A mynegwyd i Saul, ffoi o Dafydd i Gath: ac ni chwanegodd efe ei geisio ef mwy. º

5A Dafydd a ddywedodd wrth Achis, O chefais yn awr ffafr yn dy olwg di, rhodder i mi le yn un o’r maestrcfi, fel y trigwyf yno: canys paham yr erys dy was di yn ninas y brenin gyda thi? º

6Yna Achis a roddodd iddo ef y dydd hwnnw Siclag; am hynny y mae Siclag yn eiddo brenhinoedd Jwda hyd y dydd hwn. º

7A rhifedi y dyddiau yr arhosodd Dafydd yng ngwlad y Philistiaid, oedd flwyddyn a phedwar mis. º

8A Dafydd a’i wŷr a aethant i fyny, ac a ruthrasant ar y Gesuriaid, a’r Gesriaid, a’r Amaleciaid: canys hwynt-hwy gynt oedd yn preswylio yn y wlad, ffordd yr elych i Sur, ie, hyd wlad yr Ain’t. º

9A Dafydd a drawodd y wlad; ac ni adawodd yn fyw ŵr na gwraig; ac a ddug y defaid, a’r gwartheg, a’r asynnod, a’r camelod, a’r gwisgoedd, ac a ddychwel¬odd ac a ddaeth at Achis. º

10Ac Achis a ddywedodd, I ba le y rhuthrasoch chwi heddiw? A dywedodd Dafydd, Yn erbyn tu deau Jwda, ac yn erbyn tu deau y Jerahmeeliaid, ac yn erbyn tu deau y Ceneaid. º

11Ac ni adawsai Dafydd yn fyw ŵr na gwraig, i ddwyn chwedlau i Gath; gan ddywedyd, Rhag mynegi ohonynt i’n herbyn, gan ddywedyd, Fel hyn y gwnaeth Dafydd, ac felly y bydd ei arfer ef yr holl ddyddiau yr arhoso efe yng ngwlad y Philistiaid. º

12Ac Achis a gredodd Dafydd, gan ddywedyd, Efe a’i gwnaeth ei hun yn ffiaidd gan ei bobl ei hun Israel; am hynny y bydd efe yn was i mi yn dragywydd.

← Ail Lyfr Samuel 26Read In The App, Free →Ail Lyfr Samuel 28 →

Study Ail Lyfr Samuel 27

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031