Ail Lyfr Samuel 25
1Abu farw Samuel; a holl Israel a ymgynullasant, ac a alarasant am¬dano ef, ac a’i claddasant ef yn ei dy yn Rama. A Dafydd a gyfododd, ac a aeth i waered i anialwch Paran. º
2Ac yr oedd gŵr ym Maon, a’i gyfoeth yn Carmel; a’r gŵr oedd fawr iawn, ac iddo ef yr oedditair mil o ddefaid, a mil o eifr: ac yr oedd efe yn cneifio ei ddefaid yn Carmel.: º
3Ac enw y gŵr oedd Nabal; ac.enw ei wraig Abigail: a"r, wraig oedd yn dda ei deall, ac yn deg d gwedd: a’r gŵr oedd galed, a drwg ei weithredoedd; a Chalebiad oedd efe. º
4A chlybu Dafydd yn yr aniahaeh, fod Nabal yn cneifio ei ddefaid. º
5A Dafydd a anfonodd ddeg o lanciau; a Dafydd a ddywedodd wrth y llanciau, Cerddwch i fyny i Carmel, ac ewch at Nabal, a chyferchwch well iddo yn fy enw i. º
6Dywedwch fel hyn hefyd wrtho ef sydd yn byw mewn llwyddiant, Caffech di heddwch, a’th dy heddwch, a’r hyn oll sydd eiddot ti heddwch. º
7Ac yn awr clywais fod rhai yn cneifio i ti: yn awr y bugeiliaid sydd gennyt a fuant gyda ni, ni wnaethom sarhad arnynt hwy, ac ni bu ddim yn eisiau iddynt, yr holl ddyddiau y buant hwy yn Carmel. º
8Gofyn i’th lanciau, a hwy a fynegant i ti: gan hynny caed y llanciau hyn ffafr yn dy olwg di; canys ar ddiwrnod da y daethom ni; dyro, atolwg, yr hyn a ddelo i’th law, i’th weision, ac i’th fab Dafydd. º
9Ac wedi dyfod llanciau Dafydd, hwy a ddywedasant wrth Nabal yn ôl yr holl eiriau hynny yn enw Dafydd, ac a dawsant. º
10A Nabal a atebodd weision Da¬fydd, ac a ddywedodd, Pwy yw Dafydd? a phwy yw mab Jesse? llawer sydd o weision heddiw yn torn ymaith bob un oddi wrth ei feistr. º
11A gymeraf fi fy mara a’m dwfr,;a’m cig a leddais i’m cneifwyr, a’u rhoddi i wŷr nis gwn o ba le y maent? º
12Felly llanciau Dafydd a droesant i’w ffordd, ac a ddychwelasant, ac a ddaethant, ac a fynegasant iddo ef yr hoB eiriau hynny. ‘.’: º
13A Dafydd a ddywedodd wrth ei wŷr, Gwregyswch bob un ei gleddyf. Ac ymwregysodd pob un ei gledd yf: ymwregysodd Dafydd hefyd ei gleddyf: ac ynghylch pedwar cant o wŷr a aeth i fyny ar ôl Dafydd, a dau gant a drigasant gyda’r dodrefn. º
14I Ac un o’r llanciau a fynegodd i Abigail gwraig Nabal, gan ddywedyd,.Wele, Dafydd a anfonodd genhadau a’r anialwch i gyfarch gwell i’n meistr ni, ond efe a’u difenwodd hwynt. º
15A’r gwŷr fu dda iawn wrthym ni; ac ni wnaed sarhad arnom ni, ac ni bu i ni ddim yn eisiau yr holl ddyddiau y rhodiasom gyda hwynt, pan oeddem yn y maes. º
16Mur oeddynt hwy i ni nos a dydd, yr holl ddyddiau y buom gyda hwynt yn cadw y defaid. º
17Yn awr gan hynny gwybydd, ac ystyria beth a wnelych: canys paratowyd drwg yn erbyn ein meistr ni, ac yn erbyn ei holl dy ef: canys efe sydd fab i Belial, fel na ellir ymddiddan ag ef. º
18Yna Abigail a frysiodd, ac a gymerth ddau cant o fara, a dwy gostrelaid o win, a phump o ddefaid wedi eu gwneuthur yn barod, a phum hobaid o gras ŷd, a chan swp o resin, a dau can teisen o ffigys, ac a’u gosododd ar asynnod. º
19A hi a ddywedodd wrth ei gweision, Cerddwch o’m blaen i; wele fi yn dyfod ar eich ôl: ond wrth Nabal ei gŵr nid ynganodd hi. º
20Ac a hi yn marchogaeth ar asyn, ac yn dyfod i waered ar hyd ystlys y mynydd; yna, wele Dafydd a’i wŷr yn dyfod i waered i’w herbyn; a hi a gyfarfu a hwynt. º
21A dywedasai Dafydd, Diau gadw ohonof fi yn ofer yr hyn oll oedd gan hwn yn yr anialwch, fel na bu dim yn eisiau o’r hyn oll oedd ganddo ef: canys efe a dalodd i mi ddrwg dros dda. º
22Felly y gwnelo Duw i elynion Dafydd, ac ychwaneg, os gadawaf o’r hyn oll sydd ganddo ef, erbyn goleuni y bore, un gwryw. º
23A phan welodd Abigail Dafydd, hi a frysiodd ac a ddisgynnodd oddi ar yr asyn, ac a syrthiodd gerbron Dafydd ar ei hwyneb, ac a ymgrymodd hyd lawr, º
24Ac a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a ddywedodd, Arnaf fi, fy arglwydd, arnaf fi bydded yr anwiredd, a llefared dy wasanaethferch, atolwg, wrthyt, a gwrando eiriau dy lawforwyn. º
25Atolwg, na osoded fy arglwydd ei galon yn erbyn y gŵr Belial hwn, sef Nbal: canys fel y mae ei enw ef, felly y mae yntau; Nabal yw ei enw ef, ac ynfydrwydd sydd gydag ef: a minnau dy wasanaethferch, ni welais weision fy arglwydd, y rhai a anfonaist. º
26Ac yn awr, fy arglwydd, fel y mae yr ARGLWYDD yn fyw, ac mai byw dy enaid di, gan i’r ARGLWYDD dy luddias di rhag dyfod i dywallt gwaed, ac i ymddial â’th law dy hun; yn awr bydded dy elynion di, a’r sawl a geisiant niwed i’m harglwydd, megis Nabal. º
27Ac yn awr yr anrheg yma, yr hon a ddug dy wasanaethferch i’m harglwydd, rhodder hi i’r llanciau sydd yn canlyn fy arglwydd. º
28A maddau, atolwg, gamwedd dy wasanaethferch: canys yr ARGLWYDD gan wneuthur a wna i’m harglwydd dŷ sicr; oherwydd fy arglwydd sydd yn ymladd rhyfeloedd yr ARGLWYDD, a drygioni ni chafwyd ynot ti yn dy holl ddyddiau. º
29Er cyfodi o ddyn i’th erlid di, ac i geisio dy enaid; eto enaid fy arglwydd a fydd wedi ei rwymo yn rhwymyn y bywyd gyda’r ARGLWYDD dy DDUW; ac enaid dy elynion a chwyrn deifl efe, fel o ganol ceudeb y ffon dafl. º
30A phan wnelo yr ARGLWYDD i’m harglwydd yn ôl yr hyn oll a lefarodd efe o ddaioni amdanat, a phan y’th osodo di yn llaenor ar Israel; º
31Yna ni bydd hyn yn ochenaid i ti, nac yn dramgwydd calon i’m harglwydd, ddarfod i ti dywallt gwaed heb achos, nefl ddial o’m harglwydd ef ei hun: ond pan wnelo Duw ddaioni i’m harglwydd, yna cofia di dy lawforwyn. º
32iA dywedodd Dafydd wrth Abigail, Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel, yr hwn a’th anfonodd di y dydd hwn i’m cyfarfod i: º
33Bendigedig hefyd fo dy gyngor, a bendiegedig fyddych dithau yr hon a’m lluddiaist y dydd hwn rhag dyfod i dywallt gwaed, ac i ymddial â’m llaw fy hun. º
34Canys yn wir, fel y mae ARGLWYDD DDUW Israel yn fyw, yr hwn a’m hataliodd i rhag dy ddrygu di, oni buasai i ti frysio a dyfod i’m cyfarfod, diau na adawsid i Nabal, erbyn goleuni y bore, un a bisai ar bared. º
35Yna y cymerodd Dafydd o’i llaw hi yr hyn a ddygasai hi iddo ef; ac a ddy¬wedodd wrthi Aii, DOS i fyny mewn heddwch i’th dy: gwêl, mi a wrandewais ar dy lais, ac a dderbyniais dy wyneb. º
36Ac Abigail a ddaeth at Nabal; ac wele, yr oedd gwledd ganddo ef yn ei dŷ, fel gwledd brenin: a chalon Nabal oedd lawen ynddo ef; canys meddw iawn oedd fife: am hynny nid ynganodd hi wrtho ef air, na bychan na mawr, nes goleuo y bore. º
37A’r bore pan aeth ei feddwdod allan o Nabal, mynegodd ei wraig iddo ef y geiriau hynny; a’i galon ef a fu farw o’i fewn, ac efe a aeth fel carreg. º
38Ac ynghylch pen y deng niwmod y ttawodd yr ARGLWYDD Nabal, fel y bu efe farw. º
39A phan glybu Dafydd farw Nabal, efe a ddywedodd, Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD, yr hwn a ddadleuodd achos fy sarhad i oddi ar law Nabal, ac a ataliodd ei was rhag drwg: canys yr ARGLWYDD a drodd ddrygioni Nabal ar ei ben ei hun. Dafydd hefyd a anfonodd i ymddiddan ag Abigail, am ei chymryd hi yn wraig iddo. º
40A phan ddaeth gweision Dafydd at Abigail i Carmel, hwy a lefarasant wrthi, gan ddywedyd, Dafydd a’n hanfonodd ni atat ti, i’th gymryd di yn wraig iddo. º
41A hi a gyfododd, ac a ymgrymodd ar ei hwyneb hyd lawr; ac a ddywedodd, Wele dy forwyn yn wasanaethferch i olchi traed gweision fy arglwydd. º
42Abigail hefyd a frysiodd, ac a gyfododd, ac a farchogodd ar asyn, a phump o’i llancesau yn ei chanlyn: a hi a aeth ar ôl cenhadau Dafydd, ac a aeth yn wraig iddo ef. º
43A Dafydd a gymerth Ahinoam o Jesreel; a hwy a fuant ill dwyoedd yn wragedd iddo ef. º
44A Saul a roddasai Michal ei ferch, gwraig Dafydd, i Phalli mab Lais, o Alim.