Ail Lyfr Samuel 15
1Asamuel a ddywedodd wrth Saul, Yr ARGLWYDD a’m hanfonodd i i’th eneinio di yn frenin ar ei bobl, sef ar Israel: ac yn awr gwrando ar lais geiriau yr ARGLWYDD. º
2Fel hyn y dywedodd ARGLWYDD y lluoedd; Cofiais yr hyn a wnaeth Amalec i Israel, y modd y gosododd efe i’w erbyn ar y ffordd, pan ddaeth efe i fyny e’r Aifft. º
3DOS yn awr, a tharo Amalec, a dinistria yr hyn oll sydd ganddo, ac nac eiriach ef; ond lladd hwynt, yn ŵr ac yn wraig, yn ddyn bach ac yn blentyn sugno, yn ych ac yn oen, yn gamel ac yn asyn. º
4A Saul a gynullodd y bobl, ac a’u cyfrifodd hwynt yn Telaim, dau can mil o wŷr traed, a deng mil o wŷr Jwda. º
5A Saul a ddaeth hyd ddinas i Amalec, ac a gynllwynodd yn y dyffryn. º 11 Dywedodd Saul hefyd wrth y Ceneaid, Cerddwch, ciliwch, ewch i waered o fysg yr Amaleciaid; rhag i mi rich distrywio chwi gyda hwynt: herwydd ti a wnaethost drugaredd a holl feibion Israel, pan ddaethant i fyny o’r Ain’t. A’r Ceneaid a ymadawsant o fysg yr Amaleciaid. º
7A Saul a drawodd yr Amaleciaid o Hafila, ffordd y delych di i Sur, yr h6n sydd ar gyfer yr Aifft. º
8Ac a ddaliodd Agag brenin yr Amaleciaid yn fyw, ac a laddodd yr holl bobl â min y cleddyf. º
9Ond Saul a’r bobl a arbedasant Agag, a’r gorau o’r defaid, a’r ychen, a’r brasaf o’r wyn, a’r hyn oll ydoedd dda, ac ni ddistrywient hwynt: a phob peth gwael a salw, hwnnw a ddifrodasant hwy. º
10Yna y bu gair yr ARGLWYDD with Samuel, gan ddywedyd, º
11Edifar yw gennyf osod Saul yn frenin: canys efe a ddychwelodd oddi ar fy ôl i, ac ni chyfiawnodd fy ngeiriau. A bu ddrwg gan Samuel; ac efe a lefodd ar yr ARGLWYDD ar hyd y nos. º
12A phan gyfododd Samuel yn fore i gyfarfod Saul, mynegwyd i Samuel, gan ddywedyd, Daeth Saul i Carmel; ac wele, efe a osododd iddo Ie, efe a amgylchodd hefyd, ac a dramwyodd, ac a aeth i waered i Gilgal. º
13A Samuel a ddaeth at Saul. A Saul ddywedodd wrtho ef, Bendigedig fyddych di gan yr ARGLWYDD: mi a gyflewnais air yr ARGLWYDD. º
14A dywedodd Samuel, Beth ynteu yw brefiad y defaid hyn yn fy nghlustiau, a beichiad y gwartheg yr hwn yr ydwyf yn ei glywed? º
15A Saul a ddywedodd, Oddi ar yr Amaleciaid y dygasant hwy: canys y bobl a arbedodd y defaid gorau, a’r ychen, i frberthu i’r ARGLWYDD dy DDUW; a’r than arall a ddifrodasom ni. º
16Yna y dywedodd Samuel wrth Saul, Aros, a mi a fynegaf i ti yr hyn a lefarodd yr ARGLWYDD wrth yf fi neithiwr. Yntau a ddywedodd wrtho, Llefara. º
17A Samuel a ddywedodd, Onid pan (beddit fychan yn dy oLwg dy hun, y gwnaed di yn ben ar lwythau Israel, ac yr eneiniodd yr ARGLWYDD di yn frenin ar Israel? º
18A’r ARGLWYDD a’th anfonodd di i daith, ac a ddywedodd, DOS, a difroda y pechaduriaid, yr Amaleciaid, ac ymladd t’w herbyn, nes eu difa hwynt. º
19Paham gan hynny na wrandewaist ar lais yr ARGLWYDD, eithr troaist at yr anrhaith, a gwnaethost ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD? º
20A Saul a ddywedodd wrth Samuel, Yn wir mi a wrandewais ar lais yr ARGLWYDD, ac a rodiais yn y ffordd y’m hanfonodd yr ARGLWYDD iddi, a dygais Agag brenin Amalec, ac a ddifrodais yr Amaleciaid. º
21Ond y bobl a gymerth o’r ysbail, ddefaid a gwartheg, blaenion y ddifrodaeth, i aberthu i’r ARGLWYDD dy DDUW yn Gilgal. º
22A Samuel a ddywedodd, A yw ewyllys yr ARGLWYDD ar boethoffrymau, neu ebyrth, megis ar wrando ar lais yr ARGLWYDD? Wele, gwrando sydd well nag aberth, ac ufuddhau na braster hyrddod. º
23Canys anufudd-dod sydd fel pechod dewiniaeth; a throseddiad sydd anwiredd a delw-addoliaeth. Oherwydd i ti fwrw ymaith air yr ARGLWYDD, yntau a’th fwrw dithau ymaith o fod yn frenin. º
24St A Saul a ddywedodd wrth Sam¬uel, Pechais: canys troseddais air yr ARGLWYDD, a’th einau dithau; oherwydd i mi ofni y bobl, a gwrando ar eu llais hwynt. º
25Ond yn awr maddau, atolwg, fy mhechod, a dychwel gyda mi, fel yr addolwyf yr ARGLWYDD. º
26A Samuel a ddywedodd with Saul, Ni ddychwelaf gyda thi; canys bwriaist ymaith air yr ARGLWYDD, a’r ARGLWYDD a’th fwriodd dithau ymaith o fod yn frenin ar Israel. º
27A phan drodd Samuel i fyned ymaith, efe a ymaflodd yng nghwr ei fantell ef; a hi a rwygodd. º
28A Samuel a ddywedodd wrtho, Yr ARGLWYDD a rwygodd Irenhiniaeth Israel oddi wrthyt ti heddiw, ac a’i rhoddes i gymydog i ti, gwell na thydi. º
29A hefyd, Cadernid Isr.icl ni ddywed gelwydd, ac nid edifarha: cunys nid dyn yw efe, i edifarhau. º
30Yna y dywedodd Saul, Pechais: anrhydedda fi, atolwg, yn awr gerbron henuriaid fy mhobl, a cherbron Israel, a dychwel gyda mi, fel yr addolwyf yr ARGLWYDD dy DDUW. º
31Felly Samuel a ddychwelodd ar ôl Saul: a Saul a addolodd yr ARGLWYDD. º
32Yna y dywedodd Samuel, Cyrchwch ataf fi Agag brenin yr Amaleciaid. Ac Agag a ddaeth ato ef yn hoyw. Ac Agag a ddyv.edodd, Chwerwder marwolaeth yn ddiau a aeth ymaith. º
33A Samuel a ddywedodd, Fel y diblantodd dy gleddyf di wragedd, felly y diblentir dy fam dithau ymysg gwragedd. A Samuel a ddarniodd Agag ger¬bron yr ARGLWYDD yn Gilgal. º
34Yna Samuel a aeth i Rama; a Saul a aeth i fyny i’w dv yn Gibea Saul. º
35Ac nid ymwelodd Samuel mwyach & Saul hyd ddydd ei farwolaeth; ond Samuel a alarodd am Saul: ac edifar fu gan yr ARGLWTOD osod Saul yn frenin ar Israel.