The Bible Software
Ail Lyfr Samuel · Beibl (1620)

Ail Lyfr Samuel 24

1Aphan ddychwelodd Saul oddi ar ôl y Philistiaid, mynegwyd iddo, gan ddywedyd, Wele Dafydd yn anialwch En-gedi. º

2Yna y cymerth Saul dair mil o wŷr flholedig o holl Israel; ac efe a aeth i pcisio Dafydd a’i wŷr, ar hyd copa creigiau y geifr gwylltion. º

3Ac efe a ddaeth at gorlannau y defaid, ar y ffordd; ac yno yr oedd ogof: a Saul a aeth i mewn i wasanaethu ei gorff. A Dafydd a’i wŷr oedd yn aros yn ystlysau yr ogof. º

4A gwŷr Dafydd a ddywedasant wrtho ef, Wele y dydd am yr hwn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyt, Wele fi yn rhoddi dy elyn yn dy law di, fel y gwnelych iddo megis y byddo da yn dy olwg. Yna Dafydd a gyfododd, ac a dorrodd gŵr y fantell oedd am Saul yn ddirgel. º

5Ac wedi hyn calon Dafydd a’i trawodd ef, oherwydd iddo dorri cwr mantell Saul. º

6Ac efe a ddywedodd wrth ei wŷr, Na ato yr ARGLWYDD i mi wneuthur y peth hyn i’m meistr, eneiniog yr ARGLWYDD, i estyn fy llaw yn ei erbyn ef; oblegid eneiniog yr ARGLWYDD yw efe. º

7Felly yr ataliodd Dafydd ei wŷr a’r geiriau hyn, ac ni adawodd iddynt gyfodi yn erbyn Saul. A Saul a gododd i fyny o’r ogof, ac a aeth i ffordd. º

8Ac ar ôl hyn Dafydd a gyfododd, ac a aeth allan o’r ogof; ac a lefodd ar ôl Saul, gan ddywedyd, Fy arglwydd frenin. A phan edrychodd Saul o’i ôl, Dafydd a ostyngodd ei wyneb tua’r ddaear, ac a ymgrymodd. º

9A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Paham y gwrandewi eiriau dynion, gan ddywedyd, Wele, y mae Dafydd yn ceisio niwed id? º

10Wele, dy lygaid a welsant y dydd hwn ddarfod i’r ARGLWYDD dy roddi di yn fy llaw i heddiw yn yr ogof: a dywedwyd wrthyf am dy ladd di; ond fy enaid a’th arbedodd di: a dywedais, Nid eslynnaffy llaw yn erbyn fy meistr; canys i. nciniog yr ARGLWYDD yw efe. º

11Fy nhad hefyd, gwêl, ie gwêl gŵr ily f;mtell yn fy llaw i: canys pan dorrais yinnith gŵr dy fantell di, heb dy ladd; gwyhydd a gwel. nad oes yn fy llaw i ddrygioni na chamwedd, ac na phechais i’th erbyn: eto yr wyt ti yn hela fy einioes i, i’w dala hi. º

12Barned yr ARGLWYDD rhyngof fi a thithau, a dialed yr ARGLWYDD fi amat ti: ond ni bydd fy llaw i arnat ti. º

13Megis y dywed yr hen ddihareb, Oddi wrth y rhai anwir y daw anwiredd: ond ni bydd fy llaw i arnat ti. º

14Ar ôl pwy y daeth brenin Israel allan? ar ôl pwy yr ydwyt ti yn erlid? ar ôl ei marw, ar ôl chwannen. º

15Am hynny bydded yr ARGLWYDD yn farnwr, a barned rhyngof fi a thi: edryched hefyd, a dadleued fy nadi, ac achubed fi o’th law di. º

16A phan orffennodd Dafydd lefaru y geiriau hyn wrth Saul, yna y dywedodd Saul, Ai dy lef di yw hon, fy mab Dafydd? A Saul a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd. º

17Efe a ddywedodd hefyd wrth Da¬fydd, Cyfiawnach wyt ti na myfi: canys ti a delaist i mi dda, a minnau a delais i ti ddrwg. º

18A thi a ddangosaist heddiw wneuthur ohonot a mi ddaioni: oherwydd rhoddodd yr ARGLWYDD fi yn dy law di, ac ni’m lleddaist. º

19Oblegid os caffai ŵr ei elyn, a ollyngai efe ef mewn ffordd dda? am hynny yr ARGLWYDD a dalo i ti ddaioni, am yr hyn a wnaethost i mi y dydd hwn. º

20Acweleynawr,miawngandeyrnasu y teyrnesi di, ac y sicrheir brenhiniaeth Israel yn dy law di. º

21Twng dithau wrthyf fi yn awr i’r ARGLWYDD, na thorri ymaith fy had i ar fy ôl, ac na ddifethi fy enw i o dy fy nhad. º

22A Dafydd a dyngodd wrth Saul. A Saul a aeth i’w dy: Dafydd hefyd a’i wŷr a aethant i fyny i’r amddiffynfa.

← Ail Lyfr Samuel 23Read In The App, Free →Ail Lyfr Samuel 25 →

Study Ail Lyfr Samuel 24

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031