The Bible Software
Ail Lyfr Samuel · Beibl (1620)

Ail Lyfr Samuel 28

1AR Philistiaid yn y dyddiau hynny a gynullasant eu byddinoedd yn llu, i ymladd yn erbyn Israel. A dywedodd Achis wrth Dafydd, Gwybydd di yn hysbys, yr ei di gyda mi allan i’r gwersylloedd, ti a’th wŷr. º

2A dywedodd Dafydd wrth Achis, Yn ddiau ti a gei wybod beth a all dy was; ei wneuthur. A dywedodd Achis wrth Dafydd, Yn wir minnau a’th osodaf di yn geidwad ar fy mhen i byth. º

3A Samuel a fuasai farw; a holl Israel a alarasent amdano ef, ac a’i claddasent yn Rama, sef yn ei ddinas ei hun. A Saul a yrasai ymaith y swynyddion a’r dewiniaid o’r wlad. ‘ º

4A’r Philistiaid a ymgynullasant ac a ddaethant ac a wersyllasant yn Sunenu a Saul a gasglodd holl Israel ynghyd; a hwy a wersyllasant yn Gilboa. º

5A phan welodd Saul wersyll y Philist¬iaid, efe a ofnodd, a’i galon a ddychrynodd yn ddirfawr. º

6A phan ymgynghorodd Saul a’r AR GLWYDD, nid atebodd yr ARGLWYDD iddo, na thrwy freuddwydion, na thrwy Urim, na thrwy broffwydi. º

7Yna y dywedodd Saul wrth ei weision, Ceisiwch i mi wraig o berchen, ysbryd dewiniaeth, fel yr elwyf ati, ac yr ymofynnwyf a hi. A’i weision a ddywedasant wrtho, Wele, y mae gwraig o berchen ysbryd dewiniaeth yn Endor.; º

8A Saul a newidiodd ei ddull, ac a wisgodd ddillad eraill; ac efe a aeth, a dau ŵr gydag ef, a hwy a ddaethant at ywraig liw nos. Ac efe a ddywedodd, Dewinia, atolwg, i mi trwy ysbryd’ dewiniaeth, a dwg i fyny ataf fi yr hwn a ddywedwyf wrthyt. º

9A’r wraig a ddywedodd wrtho ef, Wele, ti a wyddost yr hyn a wnaeth Saul, yr hwn a ddifethodd y swynyddion a’r’ dewiniaid o’r wlad: paham gan hynny yr ydwyt ti yn gosod magi yn erbyn fy’’ einioes i, i beri i mi farw? º

10A Saul a dyngodd wrthi hi i’r AR¬GLWYDD, gan ddywedyd, Fel mai byw yr ARGLWYDD, ni ddigwydd i ti niwed am y peth hyn. º

11Yna y dywedodd y wraig, Pwy a ddygaf fi i fyny atat ti? Ac efe a ddywed¬odd, Dwg i mi Samuel i fyny. º

12A’r wraig a ganfu Samuel, ac a lefodd â llef uchel: a’r wraig a lefarodd wrth Saul, gan ddywedyd, Paham y twyllaist fi? canys ti yw Saul. º

13A’r brenin a ddywedodd wrthi hi, Nac ofna: canys beth a welaist ti? A’r wraig a ddywedodd wrth Saul, Duwiau a welais yn dyrchafu o’r ddaear. º

14Yntau a ddywedodd wrthi. Pa ddull sydd arno ef? A hi a ddywedodd, Gwr hen sydd yn dyfod i fyny, a hwnnw yn gwisgo manteil. A gwybu Saul mai Samuel oedd efe, ac efe a ostyngodd ei wyneb i lawr, ac a ymgrymodd. º

15A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Paham yr aflonyddaist arnaf, gan beri i mi ddyfod i fyny? A dywedodd Saul, Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi: canys y mae y Philistiaid yn rhyfela yn fy erbyn i, a Duw a giliodd oddi wrthyf fi, ac nid yw yn fy ateb mwyach, na thrwy law pro ffwydi, na thrwy freudd¬wydion: am hynny y gelwais arnat ti, i hysbysu i mi beth a wnawn. º

16Yna y dywedodd Samuel, Paham gan hynny yr ydwyt ti yn ymofyn a mi, gan i’r ARGLWYDD gilio oddi wrthyt, a bod yn elyn i ti? º

17Yr ARGLWYDD yn ddiau a wnaeth iddo, megis y llefarodd trwy fy llaw i: canys yr ARGLWYDD a rwygodd y fren-hiniaeth o’th law di, ac a’i rhoddes hi i’th gymydog, i Dafydd: º

18Oherwydd na wrandewaist ti ar lais yr ARGLWYDD, ac na chyflewnaist lidiowgrwydd ei ddicter ef yn erbyn Amalec; am hynny y gwnaeth yr ARGLWYDD y peth hyn i ti y dydd hwn. º

19Yr ARGLWYDD hefyd a ddyry Israel gyda thi yn llaw y Philistiaid: ac yfory y byddi di a’th feibion gyda mi: a’r AR¬GLWYDD a ddyry wersylloedd Israel yn llaw y Philistiaid. º

20Yna Saul a frysiodd ac a syrthiodd o’i hyd gyhyd ar y ddaear, ac a ofnodd yn ddirfawr, oherwydd geiriau Samuel: a nerth nid oedd ynddo; canys ni fwytasai fwyd yr holl ddiwmod na’r holl noson honno. º

21A’r wraig a ddaeth at Saul, ac a ganfu ei fod ef yn ddychrynedig iawn; it hi a ddywedodd wrtho ef, Wele, nwrandawodd dy lawforwyn ar dy lais di, u gosodais fy einioes mewn enbydrwydd, nc ufuddheais dy eiriau a leferaist wrthyf: º

22Yn awr gan hynny gwrando dithau, utolwg, ar lais dy wasanaethferch, a gad i mi osod ger dy fron di damaid o fara; a bwyta, fel y byddo nerth ynot, pan clych i’th ffordd. º

23Ond efe a wrthododd, ac a ddy¬wedodd, Ni fwytaf. Eto ei weision a’r wraig hefyd a’i cymellasant ef, ac efe a wrandawodd ar eu llais hwynt. Ac efe 11 gyfododd oddi ar y ddaear, ac a eisteddoild ar y gwely. º

24Ac yr oedd gan y wraig lo bras yn ty; a hi a frysiodd, ac a’i lladdodd ef, ac i gymerth beilliaid, ac a’i tyiinodd, ac o’i pobodd yn gri: º

25A hi a’i dug gerbron Saul, a cherbron ei weision: a hwy a fwytasant. Yna hwy a gyfodasant, ac a aethant ymaith y noson honno..

← Ail Lyfr Samuel 27Read In The App, Free →Ail Lyfr Samuel 29 →

Study Ail Lyfr Samuel 28

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031