The Bible Software
Ail Lyfr Samuel · Beibl (1620)

Ail Lyfr Samuel 11

1YNA Nahas yr Ammoniad a ddaeth i fyny, ac a wersyllodd yn erbyn Jabes Gilead: a holl wŷr Jabes a ddy¬wedasant wrth Nahas, Gwna gyfamod â ni, ac ni a’th wasanaethwn di. º

2A Nahas yr Ammoniad a ddywedodd wrthynt, Dan yr amod hyn y cyfamodaf a chwi; i mi gael tynnu pob llygad deau i chwi, fel y gosodwyf y gwaradwydd hwn ar holl Israel. º

3A henuriaid Jabes a ddywedasant wrtho, Caniata i ni saith niwrnod, fel yr anfonom genhadau i holl derfynau Israel: ac oni bydd a’n gwaredo, ni a ddeuwn allan atat ti. º

4A’r cenhadau a ddaethant i Gibea Saul, ac a adroddasant y geiriau lle y clybu y bobl. A’r holl bobl a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant. º

5Ac wele Saul yn dyfod ar ôl y gwartheg o’r maes. A dywedodd Saul, Beth sydd yn peri i’r bobl wylo? Yna yr adroddasant iddo eiriau gwŷr Jabes. º

6Ac ysbryd Duw a ddaeth ar Saul, pan glybu efe y geiriau hynny; a’i ddigofaint ef a enynnodd yn ddirfawr. º

7Ac efe a gymerth bar o ychen, ac a’u drylliodd, ac a’u danfonodd trwy holl derfynau Israel yn llaw y cenhadau; gan ddywedyd, Yr hwn nid elo ar ôl Saul ac ar ôl Samuel, fel hyn y gwneir i’w wartheg ef. Ac ofn yr ARGLWYDD a syrthiodd ar y bobl, a hwy a ddaethant allan yn unfryd. º

8A phan gyfrifodd efe hwynt yn Besec, meibion Israel oedd dri chan mil, a gwŷr Jwda yn ddeng mil ar hugain. º

9A hwy a ddywedasant wrth y cen¬hadau a ddaethai, Fel hyn y dywedwch wrth wŷr Jabes Gilead; Yfory, erbyn gwresogi yr haul, bydd i chwi ymwared. A’r cenhadau a ddaethant ac a fynegasant hynny i wŷr Jabes; a hwythau a lawenychasant. º

10Am hynny gwŷr Jabes a ddywed¬asant, Yfory y deuwn allan atoch chwi; ac y gwnewch i ni yr hyn oll a weloch yn dda. º

11A bu drannoeth i Saul osod y bobl yn dair byddin; a hwy a ddaethant i ganol y gwersyll yn yr wyliadwriaeth fore, ac a laddasant yr Ammoniaid nes gwresogi o’r dydd: a’r gweddillion a wasgarwyd, fel na thrigodd ohonynt ddau ynghyd. º

12A dywedodd y bobl wrth Samuel, Pwy yw yr hwn a ddywedodd, A deyrnasa Saul arnom ni? moeswch y gwŷr hynny, fel y rhoddom hwynt i farwolaeth. º

13A Saul a ddywedodd, Ni roddir neb i farwolaeth heddiw: canys heddiw y gwnaeth yr ARGLWYDD ymwared yn Israel. º

14Yna Samuel a ddywedodd wrth y bobl, Deuwch, fel yr elom i Gilgal, ac yr adnewyddorn y frenhiniaeth yno. º

15A’r holl bobl a aethant i Gilgal, ac yno y gwnaethant Saul yn frenin, ger¬bron yr ARGLWYDD yn Gilgal: a hwy a aberthasant yno ebyrth hedd gerbron yr ARGLWYDD. A Saul a lawenychodd yno, a holl wŷr Israel, yn ddirfawr.

← Ail Lyfr Samuel 10Read In The App, Free →Ail Lyfr Samuel 12 →

Study Ail Lyfr Samuel 11

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031