The Bible Software
Ail Lyfr Samuel · Beibl (1620)

Ail Lyfr Samuel 14

1ABU ddyddgwaith i Jonathan mab Saul ddywedyd wrth y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef, Tyred, ac awn drosodd i amddiffynfa’r Philistiaid, yr hon sydd o’r tu hwnt: ond ni fynegodd efe i’w dad. º

2A Saul a arhosodd yng nghwr Gibea, dan bren pomgranad, yr hwn oedd ym Migron: a’r bobl oedd gydag ef oedd ynghylch chwe channwr; º

3Ac Ahia mab Ahitub, brawd Ichabod, mab Phinees, mab Eli, offeiriad yr AR¬GLWYDD yn Seilo, oedd yn gwisgo effod. Ac ni wyddai y bobl i Jonathan fyned ymaith. º

4A rhwng y bylchau, lle ceisiodd Jonathan fyned drosodd at amddiffynfa’r Philistiaid, yr oedd craig serth o’r naill du i’r bwlch, a chraig serth o’r tu arall i’r bwlch; ac enw y naill oedd Boses, ac enw y llall Sene. º

5A safiad y naill oedd oddi wrth y gogledd ar gyfer Michmas, a’r llall oddi wrth y deau ar gyfer Gibea. º

6A dywedodd Jonathan with y llanc oedd yn dwyn ei arfau ef. Tyred, ac awn drosodd i amddiffynfa’r rhai dienwaededig hyn; nid hwyrach y gweithia yr ARGLWYDD gyda ni: canys nid oes rwystr i’r ARGLWYDD waredu trwy lawer neu trwy ychydig. º

7A’r hwn oedd yn dwyn ei arfau ef fi ddywedodd wrtho, Gwna yr hyn oll ydd yn dy galon: cerdda rhagot; wele fi gyda thi fel y mynno dy galon. º

8Yna y dywedodd Jonathan, Wele, ni awn trosodd at y gwŷr hyn, ac a ymddangoswn iddynt. º

9Os dywedant fel hyn wrthym, Arhoswch nes i ni ddyfod atoch chwi; yna y spfwn yn ein lle, ac nid awn i fyny atynt hwy. º

10Ond os fel hyn y dywedant, Deuwch.i fyny atom ni, yna yr awn i fyny: canys yr ARGLWYDD a’u rhoddodd hwynt yn ein llaw ni; a hyn fydd yn argoel i ni. º

11A hwy a ymddangosasant ill dau i amddinynfa’r Philistiaid. A’r Philistiaid a ddywedasant, Wele yr Hebreaid yn dyfod allan o’r tyilau y llechasant ynddynt. º

12A gwŷr yr amddiffynfa a atebasant Jonathan, a’r hwn oedd yn dwyn ei arfau, ac a ddywedasant, Deuwch i fyny atom ni, ac ni a ddangoswn beth i chwi. A dywedodd Jonathan wrth yr hwn oedd yn dwyn ei arfau. Tyred i fyny ar fy ôl: eanys yr ARGLWYDD a’u rhoddes hwynt yn llaw Israel. º

13A Jonathan a ddringodd i fyny ar ei ddwylo, ac ar ei draed; a’r hwn oedd yn dwyn ei arfau ar ei ôl. A hwy a syrthiasant o flaen Jonathan: ei yswain hefyd Qedd yn lladd ar ei ôl ef. º

14A’r lladdfa gyntaf honno a wnaeth Jonathan a’r hwn oedd yn dwyn ei arfau, oedd ynghylch ugeinwr, megis o fewn ynghylch hanner cyfer dau ych o dir. º

15A bu fraw yn y gwersyll, yn y maes, ac ymysg yr holl bobl: yr amddinynfa a’r anrheithwyr hwythau hefyd a ddychrynasant: y ddaear hefyd a grynodd, a bu dychryn Duw. º

16A gwylwyr Saul yn Gibea Benjamin a edrychasant; ac wele y lliaws yn ymwas garu, ac yn myned dan ymguro. º

17Yna y dywedodd Saul wrth y bobl oedd gydag ef, Cyfrifwch yn awr, ‘ac edrychwch pwy a aeth oddi wrthym ni. A phan gyfrifasant, wele, Jonathan a chludydd ei arfau nid oeddynt yno. º

18A Saul a ddywedodd wrth Ahia, Dwg yma arch Duw. (Canys yr oedd arch Dew y pryd hynny gyda meibion Israel.) º

19A thra yr ydoedd Saul yn ymddiddan a’r offeiriad, y terfysg, yr hwn oedd yng ngwcrsyll y Philistiaid, gan fyned a aeth, ac a anghwanegodd. A Saul a ddywedodd wrth yr offeiriad, Tyn atat dy law. º

20A Saul a’r holl bobl oedd gydag ef a ymgynullasant, ac a ddaethant i’r rhyfel: ac wele gleddyf pob un yn erbyn ei gyfnesaf; a dinistr mawr iawn cedd yno. º 31 Yr Hebreaid hefyd, y rhai oedd gyda’r Philistiaid o’r blaen, y rhai a aethant i fyny gyda hwynt i’r gwersyll o’r wlad oddi amgylch, hwythau hefyd a etroesant i fod gyda’r Israeliaid oedd gyda Saul a Jonathan. º

21

22A holl wŷr Israel, y rhai oedd yn llechu ym mynydd Effraim, a glywsant ffoi o’r Philistiaid; hwythau hefyd a’u herlidiasant hwy o’u hôl yn y rhyfel. º

23Felly yr achubodd yr ARGLWYDD Israel y dydd hwnnw; a’r ymladd â aeth drosodd i Bethafen. º

24A gwŷr Israel oedd gyfyng amynt y dydd hwnnw: oherwydd tyngedasai Saul y bobl, gan ddywedyd, Melltigedig fyddo y gŵr a fwytao fwyd hyd yr hwyr, fel y dialwyf ar fy ngelynion. Felly nid archwaethodd yr un o’r bobl ddim bwyd. º

25A’r rhai o’r holl wlad a ddaethant i goed, lle yr oedd mêl ar hyd wyneb y tir. º

26A phan ddaeth y bobl i’r coed, v.’ele y mêl yn diferu; eto ni chododd un ei law at ei enau: canys ofnodd y bobl y llw. º

27Ond Jonathan ni chlywsai pan dyngedasai ei dad ef y bobl: am hynny efe a estynnodd flaen y wmlen oedd yn ei law, ac a’i gwiychodd yn nil y mêl, ac a drodd ei taiw at ei enau; a’i lygaid a oleuasant. º

28Yna un o’r bobl’ a atebodd, ac a ddywedodd, Gan dynghedu y tynghedodd dy dad y bobl, gan ddywedyd, Melltigedig fyddo y gŵr a fwytao fwyd heddiw. A’r bobl oedd luddedig. º

29Yna y dywedodd Jonathan, Fy nhad a flinodd y wlad. Gwelwch yn awr fel y goleuodd fy llygaid i, oher¬wydd i mi archwaethu ychydig o’r mêl hwn: º

30Pa faint mwy, pe bwytasai y bobl yn ddiwarafun heddiw o anrhaith eu gelynion, yr hon a gawsant hwy? oni buasai yn awr fwy y lladdfa ymysg y Philistiaid? º

31A hwy a drawsant y Philistiaid y dydd hwnnw o Michmas hyd Ajalon: a’r bobl oedd ddiffygiol iawn. º

32A’r bobl a ruthrodd at yr anrhaith, ac a gymerasant ddefaid, a gwartheg, a lloi, ac a’u lladdasant ar y ddaear: a’r bobl a’u bwytaodd gyda’r gwaed. º

33Yna y mynegasant hwy i Saul, gan ddywedyd, Wele, y bobl sydd yn pechu yn erbyn yr ARGLWYDD, gan fwyta ynghyd â’r gwaed. Ac efe a ddywedodd, Troseddasoch: treiglwch ataf fi heddiw faen mawr. º

34Dywedodd Saul hefyd, Ymwasgerwch ymysg y bobl, a dywedwch wrthynt, Dygwch ataf fi bob un ei ych, a phob un ei lwdn dafad, a lleddwch hwynt yma, a bwytewch; ac na phechwch yn erbyn yr ARGLWYDD, gan fwyta ynghyd â’r gwaed. A’r bobl oll a ddygasant bob un ei ych yn ei law y noswaith honno, ac a’u lladdasant yno. º

35A Saul a adeiladodd allor i’r AR¬GLWYDD. Hon oedd yr allor gyntaf a adeiladodd efe i’r ARGLWYDD. º

36A dywedodd Saul, Awn i waered ar ôl y Philistiaid liw nos, ac anrheithiwn hwynt hyd oni oleuo y bore, ac na adawn un ohonynt. Hwythau a ddywedasant, Gwna yr hyn oll fyddo da yn dy olwg. Yna y dywedodd yr offeiriad, Nesawn yma at DDUW. º

37Ac ymofynnodd Saul a Duw, A af fi i waered ar ôl y Philistiaid? a roddi di hwynt yn llaw Israel? Ond nid atebddd efe ef y dydd hwnnw. º

38A dywedodd Saul, Dyneswch yrna holl benaethiaid y bobl: mynnwch wybod hefyd, ac edrychwch ym mhwy y bu y pechod hwn heddiw. i º

39Canys, megis mai byw yr AR¬GLWYDD, yr hwn sydd yn gwaredu Israel, pe byddai hyn yn Jonathan fy mab, diau y llwyr roddir ef i farwolaeth. Ac nid atebodd neb o’r holl bobl ef. º

40Yna y dywedodd efe wrth holl Israel, Chwi a fyddwch ar y naill du; minnau hefyd a Jonathan fy mab fyddwn ar y tu arall. A dywedodd y bobl wrth Saul, Gwna a fyddo da yn dy olwg. º

41Am hynny y dywedodd Saul wrth ARGLWYDD DDUW Israel, Dod oleufynag. A daliwyd Jonathan a Saul: oad y bobl a ddihangodd. º

42Dywedodd Saul hefyd, Bwriwch goelbren rhyngof fi a’Jonathan fy mab. A daliwyd Jonathan. º

43Yna y dywedodd Saul wrth Jo¬nathan, Mynega i mi beth a wnaethost. A Jonathan a fynegodd iddo, ac a ddy¬wedodd, Gan archwaethu yr archwaethais ychydig o fel ar flaen y wialen oedd yn fy llaw; ac wele, a fyddaf fi farw? º

44Dywedodd Saul hefyd. Felly gwne1ed Duw i mi, ac felly chwaneged, cnid gan farw y byddi di farw, Jonathan. º

45A dywedodd y bobl wrth Saul, A leddir Jonathan, yr hwn a v.naeth yr ymwared mawr hyn yn Israel? Na ato Duw: fel mai byw yr ARGLWYDD, ni syrth un o wallt ei ben ef i’r ddaear; canys gyda Duw y gweithiodd efe heddiw. A’r bobl a waredasant Jonathan, fel na laddwyd ef. º

46Yna Saul a aeth i fyny oddi ar ôl y Philistiaid: a’r Philistiaid a aethant i’w lle eu hun. º

47Felly y cymerodd Saul y frenhiniaeth ar Israel; ac a ymladdodd yn erbyn ei holl elynion oddi amgylch, yn erbyn Moab, ac yn erbyn meibion Ammon, ac yn erbyn Edom, ac yn erbyn brenhinoedd Soba, ac yn erbyn y Philistiaid: ac yn erbyn pwy bynnag yr wynebodd, efe a brchfygodd. º

48Cynullodd lu hefyd, a thrawodd Amalec; ac a waredodd Israel o law ei anrheithwyr. º

49A meibion Saul oedd Jonathan, ac Issui, a Malcisua. Dyma enwau ei ddwy ferch ef: enw yr hynaf oedd Merab, ac enw yr ieuangaf Michal. º

50Ac enw gwraig Saul oedd Ahinoam merch Ahimaas: ac enw tywysog ei filwriaeth ef oedd Abner mab Ner, ewythr frawd ei dad i Saul. º

51Cis hefyd oedd dad Saul; a Ner tad Abner oedd fab Abiel. º

52A bu ryfel caled yn erbyn y Philistiaid holl ddyddiau Saul: a phan welai Saul ŵr glew a nerthol, efe a’i cymerai ato ei hun.

← Ail Lyfr Samuel 13Read In The App, Free →Ail Lyfr Samuel 15 →

Study Ail Lyfr Samuel 14

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031