The Bible Software
Ail Lyfr Samuel · Beibl (1620)

Ail Lyfr Samuel 9

1A yr oedd gŵr o Benjamin, a’i enw Cis, mab Abiel, mab Seror, mab Bechorath, mab Affeia, mab i ŵr o Jemini, yn gadarn o nerth. º

2Ac iddo ef yr oedd mab, a’i enw Saul, yn ŵr ieuanc, dewisol a glân: as nid oedd neb o feibion Israel lanach nag ef: o’i ysgwydd i fyny yr oedd yn uwch na’r holl bobl. º

3Ac asynnod Cis, tad Saul, a gyfrgollasant: a dywedodd Cis wrth Saul ei fab, Cymer yn awr un o’r llanciau gyda thi, a chyfod, dos, cais yr asynnod. º

4Ac efe a aeth trwy fynydd Effrairn, ac a dramwyodd trwy wlad Salisa, ac nis cawsant hwynt: yna y tramwyasant trwy wlad Salim, ac nis cawsant hwynt: ac efe a aeth trwy wlad Jemini, ond nis cawsant hwynt. º

5Pan ddaethant i wlad Suff, y dywed¬odd Saul wrth ei lane oedd gydag ef, Tyred, a dychwelwn; rhag i’m tad beidio a’r asynnod, a gofalu amdanom ni. º

6Dywedodd yntau wrtho ef, Wele, yn awr y mae yn y ddinas hon ŵr i DDUW, a’r gŵr sydd anrhydeddus; yr hyn oll a ddywedo efe, gan ddyfod a ddaw: awn yno yn awr; nid hwyrach y mynega efe i ni y ffordd y mae i ni fyned iddi. º

7Yna y dywedodd Saul wrth ei lane, Wele, od awn ni, pa beth a ddygwn ni i’r gwr? canys y bara a ddarfu yn ein llestri ni, a gwobr arall nid oes i’w ddwyn i ŵr Duw: beth sydd gennym? º

8A’r llanc a atebodd eilwaith i Saul, ac a ddywedodd, Wele, cafwyd gyda mi bedwaredd ran sicl o arian: mi a roddaf hynny i ŵr Duw, er mynegi i ni ein ffordd. º

9(Gynt yn Israel, fel hyn y dywedai gŵr wrth fyned i ymgynghori a Duw; Deuwch, ac awn hyd at y gweledydd: canys y Proffwyd heddiw, a elwid gynt yn Weledydd.) º

10Yna y dywedodd Saul wrth ei lane, Da y dywedi; tyred, awn. Felly yr aethant i’r ddinas yr oedd gŵr Duw ynddi. º

11Ac fel yr oeddynt yn myned i riw y ddinas, hwy a gawsant lancesau yn dyfod allan i dynnu dwfr; ac a ddywedasant wrthynt, A yw y gweledydd yma? º

12Hwythau a’u hatebasant hwynt, ac a ddywedasant, Ydyw; wele efe o’th flaen; brysia yr awr hon; canys heddiw y daeth efe i’r ddinas; oherwydd aberth sydd heddiw gan y bobl yn yr uchelfa. º

13Pan ddeloch gyntaf i’r ddinas, chwi a’i cewch ef, cyn ei fyned i fyny i’r uchelfa i fwyta; canys ni fwyty y bobl hyd oni ddelo efe, oherwydd efe a fendiga yr aberth; ar ôl hynny y bwyty y rhai a wahoddwyd: am hynny ewch i fyny; canys ynghylch y pryd hwn y cewch ef. º

14A hwy a aethant i fyny i’r ddinas; a phan ddaethant i ganol y ddinas, wele Samuel yn dyfod i’w cyfarfod, i fyned i fyny i’r uchelfa. º

15A’r ARGLWYDD a fynegasai yng nghlust Samuel, ddiwrnod cyn dyfod Saul, gan ddywedyd. º

16Ynghylch y pryd hwn yfory yr anfonaf atat ti ŵr o wlad Benjamin; a thi a’i heneini ef yn flaenor ar fy mhobl Israel, ac efe a wared fy mhobl o law y Philistiaid: canys edrychais ar fy mhobl; oherwydd daeth eu gwaedd ataf. º

17A phan ganfu Samuel Saul, yr AR¬GLWYDD a ddywedodd wrtho ef, Wele y gŵr am yr hwn y dywedais wrthyt: hwn a lywodraetha ar fy mhobl. º

18Yna Saul a nesaodd at Samuel yng nghanol y porth, ac a ddywedodd, Mynega i mi, atolwg, pa le yma y mae ty y gweledydd. º

19A Samuel a atebodd Saul, ac a ddywedodd, Myfi yw y gweledydd: dos i fyny o’m blaen i’r uchelfa; canys bwytewch gyda myfi heddiw: a mi a’th ollyngaf y bore, ac a fynegaf i ti yr hyn oll y sydd yn dy galon. º

20Ac am yr asynnod a gyfrgollasant er ys tridiau, na ofala amdanynt; canys cafwyd hwynt. Ac i bwy y mae hoB bethau dymunol Israel? onid i ti, ac i holl dŷ dy dad? º

21A Saul a atebodd ac a ddywedodd, Onid mab Jemini ydwyf fi, o’r lleiaf o lwythau Israel? a’m teulu sydd leiaf o holl deuluoedd llwyth Benjamin? a phaham y dywedi wrthyf y modd hyn? º

22A Samuel a gymerth Saul a’i lane, ac a’u dug hwynt i’r ystafell, ac a roddodd iddynt le o flaen y gwahoddedigion; a hwy oeddynt ynghylch dengwr ar hugain. º

23A Samuel a ddywedodd wrth y cog, Moes y rhan a roddais atat ti, am yr hon y dywedais wrthyt, Cadw hon gyda thi. º

24A’r cog a gyfododd yr ysgwyddog, a’r hyn oedd arni, ac a’i gosododd gerbron Saul. A Samuel a ddywedodd, Wele yr hyn a adawyd; gosod ger dy fron, a bwyta: canys hyd y pryd hwn y cadwyd ef i ti, er pan ddywedais, Y bobl a’wahoddais i. A bwytaodd Saul gyda Samuel y dydd hwnnw. º

25A phan ddisgynasant o’r uchelfa i’r ddinas, Samuel a ymddiddanodd â Saul ar ben y tŷ. º

26A hwy a gyfodasant yn fore: ac ynghylch codiad y wawr, galwodd Samuel ar Saul i ben y tŷ, gan ddy¬wedyd, Cyfod, fel y’th hebryngwyf ymaith. A Saul a gyfododd, ac efe a Samuel a aethant ill dau allan. º

27Ac fel yr oeddynt yn myned i waered i gŵr eithaf y ddinas, Samuel a ddywedodd wrth Saul, Dywed wrth y llanc am fyned o’n blaen ni; (felly yr aeth efe;) ond saf di yr awr hon, a mynegaf i ti air Duw.

← Ail Lyfr Samuel 8Read In The App, Free →Ail Lyfr Samuel 10 →

Study Ail Lyfr Samuel 9

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031