The Bible Software
Ail Lyfr Samuel · Beibl (1620)

Ail Lyfr Samuel 12

1Asamuel a ddywedodd wrth holl Israel, Wele, gwrandewais ar eich llais yn yr hyn oll a ddywedasoch wrthyf, a gosodais frenin arnoch. º

2Ac yr awr hon, wele y brenin yn rhodio o’ch blaen chwi: a minnau a heneiddiais, ac a benwynnais; ac wele fy meibion hwythau gyda chwi; a minnau a rodiais o’ch blaen chwi o’m mebyd hyd y dydd hwn. º

3Wele ft; tysdolaethwch i’m herbyn gerbron yr ARGLWYDD, a cherbron ei eneiniog: ych pwy a gymerais? neu asyn pwy a gymerais? neu pwy a dwyllais? neu pwy a orthrymais i? neu o law pwy y cymerais wobr, i ddallu fy llygaid ag ef? a mi a’i talaf i chwi. º

4A hwy a ddywedasant, Ni thwyllaist ni, ni orthrymaist ni chwaith, ac ni chymeraist ddim o law neb. º

5Dywedodd yntau wrthynt, Yr ARGLWYDD sydd dyst yn eich er byn chwi, ei eneiniog ef hefyd sydd dyst y dydd hwn, na chawsoch ddim yn fy llaw i. A’r bobl a ddywedasant, Tyst ydyw. º

6A Samuel a ddywedodd wrth y bobl, Yr ARGLWYDD yw yr hwn a fawrhaodd Moses ac Aaron, a’r hwn a ddug i fyny eich tadau chwi o dir yr AifTt. º

7Yn awr gan hynny sefwch, fel yr ymresymwyf â chwi gerbron yr AR¬GLWYDD, am holl gyfiawnderau yr AR¬GLWYDD, y rhai a wnaeth efe i chwi ac i’ch tadau. º

8Wedi i Jacob ddyfod i’r Ain’t, a gweiddi o’ch tadau chwi ar yr ARGLWYDD, yna yr ARGLWYDD a anfonodd Moses ac Aaron: a hwy a ddygasant eich tadau chwi o’r Ain’t, ac a’u cyfleasant hwy yn y lle hwn. º

9A phan angofiasant yr ARGLWYDD eu Duw, efe a’u gwerthodd hwynt i law Sisera, tywysog milwriaeth Hasor, ac i law y Philistiaid, ac i law brenin Moab; a hwy a ymladdasant i’w herbyn hwynt. º

10A hwy a waeddasantaryr ARGLWYDD, ac a ddywedasant, Pechasom, am i ni wrthod yr ARGLWYDD, a gwasanaethu Baalim ac Astaroth: er hynny gwared ni yr awr hon o law ein gelynion, a nyni a’th wasanaethwn di º

11A’r ARGLWYDD a anfonodd Jerwbbaal, a Bedan, a Jefftha, a Samuel, ac a’ch gwaredodd chwi o law eich gelynion 6 amgylch, a chwi a breswyliasoch yn ddiogel. º

12A phan welsoch fod Nahas brenin meibion Ammon yn dyfod yn eich erbyn, dywedasoch wrthyf, Nage; ond brenin a deyrnasa arnom ni; a’r AR¬GLWYDD eich Duw yn frenin i chwi. º

13Ac yn awr, wele y brenin a ddewisasoch chwi, a’r hwn a ddymunasoch: ac wele, yr ARGLWYDD a roddes frenin airnoch chwi. º

14Os ofnwch chwi yr ARGLWYDD, a’i wasanaethu ef, a gwrando ar ei lais, heb anufuddhau gair yr ARGLWYDD; yna y byddwch chwi, a’r brenin hefyd a deyrnasa arnoch, ar ôl yr ARGLWYDD eich Duw. º

15Ond os chwi ni wrandewch ar lais yr ARGLWYDD, eithr anufuddhau gair yr ARGLWYDD; yna y bydd liaw yr ARGLWYDD yn eich erbyn chwi, fel yn erbyn eich tadau. º

16Sefwch gan hynny yn awr, a gwelwch y peth mawr hyn a wna yr ARGLWYDD o flaen eich llygaid chwi. º

17Onid cynhaeaf gwenith yw heddiw? Galwaf ar yr ARGLWYDD; ac efe a ddyry daranau, a glaw: fel y gwybyddoch ac y gweloch, mai mawr yw eich drygioni chwi yr hwn a wnaethoch yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn gofyn i chwi frenin. º

18Felly Samuel a alwodd ar yr ARGLWYDD; a’r ARGLWYDD a roddodd daranau a glaw y dydd hwnnw; a’r holl bobl a ofnodd yr ARGLWYDD a Samuel yn ddirfawr. º

19A’r holl bobl a ddywedasant wrth Samuel, Gweddïa dros dy weision ar yr ARGLWYDD dy DDUW, fel na byddom feirw; canys chwanegasom d drygioni ar ein holl bechodau, wrth gcisio i ni frenin. º

20A dywedodd Samuel wrth y bobl, Nac ofnwch; chwi a wnaethoch yr holl ddrygioni hyn: eto na chiliwcn oddi ar ôl yr ARGLWYDD, ond gwasanaethwch yr ARGLWYDD a’ch holl galon;.. º

21Ac na chiliwch: canys felly yr aech as ôl oferedd, y rhai ni lesant, ac ni’ch gwaredant; canys ofer ydynt hwy. º

22Canys ni wrthyd yr ARGLWYDD ei bobl, er mwyn ei enw mawr: oherwydd rhyngodd bodd i’r ARGLWYDD eich gwneuthur chwi yn bobl iddo ei hun. º

23A minnau, na ato Duw i mi bechu yn erbyn yr ARGLWYDD, trwy beidio a gweddïo drosoch: eithr dysgaf i chwi. y ffordd dda ac uniawn.: º

24Yn unig ofnwch yr ARGLWYDD,. a gwasanaethwch ef mewn gwirionedd a’ch holl galon: canys gwelwch faint a wnaeth efe eroch. º

25Ond os dilynwch ddrygioni, chwi a ‘ch brenin a ddifethir.

← Ail Lyfr Samuel 11Read In The App, Free →Ail Lyfr Samuel 13 →

Study Ail Lyfr Samuel 12

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031