The Bible Software
Ail Lyfr Samuel · Beibl (1620)

Ail Lyfr Samuel 22

1Adafydd a aeth ymaith oddi yno, ac a ddihangodd i ogof Adulam: a phan glybu ei frodyr a holl dy ei dad ef hynny, hwy a aethant i waered ato ef yno.; º

2Ymgynullodd hefyd ato ef bob gŵr helbulus, a phob gŵr a oedd mewn dyled, a phob gŵr cystuddiedig o feddwl; ac efe a fu yn dywysog arnynt hwy: ac yr oedd gydag ef ynghylch pedwar cant o wŷr. º

3A Dafydd a aeth oddi yno i Mispa Moab; ac a ddywedodd wrth frenin Moab, Deled, atolwg, fy nhad a’m mam i aros gyda chwi, hyd oni wypwyf beth a wnel Duw i mi. º

4Ac efe a’u dug hwynt gerbron brenin Moab: ac arosasant gydag ef yr holl ddyddiau y bu Dafydd yn yr amddiffynfa. º

5A Gad y proffwyd a ddywedodd wrth Dafydd, Nac aros yn yr arnddiffynfa; dos ymaith, a cherdda rhagot i wlad Jwda. Felly Dafydd a ymadawodd, ac a ddaeth i goed Hareth. º

6A phan glybu Saul gael gwybodaeth am Dafydd, a’r gwŷr oedd gydag ef, (a Saul oedd yn aros yn Gibea dan bren yn Rama, a’i waywffon yn ei law, a’i holl weision yn sefyll o’i amgylch;) º

7Yna Saul a ddywedodd wrth ei weision oedd yn sefyll o’i amgylch, Clywch, atolwg, feibion Jemini: A ddyry mab Jesse i chwi oll feysydd, a gwinllannoedd? a esyd efe chwi oll yn dywysogion ar filoedd, ac yn dywysogion ar gannoedd; º

8Gan i chwi oll gydfwriadu i’m herbyn i, ac nad oes a fynego i mi wneuthur o’m mab i gynghrair a mab Jesse, ac nid oes neb ohonoch yn ddrwg ganddo o’m plegid i, nac yn datguddio i mi ddarfod I’m mab annog fy ngwas i gynllwyn i’m herbyn, megis y dydd hwn? º

9Yna yr atebodd Doeg yr Edomiad, yr hwn oedd wedi ei osod ar weision Saul, ac a ddywedodd, Gwelais fab Jesse yn dyfod i Nob at Ahimelech mab Ahitub. º

10Ac efe a ymgynghorodd drosto ef ft’r ARGLWYDD; ac a roddes fwyd iddo vf; cleddyf Goleiath y Philistiad a roddes rf’e hefyd iddo. º

11Yna yr anfonodd y brenin i alw Ahimelech yr offeiriad, mab Ahitub, a lioll dy ei dad ef, sef yr offeiriaid oedd yn Nob. A hwy a ddaethant oll at y hrenin. º

12A Saul a ddywedodds Gwrando yn awr, mab Ahitub. Dywedodd yntau, Wele fi, fy arglwydd. º

13A dywedodd Saul wrtho ef, Paham y cydfwriadasoch i’m herbyn i, ti a mab’ Jesse, gan i ti roddi iddo fara, a chleddyf,;ic ymgynghori â Duw drosto ef, fel y cyfodai yn fy erbyn i gynllwyn, megis heddiw? º

14Ac Ahimelech a atebodd y brenin, ac a ddywedodd, Pwy ymysg dy holl weision di sydd mor ffyddlon a Dafydd, ac yn ddaw i’r brenin, ac yn myned wrth dy orchymyn, ac yn anrhydeddus yn dy dŷ di? º

15Ai y dydd hwnnw y dechreuais i ymgynghori a Duw drosto ef? na ato Duw i mi. Na osoded y brenin ddim yn erbyn ei was, nac yn erbyn neb o dy fy nhad: canys ni wybu dy was di ddim o hyn oll, nac ychydig na llawer. º

16A dywedodd y brenin, Gan farw y byddi farw, Ahimelech, tydi a holl fly dy dad. º

17A’r brenin a ddywedodd wrth y rhedegwyr oedd yn sefyll o’i amgylch ef, Trowch, a lleddwch offeiriaid yr AR¬GLWYDD; oherwydd bod eu llaw hwynt hefyd gyda Dafydd, ac oherwydd iddynt wybod ffoi ohono ef, ac na fynegasant i mi. Ond gweis ion y brenin nid estynnent eu llaw i ruthro ar offeiriaid yr AR¬GLWYDD. º

18A dywedodd y brenin wrth Doeg, Tro di, a rhuthra ar yr offeiriaid. A Doeg yr Edomiad a drodd, ac a ruthrodd ar yr offeiriaid, ac a laddodd y diwrnod hwnnw bump a phedwar ugain o wŷr, yn dwyn effod liain. º

19Efe a drawodd hefyd Nob, dinas yr oft’eiriaid, â min y cleddyf, yn ŵr ac yn wraig, yn ddyn bach ac yn blentyn sugno, ac yn ych, ac yn asyn, ac yn oen, â min y cleddyf.:: º

20Ond un mab i Ahimelech mab;, Ahitub, a’i enw Abiathar, a ddihangodd, ac a ffodd ar ôl Dafydd.;. ‘ º

21Ac Abiathar a fynegodd i Dafydd,. ddarfod i Saul ladd offeiriaid yr AR¬GLWYDD. º

22A dywedodd Dafydd wrth Abiathar, Gwybum y dydd hwnnw, pan oedd Doeg yr Edomiad yno, gan fynegi y mynegai; efe i Saul: myfi a fum achlysur marwotaeth i holl dylwyth ty dy dad di. º

23Aros gyda mi; nac ofna: canys yr hwn sydd yn ceisio fy einioes i, sydd yn ceisio dy einioes dithau: ond gyda mi y byddi di gadwedig.

← Ail Lyfr Samuel 21Read In The App, Free →Ail Lyfr Samuel 23 →

Study Ail Lyfr Samuel 22

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031