The Bible Software
Ail Lyfr Samuel · Beibl (1620)

Ail Lyfr Samuel 8

1AC wedi heneiddio Samuel, efe a osododd ei feibion yn farnwyr ar Israel. º

2Ac enw ei fab cyntaf-anedig ef oedd Joel; ac enw yr ail, Abeia: y rhai hyn oedd farnwyr yn Beerseba. º

3A’i feibion ni rodiasant yn ei ffyrdd ef, eithr troesant ar ôl cybydd-dra, a chymerasant obrwy, a gwyrasant farn. º

4Yna holl henuriaid Israel a ymgasglasant, ac a ddaethant at Samuel i Rama, º

5Ac a ddywedasant wrtho ef, Wele, ti a heneiddiaist, a’th feibion ni rodiant yn dy ffyrdd di: yn awr gosod arnom ni frenin i’n barnu, megis yr holl genhedloedd. º

6A’r ymadrodd fu ddrwg gan Samuel, pan ddywedasant, Dyro i ni frenin i’n barnu: a Samuel a weddïodd ar yr ARGLWYDD. º

7A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, Gwrando ar lais y bobl yn yr hyn oll a ddywedant wrthyt: canys nid ti y maent yn ei wrthod, ond myfi a wrthodasant, rhag i mi deyrnasu arnynt. º

8Yn ôl yr holl weithredoedd a wnaeihant, o’r dydd y dygais hwynt o’r Aifft hyd y dydd hwn, ac fel y gwrthodasant fi, ac y gwasanaethasant dduwiau dieithr; felly y gwnant hwy hefyd i ti. º

9Yn awr gan hynny gwrando ar en llais hwynt: eto gan dystiolaethu tystiolaetha iddynt, a dangos iddynt ddull y brenin a deyrnasa arnynt. º

10A Samuel a fynegodd holl eiriau yr ARGLWYDD wrth y bobl, y rhai oedd yn ceisio brenin ganddo. º

11Ac efe a ddywedodd, Dyma ddull y brenin a deyrnasa arnoch chwi: Efe a gymer eich meibion, ac a’u gesyd iddo yn ei gerbydau, ac yn wŷr meirch iddo, ac i redeg o flaen ei gerbydau ef: º

12Ac a’u gesyd hwynt iddo yn dywysogion miloedd, ac yn dywysogion deg a deugain, ac i aredig ei ar, ac i fedi ei gynhaeaf, ac i wneuthur arfau ei ryfel, a pheiriannau ei gerbydau. º

13A’ch merched a gymer efe yn apothecaresau, yn gogesau hefyd, ac yn bobyddesau. º

14Ac efe a gymer eich meysydd, a’ch gwinllannoedd, a’ch olewlannoedd gorau, ac a’u dyry i"w weision. º

15Eich hadau hefyd a’ch gwinllan¬noedd a ddegyma efe, ac a’u dyry i’w ystafellyddion ac i’w weision. º

16Eich gweision hefyd, a’ch morynion, eich gwŷr ieuainc gorau hefyd, a’ch asynnod, a gymer efe, ac a’u gesyd i’w waith. º

17Eich defaid hefyd a ddegyma efe: chwithau hefyd fyddwch yn weision iddo ef. º

18A’r dydd hwnnw y gwaeddwch, rhag eich brenin a ddewisasoch i chwi: ac ni wrendy yr ARGLWYDD arnoch yn y dydd hwnnw. º

19Er hynny y bobl a wnhodasant wrando ar lais Samuel; ac a ddywed" asant, Nage, eithr brenin fydd arnom ni: º

20Fel y byddom ninnau hefyd fel yr holl genhedloedd; a’n brenin a’n barna ni, efe a â allan hefyd o’n blaen ni, ac efe a ymladd ein rhyfeloedd ni. º

21A gwrandawodd Samuel holl eiriau y bobl, ac a’u hadroddodd hwynt lle y clybu yr ARGLWYDD. º

22A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Samuel, Gwrando ar eu llais hwynt, a gosod frenin arnynt. A dywedodd Samuel wrth wŷr Israel, Ewch bob un i’w ddinas ei hun.

← Ail Lyfr Samuel 7Read In The App, Free →Ail Lyfr Samuel 9 →

Study Ail Lyfr Samuel 8

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031