Ail Lyfr Samuel 18
1A wedi darfod iddo ymddiddan a Saul, enaid Jonathan a ymglymodd wrth enaid Dafydd; a Jonathan a’i carodd ef megis ei enaid ei hun. º
2A Saul a’i cymerth ef ato y diwrnod hwnnw, ac ni adawai iddo ddychwelyd i dŷ ei dad. º
3Yna. Jonathan a Dafydd a wnaethant gyfamod; oherwydd efe a’i carai megis ei enaid ei hun. º
4A Jonathan a ddiosgodd y fantell oedd amdano ei hun, ac a’i rhoddes i Dafydd, a’i wisgoedd, ie, hyd yn oed ei gleddyf, a’i fwa, a’i wregys. º
5*I A Dafydd a aeth i ba le bynnag yr anfonodd Saul ef, ac a ymddug yn ddoeth. A Saul a’i gosododd ef ar y rhyfelwyr: ac efe oedd gymeradwy yng ngolwg yr holl bobl, ac yng ngolwg gweision Saul hefyd. º
6A bu, wrth ddyfod ohonynt, pan ddychwelodd Dafydd o ladd y Phiiistiad, ddyfod o’r gwragedd allan o holl ddinasoedd Israel, dan ganu a dawnsio, i gyfarfod a’r brenin Saul a thympanau, a gorfoledd, ac ag offer cerdd dannau. º
7A’r gwragedd wrth ganu a ymatebent, ac a ddywedent, Lladdodd Saul ei filoedd, a Dafydd ei fyrddiwn. º
8A digiodd Saul yn ddirfawr, a’r ymadrodd hwn oedd ddrwg yn ei olwg ef; ac efe a ddywedodd, Rhoddasant i Dafydd fyrddiwn, ac i mi y rhoddasant filoedd: beta mwy a roddent iddo ef, ond y frenhiniaeth? º
9A bu Saul a’i lygad ar Dafydd o’r dydd hwnnw allan. º
10Bu hefyd drannoeth, i’r drwg ysbryd oddi wrth DDUW ddyfod ar Saul; ac efe a broffwydodd yng nghanol y ty: a Dafydd a ganodd a’i law, fel o’r blaen: a gwaywffon oedd yn llaw Saul. º
11A Saul a daflodd y waywffon; ac a ddywedodd, Trawaf trwy Dafydd yn y pared. A Dafydd a giliodd ddwywaittt o’i ŵydd ef. º
12A Saul oedd yn ofni Dafydds oherwydd bod yr ARGLWYDD gydag ef, a chilio ohono oddi wrth Saul. º
13Am hynny Saul a’i gyrrodd ef ymaith oddi wrtho, ac a’i gosododd ef yn dywysog ar fil: ac efe a aeth i mewn ac allan o flaen y bobl. º
14A Dafydd a ymddug yn ddoeth yn ei holl ffyrdd; a’r ARGLWYDD oediS gydag ef. º
15A phan welodd Saul ei fod ef yn ddoeth iawn, efe a’i hofnodd ef.; º
16Eithr holl Israel a Jwda & garodd Dafydd, am ei fod ef yn myned i mewa ac allan o’u blaen hwynt. º
17A dywedodd Saul with Dafydd, Wele Merab fy merch hynaf, hi a roddaf fi i ti yn wraig: yn unig bydd i mi yn fab nerthol, ac ymladd ryfeloedd yr AR¬GLWYDD. (Canys dywedasai Saul, Ni bydd fy llaw i arno ef, ond llaw y Philistiaid fydd arno ef.) º
18A Dafydd a ddywedodd with Saul, Pwy ydwyf fl? a pheth yw fy mywyd, neu dylwyth fy nhad i yn Israel, fel y byddwn yn ddaw i’r brenin? º
19Eithr yn yr amser y dylesid rhoddi Merab merch Saul i Dafydd, hi a roddwyd i Adriel y Meholathiad yn wraig. º
20A Michal merch Saul a garodd Dafydd: a mynegasant hynny i Saul; a’r peth fu fodlon ganddo. º
21A dywedodd Saul, Rhoddaf hi iddo ef, fel y byddo hi iddo yn fagi, ac y byddo llaw y Philistiaid yn ei erbyn ef. Felly Saul a ddywedodd wrth Dafydd, Trwy un o’r ddwy y byddi fab yng " nghyfraith i mi heddiw. º
22A Saul a orchmynnodd i’w weision fel hyn; Ymddiddenwch a Dafydd yn ddirgel, gan ddywedyd, Wele, y brenin sydd hoff ganddo dydi, a’i holl weision ef a’th garant di: yn awr gan hynny ymgyfathracha a’r brenin. º
23A gweision Saul a adroddasant wrth Dafydd y geiriau hyn. A Dafydd a ddywedodd, Ai ysgafn yw yn eich golwg chwi ymgyfathrachu a brenin, a minnau yn ŵr tlawd a gwael? º
24A gweision Saul a fynegasant iddo, gan ddywedyd, Fel hyn y llefarodd Dafydd. º
25A dywedodd Saul, Fel hyn y dywedwch wrth Dafydd; Nid yw y brenin yn ewyllysio cynhysgaeth, ond cael cant o flaengrwyn y Philistiaid, i ddial ar elynion y brenin. Ond Saul oedd yn meddwl peri lladd Dafydd trwy law y Philistiaid. º
26A’i weision ef a fynegasant i Dafydd y geiriau hyn; a’r ymadrodd fu fodlon gan Dafydd am ymgyfathrachu a’r brenin; ac ni ddaethai yr amser eto. º
27Am hynny y cyfododd Dafydd, ac efe a aeth, a’i wŷr, ac a drawodd ddau cannwr o’r Philistiaid: a Dafydd a ddygodd eu blaengrwyn hwynt, a hwy a’u cwbl dalasant i’r brenin, i ymgyfath¬rachu ohono ef a’r brenin. A Saul a roddodd Michal ei ferch yn wraig iddo ef. º
28A Saul a welodd ac a wybu fod yr ARGLWYDD gyda Dafydd, a bod Michal merch Saul yn ei garu ef. º
29A Saul oedd yn ofni Dafydd yn fwy eto: a bu Saul yn elyn i Dafydd byth. º
30Yna tywysogion y Philistiaid a aent allan: a phan elent hwy, Dafydd a fyddai ddoethach na holl weision Saul; a’i enw ef a aeth yn anrhydeddus iawn.