Ail Lyfr Samuel 31
1AR Philistiaid oedd yn ymladd yn erbyn Israel: a gwŷr Israel a ffoes¬ant rhag y Philistiaid, ac a syrthiasant yn archolledig ym mynydd Gilboa. º
2A’r Philistiaid a erlidiasant ar ôl Saul a’i feibion; a’r Philistiaid a laddasant Jonathan, ac Abinadab, a Malci-sua, meibion Saul. º
3A thrymhaodd y rhyfel yn erbyn Saul, a’r gwŷr Bwâu a’i cawsant ef; ac efe a archollwyd yn dost gan y saethyddion, º
4Yna y dywedodd Saul wrth yr hwn a osdd yn dwyn ei arfau ef, Tyn dy gleddyf:, a thrywana fi ag ef; rhag i’r rhai dienwaededig yma ddytbd a’m trywanu i, a’m gwaradwyddo. Ond ni fynnai ei yswain ef; canys efe a ddychrynasai yn ddirfawr: am hynny Saul a gymerodd gleddyf, ac a syrthiodd arno. º
5A phan welodd ei yswain farw o Saul, yntau hefyd a syrthiodd ar ei gleddyf, ac a fu farw gydag ef. º
6Felly y bu farw Saul, a’i dri mab, a’i yswain, a’i holl wŷr, y dydd hwnnw ynghyd. ‘
7A phan welodd gwŷr Israel, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r dyffryn, a’r rhai oedd o’r tu hwnt i’r Iorddonen, ffoi gwŷr Israel, a marw Saul a’i feibion, hwy a adawsant y dinasoedd, ac a ffoesant; a’r Philistiaid a ddaethant ac a drigasant ynddynt. º
8A’r bore, pan ddaeth y Philistiaid i ddiosg y lladdedigion, hwy a gawsant Saul a’i dri mab yn gorwedd ym mynydd Gilboa. º
9A hwy a dorasant ei ben ef, ac a ddiosgasant ei arfau ef, ac a anfonasant i wlad y Philistiaid o bob parth, i fynegi yn nhŷ eu delwau hwynt, ac ymysg y bobl., º
10A gosodasant ei arfau ef yn nhŷ Astaroth; a’i gorff ef a hoeliasant hwy ar fur Bethsan. º
11A phan glybu trigolion Jabes Gilead yr hyn a wnaethai y Philistiaid i Saul; º
12Yr holl wŷr nerthol a gyfodasant, a gerddasant ar hyd y nos, ac a ddygasant ymaith gorff Saul, a chyrff ei º 1 feibion ef, oddi ar fur Bethsan, ac a ddaethant i Jabes, ac a’u llosgasant hwynt yno. º
13A hwy. a gymerasant eu hesgyrn hwynt, ac a’u claddasant dan bren yn Jabes, ac ymprydiasant saith niwrnod.