Ail Lyfr Samuel 23
1YNA y mynegasant i Dafydd, gan ddywedyd, Wele y Philistiaid yn ymladd yn erbyn Ceila; ac y maent hwy yn anrheithio yr ysguboriau. º
2Am hynny y gofynnodd Dafydd i’r ARGLWYDD, gan ddywedyd, A af fi a tharo’r Philistiaid hyn? A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Dafydd, DOS, a tharo’’r Philistiaid, ac achub Ceila.: º
3A gwŷr Dafydd a ddywedasant wrtho ef, Wele ni yn ofnus yma yn Jwda: pa faint mwy os awn i Ceila, yn erbyn byddinoedd y Philistiaid? º
4Yna Dafydd eilwaith a ymgyng¬horodd a’r ARGLWYDD. A’r ARGLWYDD a’i hatebodd ef, ac a ddywedodd, Cyfod, dos xxx i waered i Ceila; canys myfi a roddaf y Philistiaid yn dy law di. º
5A Dafydd a’i wŷr a aethant i Ceila, ac a ymladdodd a’r Philistiaid: ac a ddug eu gwartheg hwynt, ac a’u trawodd hwynt a lladdfa fawr. Felly y gwaredodd Dafydd drigolion Ceila. º
6A bu, pan ffodd Abiathar mab Ahimelech at Dafydd i Ceila, ddwyn ohono ef effod yn ei law. º
7A mynegwyd i Saul ddyfod Dafydd i Ceila. A dywedodd Saul, Duw a’i rhoddodd ef yn fy llaw i: canys caewyd arno ef pan ddaeth i ddinas a phyrth ac a barrau iddi. º
8A Saul a alwodd yr holl boblynghyd i ryfel, i fyned i waered i Ceila, i warchae as Dafydd ac ar ei wŷr. º
9A gwybu Dafydd fod Saul yn bwriadu drwg i’w erbyn ef: ac efe a ddyvyfedodd wrth Abiathar yr offeiriad, Dwg yr effod. º
10Yna y dywedodd Dafydd, O AR¬GLWYDD DDUW Israel, gan glywed y clybu dy was, fod Saul yn ceisio dyfod i (Eeila, i ddistrywio y ddinas er fy nwyn i. º
11A ddyry arglwyddi Ceila fi yn ei law ef? a ddaw Saul i waered, megis y clybu dy was? O ARGLWYDD DDUW Israel, mynega, atolwg, i’th was. A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Efe a ddaw i waered. º
12Yna y dywedodd Dafydd, A ddyry arglwyddi Ceila fyfi a’m gwŷr yn llaw Saul? A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Rhoddant. º
13Yna y cyfododd Dafydd a’i wŷr, y rhai oedd ynghylch chwe chant, ac a aethant o Ceila, ac a rodiasant lle y gallent. A mynegwyd i Saul, fod Dafydd wedi dianc o Ceila; ac efe a beidiodd &, myned allan. º
14A Dafydd a arhosodd yn yr anialwch mewn amddiffynfeydd, ac a arhodd mewn mynydd, yn anialwch Siff: a Saul a’i ceisiodd ef bob dydd: ond ni roddodd Duw ef yn ei law ef.; º
15A gwelodd Dafydd fod Saul wedi myned allan i geisio ei einioes ef: a Dafydd oedd yn anialwch Siff, mewa coed. º
16A Jonathan mab Saul a gyfododd, ac a aeth at Dafydd i’r coed, afra gryfhaodd ei law ef yn Nuw. º
17Dywedodd hefyd wrtho ef, Nac ofna: canys llaw Saul fy nhad ni’th gaiff di, a thi a deyrnesi ar Israel, a minnau a fyddaf yn nesaf atat ti: a Saul fy nhad sydd yn gwybod hyn hefyd. º
18A hwy ill dau a wnaethant gyfamod gerbron yr ARGLWYDD. A Dafydd a arhosodd yn y coed; a Jonathan a aeth i’w dy ei hun. º
19Yna y daeth y Siffiaid i fyny at Saul i Gibea, gan ddywedyd, Onid yw Dafydd yn ymguddio gyda ni mewn arnddiffynfeydd yn y coed, ym mryn Hachila, yr hwn sydd o’r tu deau i’r diffeithwch? º
20Ac yn awr, O frenin, tyred i waered yn ôl holl ddymuniad dy galon; a bydded arnom ni ei roddi ef yn llaw y brenin. º
21A dywedodd Saul, Bendigedig fyddoch chwi gan yr ARGLWYDD: canys tosturiasoch wrthyf. º
22Ewch, atolwg, paratowch; eto myanwch wybod hefyd, ac edrychwch am ei gyniweirfa ef, lle y mae efe yn tramwy, a. phwy a’i gwelodd ef yno; canys dywedwyd i mi ei fod ef yn gyfrwys iawn. º
23Edrychwch gan hynny, a mynnwch wybod yr holl lochesau y mae efe yn ymguddio ynddynt, a dychwelwch ataf fi a sicrwydd, fel yr elwyf gyda chwi; a os bydd efe yn y wlad, mi a chwiliaf amdano ef trwy holl filoedd Jwda. º
24A hwy a gyfodasant, ac a aethant i Siff o flaen Saul: ond Dafydd a’i wvr oedd yn anialwch Maon, yn y rhos o’r tu deau i’r diffeithwch. º
25Saul hefyd a’i wŷr a aeth i’w geisio ef. A mynegwyd i Dafydd: am hynny efe a ddaeth i waered i graig, ac a arhosodd yn anialwch Maon. A phan glybu Saul hynny, efe a erlidiodd ar ôl Dafydd yn anialwch Maon. º
26A Saul a aeth o’r naill du i’r mynydd,: a Dafydd a’i wŷr o’r tu. arall i’r mynydd ac yr oedd Dafydd yn brysio i fyned ymaith rhag ofn Saul; canys Saul a’i wŷr a amgylchynasant Dafydd a’i wŷr, i’w dala hwynt. º
27Ond cennad a ddaeth at Saul, gan ddywedyd, Brysia, a thyred: canys y Philistiaid a ymdaenasant ar hyd y wlad. º
28Am hynny y dychwelodd Saul o erlid ar ôl Dafydd; ac efe a aeth yn erbyn y Philistiaid: oherwydd hynny y galwasaat y fan honno Sela Hammalecoth. º
29A Dafydd a aeth i fyny oddi yno, ac a arhosodd yn amddiffynfeydd En-gedi.