Ail Lyfr Samuel 21
1ddychrynodd wrth gyfarfod âDafydd; ac a ddywedodd wrtho, Paham yr ydwyt ti yn unig, ac heb neb gyda thi? º
2A dywedodd Dafydd wrth Ahi¬melech yr offeiriad, Y brenin a orchmynnodd i mi beth, ac a ddywedodd wrthyf, Na chaed neb wybod dim o’r peth am yr hwn y’th anfonais, ac y gorchmynnais i ti: a’r gweision a gyfarwyddais i i’r lle a’r lle. º
3Ac yn awr beth sydd dan dy law? dod i mi bûm torth yn fy llaw neu y ptth sydd i’w gael. º
4A’r offeiriad a atebodd Dafydd, ac a ddywedodd, Nid oes fara cyffredin dan fy llaw i; eithr y mae bara cysegredig: ds y llanciau a ymgadwasant o’r lleiaf oddi wrth wragedd. º
5A Dafydd a atebodd yr offeiriad, ac a ddywedodd wrtho, Diau atal gwragedd oddi wrthym ni er ys dau ddydd neu dri, er pan gychwynnais i, llestri y llanciau hefyd ydynt sanctaidd, a’r bara sydd megis cyffredin, ie, petal wedi ei gysegru heddiw yn y llestr. º
6Felly yr offeiriad a roddodd iddo ef y bara sanctaidd: canys nid oedd yno fara, ond y bara gosod, yr hwn a dynasid ymaith oddi gerbron yr ARGLWYDD, i osod bara brwd yn y dydd y tynnid ef ymaith. º
7Ac yr oedd yno y diwrnod hwnnw;un o weision Saul yn aros gerbron yr ARGLWYDD, a’i enw Doeg, Edomiad, y pennaf o’r bugeiliaid oedd gan Saul. º
8A dywedodd Dafydd with Ahime¬lech, Onid oes yma dan dy law di waywffon, neu gleddyf? canys ni ddygais fy nghleddyf na’m harfau chwaith i’m llaw, oherwydd bod gorchymyn y brenin ar ffrwst. º
9A dywedodd yr offeiriad, Cleddyf Goleiath y Philistiad, yr hwn a leddaist ti yn nyffryn Ela; wele ef wedi ei oblygu mewn brethyn o’r tu ôl i’r effod: o chymeri hwnnw i ti, cymer; canys nid oes yma yr un arall ond hwnnw. A Dafydd a ddywedodd, Nid oes o fath hwnnw; dyro efi mi. ro Dafydd hefyd a gyfododd, ac a ffodd y dydd hwnnw rhag ofn Saul, ac a aeth at Achis brenin Gath. º
11A gweision Achis a ddywedasant wrtho ef, Onid hwn yw Dafydd brenin y wlad? onid i hwn y canasant yn y dawnsiau, gan ddywedyd, Saul a laddodd iei filoedd, a Dafydd ei fyrddiwn? º
12A Dafydd a osododd y geiriau hynny yn ei galon, ac a ofnodd yn ddirfawr rhag Achis brenin Gath. º
13Ac efe a newidiodd ei wedd yn eu golwg hwynt; ac a gymerth arno ynfydu rhwng eu dwylo hwynt, ac a gripiodd ddrysau y porth, ac a ollyngodd ei boeryn i lawr ar ei farf. º
14Yna y dywedodd Achis wrth ei weision, Wele, gwelwch y gŵr yn gwallgofi, paham y dygasoch ef ataf fi?: º
15Ai eisiau ynfydion sydd arnaf fi, pan ddygasoch hwn i ynfydu o’m blaen i? a gaiff hwn ddyfod i’m ty i?