The Bible Software
Llyfr y Diarhebion · Beibl (1620)

Llyfr y Diarhebion 1

1Diarhebion Solomon mab Dafydd, brenin Israel;

2I wybod doethineb ac addysg, i ddeall geiriau synnwyr;

3I gymryd athrawiaeth deall, cyfiawnder, a barn, ac uniondeb;

4I roi callineb i’r angall, ac i’r bachgen wybodaeth a synnwyr.

5Y doeth a wrendy, ac a chwanega addysg; a’r deallgar a ddaw i gynghorion pwyllog:

6I ddeall dihareb, a’i deongl; geiriau y doethion, a’u damhegion.

7Ofn yr ARGLWYDD yw dechreuad gwybodaeth: ond ffyliaid a ddiystyrant ddoethineb ac addysg.

8Fy mab, gwrando addysg dy dad, ac nac ymado â chyfraith dy fam:

9Canys cynnydd gras a fyddant hwy i’th ben, a chadwyni am dy wddf di.

10Fy mab, os pechaduriaid a’th ddenant, na chytuna.

11Os dywedant, Tyred gyda ni, cynllwynwn am waed, ymguddiwn yn erbyn y gwirion yn ddiachos:

12Llyncwn hwy yn fyw, fel y bedd; ac yn gyfan, fel rhai yn disgyn i’r pydew:

13Nyni a gawn bob cyfoeth gwerthfawr, nyni a lanwn ein tai ag ysbail:

14Bwrw dy goelbren yn ein mysg; bydded un pwrs i ni i gyd:

15Fy mab, na rodia yn y ffordd gyda hwynt; atal dy droed rhag eu llwybr hwy.

16Canys eu traed a redant i ddrygioni, ac a brysurant i dywallt gwaed.

17Diau gwaith ofer yw taenu rhwyd yng ngolwg pob perchen adain.

18Ac y maent hwy yn cynllwyn am eu gwaed eu hun: am eu heinioes eu hun y maent yn llechu.

19Felly y mae llwybrau y rhai oll sydd chwannog i elw; yr hwn a ddwg einioes ei berchenogion.

20Doethineb sydd yn gweiddi oddi allan; y mae hi yn adrodd ei lleferydd yn yr heolydd:

21Y mae hi yn llefain ym mhrifleoedd y dyrfa, yn nrysau y pyrth; yn y ddinas y mae hi yn traethu ei hymadroddion, gan ddywedyd,

22Pa hyd, chwi ynfydion, y cerwch ynfydrwydd? a chwi watwarwyr, y bydd hoff gennych watwar? ac y casâ ffyliaid wybodaeth?

23Dychwelwch wrth fy ngherydd: wele, mi a dywalltaf fy ysbryd i chwi, fy ngeiriau a hysbysaf i chwi.

24Yn gymaint ag i mi eich gwahodd, ac i chwithau wrthod; i mi estyn fy llaw, a neb heb ystyried;

25Ond diystyrasoch fy holl gyngor i, ac ni fynnech ddim o’m cerydd:

26Minnau hefyd a chwarddaf yn eich dialedd chwi; mi a wawdiaf pan syrthio arnoch yr hyn yr ydych yn ei ofni;

27Pan ddêl amoch yr hyn yr ydych yn ei ofni megis distryw, ac y dêl eich dialedd arnoch megis corwynt; a dyfod arnoch wasgfa a chaledi:

28Yna y galwant arnaf, ond ni wrandawaf; yn fore y’m ceisiant, ond ni’m cânt:

29Canys cas fu ganddynt wybodaeth, ac ofn yr ARGLWYDD ni ddewisasant:

30Ni chymerent ddim o’m cyngor i; dirmygasant fy holl gerydd.

31Am hynny hwy a gant fwyta ffrwyth eu ffordd eu hunain, a’u llenwi â’u cynghorion eu hunain.

32Canys esmwythdra y rhai angall a’u lladd; a llwyddiant y rhai ffôl a’u difetha.

33Er hynny y sawl a wrandawo arnaf fi, a gaiff aros yn ddiogel, ac a gaiff lonyddwch oddi wrth ofn drwg.

← Llyfr y Salmau 150Read In The App, Free →Llyfr y Diarhebion 2 →

Study Llyfr y Diarhebion 1

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031