Llyfr y Diarhebion 19
1Gwell yw y tlawd a rodio yn ei uniondeb, iialr triws ei wefusau, ac yntau yn ffôl.
2Hefyd, bod yr enaid heb wybodaeth, nid yw dda; ar hwn sydd brysur ei draed a becha.
3Ffolineb dyn a ŵyra ei ffordd ef: a’i galon a ymddigia yn erbyn yr ARGLWYDD.
4Cyfoeth a chwanega lawer o gyfeilhon: hond y tlawd a ddidolir oddi wrth ei gymydog.
5Tyst celwyddog ni bydd dieuog: a lluniwr celwyddau ni ddianc.
6Llawer ymbiliant o flaen pendefig: a phawb sydd gyfaill i’r hael.
7Holl frodyr y tlawd â’i casânt ef - pa faint mwy yr ymbellha ei gyfeillion oddi wrtho? er maint a ymnheddo, ni throant ato
8A gaffo ddoethitleb a gâr ei enaid: a gadwo ddeeall a ennill ddaioni.
9Tyst celwyddog ni bydd dieuog, a thraethwr celwyddau a ddifethir.
10Nid gweddaidd i ffôl hyfrydwch: anweddeiddiach o lawer i was arglwyddiaethu ar benaethiaid.
11Synnwyr dyn a oeda ei ddigofaint ef: a harddwch yw iddo fyned drog gamwedd.
12Llid y brenin sydd megis rhuad llew ieuanc: ond ei ffafr ef sydd megis gwlith ar laswellt
13Mab ffôl sydd orthrymder i’w dad: ac ymserth gwraig sydd megis defni parhaus.
14Tŷ a chyfoeth ŷnt etifeddiaeth y tadau: ond rhodd yr ARGLWYDD yw gwraig bwyllog.
15Syrthni a bair drymgwsg: ac enaod twyllodrus a newyna.
16Y neb a gadwo y gorchymyn a geidw ei enaid: a’r neb a esgeuluso ei ffyrdd fydd farw.
17Y neb a gymero drugaredd ar y tlawd, sydd yn rhoddi echwyn i’r ARGLWYDD; a’i rodd a dâl efe iddo drachefn.
18Cerydda dy fab tra fyddo gobaith; ac nac arbeded dy enaid ef, i’w ddifetha.
19Y mawr ei ddig a ddwg gosbedigaeth: canys os ti a’i gwaredi, rhaid i ti wneuthur hynny drachefn.
20Gwrando gyngor, a chymer addysg; fel y byddych ddoeth yn dy ddiwedd.
21Bwriadau lawer sydd yng nghalon dyn: ond cyngor yr ARGLWYDD, hwnnw a saif.
22Deisyfiad dyn yw ei dragaredd ef: a gwell yw y dyn tlawd na’r gŵr celwyddog.
23Ofn yr ARGLWYDD a dywys i fywyd: a’r neb y byddo ganddo a erys yn ddiwall, heb i ddrwg ymweled ag ef.
24Y dyn swrth a gudd ei law yn ei fynwes, ac ni estyn hi at ei enau.
25Taro watwarwr, a’r ehud fydd gyfrwysach: a phan geryddych y deallus, efe a ddeall wybodaeth.
26Mab gwaradwyddus gwarthus a anrheithia ei dad ac a yrr ei fam ar grwydr
27Fy mab, paid â gwrando yr addysg a bair i ti gyfeiliorni oddi wrth eiriau gwybodaeth.
28Tyst y fall a watwar farn: a geniau y drygionus a lwnc anwiredd
29Barn sydd barod i’r gwatwarwyr, a chleisiau i gefn y ffyliaid.