The Bible Software
Llyfr y Diarhebion · Beibl (1620)

Llyfr y Diarhebion 12

1Y neb a garo addysg, a gâr wybodaeth: ond y neb a gasao gerydd, anifeilaidd yw.

2Gŵr da a gaiff ffafr gan yr ARGLWYDD: ond gŵr o ddichellion drwg a ddamnia efe.

3Ni sicrheir dyn trwy ddrygioni: ond gwraidd y cyfiawn nid ysgoga.

4Gwraig rymus sydd goron i’w gŵr: ond y waradwyddus sydd megis pydrni yn ei esgyrn ef.

5Meddyliau y cyfiawn sydd uniawn: a. chynghorion y drygionus sydd dwyllodrus.

6Geiriau y drygionus yw cynllwyn am waed: ond genau yr uniawn a’u gwared hwynt.

7Difethir y drygionus, fel na byddont hwy: ond tŷ y cyfiawn a saif.

8Yn ôl ei ddeall y canmolir gŵr: ond gŵr cyndyn ei galon a ddiystyrir.

9Gwell yw yr hwn a’i cydnabyddo ei.hun yn wael, ac sydd was iddo ei hun, na’r hwn a’i hanrhydeddo ei hun, ac sydd arno eisiau bara.

10Y cyfiawn a fydd ofalus am fywyd ei anifail: ond tosturi y drygionus sydd greulon.

11Y neb a lafurio ei dir, a ddigonir o fara: ond y neb a ganlyno oferwyr, disynnwyr yw.

12Y drygionus sydd yn deisyf rhwyd y drygionus: ond gwreiddyn y cyfiawn a rydd ffrwyth.

13Trwy drosedd ei wefusau y meglir y drygionus: ond y cyfiawn a ddaw allan o gyfyngder.

14Trwy ffrwyth ei enau y digonir gŵr â daioni; a thaledigaeth dwylo dyn a delir iddo.

15Ffordd yr ynfyd sydd uniawn yn ei olwg ei hun; ond y neb a wrandawo ar gyngor sydd gall.

16Mewn un dydd y gwybyddir dicter yr ynfyd: ond y call a guddia gywilydd.

17Y neb a ddywedo y gwir, a ddengys gyfiawnder; ond gau dyst a draetha dwyll.

18Rhyw ddyn a ddywed eiriau fel brath cleddyf: ond tafod y doethion sydd feddyginiaeth.

19Gwefus gwirionedd a saif byth: ond tafod celwyddog ni saif funud awr.

20Dichell sydd yng nghalon y rhai a ddychmygant ddrwg: ond i gynghorwyr heddwch y bydd llawenydd.

21Ni ddigwydd i’r cyfiawn ddim blinder; ond y drygionus a lenwir â drwg.

22Ffiaidd gan yr ARGLWYDD wefusau celwyddog: ond y rhai a wnânt yn ffyddlon, a rygnant fodd iddo ef.

23Gŵr pwyllog a gela wybodaeth: ond calon ffyliaid a gyhoedda ffolineb.

24Llaw y diesgeulus a deyrnasa: a llaw y twyllodrus a fydd dan deyrnged.

25Gofid yng nghalon gŵr a bair iddi grymu: ond gair da a’i llawenha hi.

26Y cyfiawn a ragora ar ei gymydog: ond ffordd y rhai drygionus a’u twylla hwynt.

27Ni rostia y twyllodrus ei helwriaeth: ond golud y dyn diesgeulus sydd werthfawr.

28Yn ffordd cyfiawnder y mae bywyd; ac yn ei llwybrau hi nid oes marwolaeth.

← Llyfr y Diarhebion 11Read In The App, Free →Llyfr y Diarhebion 13 →

Study Llyfr y Diarhebion 12

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031