The Bible Software
Llyfr y Diarhebion · Beibl (1620)

Llyfr y Diarhebion 21

1Fel afonydd o ddwfr y mae calon y brenin yn llaw yr ARGLWYDD: efe a’i try hi lle y mynno.

2Pob ffordd gŵr sydd uniawn yn ei olwg ei hun: ond yr ARGLWYDD a bwysa y calonnau.

3Gwneuthur cyfiawnder a barn sydd well gan yr ARGLWYDD nag aberth.

4Uchder golwg, a balchder calon, ac âr yr annuwiol, sydd bechod.

5Bwriadau y diesgeulus sydd at helaethrwydd yn unig: ond yr eiddo pob prysur at eisiau yn unig.

6Trysorau a gasgler â thafod celwyddog, a chwelir megis gwagedd gan y neb sydd yn ceisio angau.

7Anrhaith yr annuwiol a’u difetha hwynt, am iddynt wrthod gwneuthur barn.

8Trofaus a dieithr yw ffordd dyn: ond y pur sydd uniawn ei waith.

9Gwell yw bod mewn congl yn nen tŷ, na bod gyda gwraig anynad mewn tŷ eang.

10Enaid yr annuwiol a ddeisyf ddrwg, nid grasol yw ei gynlydog yn ei olwg ef.

11Pan gosber gwatgwarwr, y bydd yr ehud gallach: a phan ddysger y doeth, efe a dderbyh wybodaeth.

12Call y mae y cyfiawn yn ystyried am dŷ yr annuwiol: ond y mae DUW yn difetha y rhai annuwiol am eu drygioni.

13Y neb a gaeo ei glust rhag llef y tlawd, a lefain ei hunan, ac nis gwrandewir ef.

14Rhodd yn y dirgel a dyr ddigofaint; a gwobr yn y fynwes, lid cryf.

15Llawen gan y cyfiawn wneuthur barn: ond dinistr fydd i weithwyr anwiredd.

16Dyn yn myned ar gyfeiliorn oddi ar ffordd deall, a orffwys yng nghynulleidfa y meirw.

17Y neb a garo ddifyrrwch, a ddaw i dlodi: a’r neb a garo win ac olew, ni bydd gyfoethog.

18Yr annuwiol a roddir yn iawn dros y cyfiawn, a’r troseddwr dros yr uniawn.

19Gwell yw aros yn yr anialwch, na chyda graig anynad ddicllon.

20Y mae trysor dymunol, ac olew, yn nhrigfa y doeth; ond dyn ffôl a’u llwnc hwynt.

21Y neb a ddilyno gyfiawnder a thrugaredd, a gaiff fywyd, cyfiawnder, ac anrhydedd.

22Y doeth a ddring i ddinas y cedyrn, ac a fwrw i lawr y cadernid y mae hi yn hyderu arno.

23Y neb a gadwo ei enau a’i dafod, a geidw ei enaid rhag cyfyngder.

24Y balch a’r gwatwarwr uchel, yw enw y gŵr a wnelo beth mewn dicllonedd balch.

25Deisyfiad y diog a’i lladd: canys ei ddwylo a wrthodant weithio:

26Yn hyd y dydd y mae yn fawr ei awydd: ond y cyfiawn a rydd, ac ni arbed.

27Aberth y rhai annuwiol sydd ffiaidd: pa faint mwy, pan offrymant mewn meddwl drwg?

28Tyst celwyddog a ddifethir: ond y gŵr a wrandawo, a lefara yn wastad.

29Gŵr annuwiol a galeda ei wyneb: ond yr uniawn a gyfarwydda ei ffordd.

30Nid oes doethineb, na deall, na chyngor, yn erbyn yr ARGLWYDD.

31Y march a ddarperir erbyn dydd y frwydr: ond ymwared sydd oddi wrth yr ARGLWYDD.

← Llyfr y Diarhebion 20Read In The App, Free →Llyfr y Diarhebion 22 →

Study Llyfr y Diarhebion 21

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031